Back
Gwasanaeth Coffa Babanod

19/06/23

Bydd Gwasanaeth Coffa i Fabanod am 11.30am ddydd Sul 25 Mehefin yng Nghapel y Wenallt ym Mynwent Draenen Pen-y-graig.

A stone fountain surrounded by treesDescription automatically generated with low confidence

Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol (sef sefydliad Sands) a bydd yn cael ei arwain gan aelodau o dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Bydd y gwasanaeth yn rhoi amgylchedd gofalgar a chefnogol i deuluoedd sydd wedi profi colled trist babi, gan roi cyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd i fyfyrio a chofio."

Yn ystod y gwasanaeth bydd cyfle i deuluoedd osod carreg goffa yn y bowlen atgofion.

Mae croeso i bawb fynychu, a bydd aelodau o gangen Caerdydd o Sands ar gael yn y gwasanaeth ym Mynwent Draenen Pen-y-Graig, CF14 9UA.

I deuluoedd yng Nghaerdydd sydd wedi colli babi, mae hefyd ardd 'Annwyl Mam' unigryw ym Mynwent y Gorllewin. Yn seiliedig ar stori llygoden ifanc o'r enw Dora sy'n dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi, mae'r ardd gerflun 'Annwyl Fam' wedi'i chynllunio i helpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwyliaid ac i fod yn fan coffa i rieni sydd wedi colli baban.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth neu'r ardd Annwyl Fam, cysylltwch ag aelod o staff y Gwasanaethau Profedigaeth yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.