Back
Ysgol i ddangos ffilm am y tro cyntaf i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 19 - 25

16/6/2023

Bydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair yn cynnal perfformiad cyntaf ffilm o gerdd a ysgrifennwyd ac a berfformir gan ddisgyblion o Bwyllgor Llywio'r Ysgol Noddfa.

Mae 'A Sanctuary Alphabet - Zig Zag Journey' yn adrodd hanes cymuned ryfeddol Butetown - gan ddechrau wrth gerflun Betty Campbell ac yn gorffen wrth gerflun Ghandi. 

 

Mae'r première yn rhan o raglen arbennig o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 19 - 25 Mehefin gydag uchafbwyntiau eraill gan yr ysgol a'r gymuned leol i gynnwys; Sgwrs gyda Hamed Amiri, awdur 'The Boy with Two Hearts', helfeydd trysor, Gwneud barcud, cinio cawl a sgwrs, gweithgareddau pontio'r cenedlaethau, sesiynau picnic rhyngwladol, yr offeren a gweddïo, taith gerdded Faithful Butetown a barbeciw Dewch at ei Gilydd. 

Gallwch weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau yma:Rhaglen Digwyddiadau Wythnos Ffoaduriaid Diwrnod Croeso - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair ac Eglwys y Santes Fair

Cafodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair y Forwyn statws Ysgol Noddfa ym mis Mehefin y llynedd, sy'n golygu ei fod yn lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid ac yn addysgu cymuned gyfan yr ysgol am yr hawl ddynol i noddfa.

Gan fyfyrio ar fwriadau'r ysgol sef Ansawdd, Amrywiaeth, Ffydd a Llewyrch, mae staff a'r gymuned wedi ymrwymo i feithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i frwydro yn erbyn ystrydebau.

Dywedodd y Pennaeth, Nicki Pritchard: "Mae Diwrnod Croeso ac Wythnos Ffoaduriaid yn rhan annatod o'n calendr blynyddol. Byddwn mewn partneriaeth ag Eglwys y Santes Fair eto eleni i gynnal digwyddiadau hyd yn oed mwy rhyfeddol, cyffrous a theimladwy. 

"Fel Ysgol Noddfa sy'n dathlu ein diwylliant croesawgar - yn ein Llyfr Da Llawen (Gwasanaeth Dathlu) bob wythnos, rydym yn croesawu pawb mewn 24 o ieithoedd gwahanol ar hyn o bryd, ond bydd hyn yn cynyddu i 28 eleni!

"Ymhlith uchafbwyntiau ein hwythnos mae première byd ein cerdd Noddfa 'Sanctuary Alphabet - A Zig Zag Journey' a berfformiwyd gyntaf yn Adeilad y Pierhead y llynedd ar gyfer lansiad Dewch at eich Gilydd Cymru a'n Picnic Rhyngwladol.

"Mae angen noddfa ar bob un ohonom yn ein bywydau ac, er y thema eleni 'Trugaredd', byddwn yn dathlu sut mae tosturi yn edrych ar waith."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd, y Cyng. Julia Sangani: "Mae'r rhaglen ffilm a digwyddiadau wych hon a gyflwynir rhwng yr ysgol, yr eglwys a'r ardal leol yn enghraifft wych o gydweithio, gan ddod â chymunedau ynghyd a sicrhau bod pobl o bob cefndir gwahanol yn cael perthnasoedd cadarnhaol, ymdeimlad o barch at ei gilydd ac yn teimlo'n ddiogel lle maent yn byw.

"Mae Wythnos Ffoaduriaid yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol yn greadigol trwy fwyd, celfyddydau, cerddoriaeth a mwy, gan arddangos yr amrywiaeth gyfoethog a welwn yng Nghaerdydd."

Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl celf a diwylliant fwyaf y byd sy'n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches.