Back
Galw am fwy o 'Geidwaid Coed' i helpu i ofalu am goed Caerdydd

15.6.23

Mae byddin o wirfoddolwyr parod wedi helpu plannu mwy na 50,000 o goed newydd yng Nghaerdydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fel rhan o raglen plannu coed dorfol 'Coed Caerdydd', sy'n ceisio cefnogi bioamrywiaeth a chynyddu darpariaeth canopi coed yn y ddinas o 18.9% i 25%.

Ond mae angen llawer o ddŵr ar goed newydd i oroesi, ac mae Cyngor Caerdydd yn gofyn i fwy fyth o drigolion ymuno â'u 'Ceidwaid Coed' presennol i helpu i ofalu am y coed newydd, a hefyd ofalu am y miloedd ohonynt ar strydoedd y ddinas.

Meddai Chris Engel, Rheolwr Prosiect Coed Caerdydd: "Ar y cyfan fe allwch chi weld pan mae coeden wedi'i dadhydradu drwy edrych ar ei dail - os ydyn nhw'n dechrau gwywo, os yw'r dail yn felyn, neu os yw'n colli dail, yna mae'n arwydd sicr bod angen ychydig o ddŵr arni.

"Bydd coed bob amser yn elwa ar gael ychydig o ddŵr bob dydd - mae angen mwy o ddŵr ar y rhai mwy o faint rydyn ni wedi'u plannu - ond mewn gwirionedd bydd unrhyw beth yn helpu, yn enwedig yn gynnar yn y bore neu gyda'r nos ar ôl i'r tymheredd ostwng. Fel hynny mae llai o ddŵr yn cael ei golli i anwedd.

"Mae hyd yn oed coed hŷn yn dioddef pan fo dŵr glaw'n brin iawn, a byddem yn gofyn i drigolion feddwl am y coed allai fod wedi bod yn sefyll ar y stryd y tu allan i'w tŷ am genedlaethau ac unrhyw rai rydym wedi eu plannu ar y strydoedd yn ddiweddar. Ond yn sicr ar gyfer coed newydd, gall cyfnodau estynedig o dywydd poeth a sych fod yn heriol.

"Mae llawer o'n gwirfoddolwyr eisoes yn ein helpu drwy gadw llygad ar y coed sydd wedi cael eu plannu yn eu cymdogaeth, ond rydyn ni am i gymaint o goed â phosib ffynnu, fel y gallant ddechrau gwneud yr holl bethau rhyfeddol rydyn ni'n gwybod eu bod yn eu gwneud. Po fwyaf o warcheidwaid coed sydd gennym yn gweithio gyda ni, y mwyaf o goed y bydd gennym yr hydref nesaf, a'r gynharaf y gallwn ni i gyd ddechrau elwa."

Mae'r coed a blannwyd dros y ddau dymor plannu diwethaf yn cynnwys coed ffrwythau megis afalau, cyll, gellyg ac eirin a choed sydd ddim yn ffrwytho fel gwernen, ffawydden, oestrwydden a cherddinen. Gyda'i gilydd maen nhw'n cwmpasu ardal o dir sy'n cyfateb i fwy na 30 o gaeau pêl-droed.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae'r ymateb cymunedol i brosiect Coed Caerdydd wedi bod yn anhygoel. Diolch i wirfoddolwyr ar draws y ddinas bu newid sylweddol yn nifer y coed a blannwyd dros y ddau dymor plannu diwethaf."

"Rydyn ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni, ond mae rhoi dŵr i 50,000 o goed yn waith enfawr, a bydd unrhyw gymorth pellach y gall trigolion ei roi dros fisoedd yr haf o wir fudd i'r coed, ac i'n hymdrechion i wneud Caerdydd yn ddinas Un Blaned."

 

Sut i arbed dŵr - a dal i ddyfrio'r coed a'r planhigion!

Mae dŵr yn adnodd cyfyngedig, felly mae arbed cymaint ag y gallwn yn bwysig. Ond mae 'na ffyrdd o wneud i'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio fynd ymhellach... a helpu natur yn y broses

  • Mae gwastraff llwyd yn golygu unrhyw ddŵr cartref gwastraff sydd ddim yn cael ei ystyried yn garthion (dŵr toiled wedi'i fflysio). Felly, mae hyn yn golygu dŵr golchi llestri, dŵr o beiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri a'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio i gael cawod neu ymolchi. Fel arfer, gall dŵr llwyd gynnwys cemegau niweidiol ond bydd defnyddio cynhyrchion 'gwyrdd' fel Ecover a Bio-D yn cyfyngu ar effeithiau negyddol eu defnyddio i ddyfrio planhigion
  • Os oes gennych system hidlo dŵr llwyd, gwych! Os nad oes, wedi i chi gasglu eich dŵr llwyd, efallai trwy bwynt casglu trwy bwynt draenio allanol, gadewch iddo sefyll am ddiwrnod fel ygall micro-organebau ddechrau dirywio'r cynhwysion actif hyn a gall halogyddion suddo i'r gwaelod
  • Mewn tywydd poeth, gall pathogenau ddatblygu yn y dŵr llwyd os caniateir iddo sefyll yn rhy hir felly defnyddiwch ef ar gyfer planhigion addurnol neu goed yn hytrach na llysiau, er enghraifft. Bydd y dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i olchi llysiau yn iawn ond mae angen bod yn ofalus gyda dŵr o farbeciw
  • Peidiwch â dyfrio planhigion yn uniongyrchol gyda dŵr llwyd. Rhowch botyn planhigyn yn y pridd ger y planhigion ac arllwys y dŵr llwyd i mewn iddo felly gall y micro-organebau dorri i lawr yn y pridd a

  • Pheidiwch byth â rhedeg dŵr llwyd drwy bibell ddŵr na systemau chwistrellu