Back
Beth Nesaf? Digwyddiadau a gwybodaeth i helpu pobl ifanc i benderfynu beth i'w wneud ar ôl arholiadau

15/6/2023

Bydd ystod eang o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal dros y misoedd nesaf i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf yn dilyn diwrnodau canlyniadau arholiadau Safon Uwch a TGAU ym mis Awst. 

Mae Addewid Caerdydd yn dwyn ynghyd cyflogwyr, cynghorwyr gyrfaoedd a sefydliadau eraill i roi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc ar gyfleoedd mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Yn cael ei gynnal ar draws y ddinas o fis Mehefin tan fis Awst gellir gweld rhaglen lawn o ddigwyddiadau yma:

www.whatsnextcardiff.co.uk

www.imewniwaithcaerdydd.co.uk

Gall Pobl Ifanc hefyd ddod o hyd i lu o wybodaeth ar wefan 'Beth Nesaf?  .

Wedi'i anelu at bobl ifanc 16 i 24 oed, mae'r platfform yn siop un stop sy'n cynnwys gwybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill yng Nghaerdydd, gan ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i bobl ifanc ddarganfod opsiynau sydd ar gael iddynt wrth ystyried eu dyfodol. Mae'r platfform hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr ystod o lwybrau sydd ar gael i bobl ifanc sy'n awyddus i fynd i yrfaoedd y mae galw amdanynt o fewn ystod o sectorau blaenoriaeth yn y ddinas.

Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghaerdydd fynediad at y cymorth cywir sydd ar gael wrth wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

"Mae'r digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio ochr yn ochr â Llwyfan Beth Nesaf? yn rhoi cyfoeth o wybodaeth a chyngor i bobl ifanc pan fyddant yn ystyried 'beth nesaf?', gan helpu i godi'r dyheadau ar adeg pan fydd llawer yn teimlo'n ansicr ar ôl diwedd eu harholiadau.

"Mae yna gyfoeth o wahanol gyfleoedd ar gael yn y ddinas ac rydym yn gyfeirio pobl ifanc at y cyfleoedd hynny, p'un a yw hynny'n golygu parhau â'u haddysg yn y Chweched Dosbarth, cwrs coleg, prifysgol, ennill profiad gwaith, rhaglenni hyfforddi, cynlluniau graddedigion, prentisiaethau a mwy."

Gwneir diweddariadau rheolaidd i wefan 'Beth Nesaf?' Caerdydd, wrth i fwy a mwy o ddarpariaeth a chyfleoedd ddod ar gael. Mae Addewid Caerdydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i roi gwybodaeth i bobl ifanc am gyfleoedd mewn sectorau sy'n tyfu a'r sgiliau a'r cymwysterau y bydd eu hangen ar gyfer y rolau hyn yn y dyfodol.

Gall y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith hefyd helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu cam nesaf, gan roi cyngor cyflogaeth arbenigol, hyfforddiant am ddim *yn amodol ar gymhwysedd*, cymorth i gael gafael ar gyllid ar gyfer costau ymlaen llaw sydd eu hangen cyn dechrau swydd neu goleg a chanllawiau 1 i 1 drwy anawsterau dod o hyd i waith neu addysg bellach. Drwy gydol yr haf, bydd y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cynnal ac yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ledled y ddinas. Bydd y digwyddiadau'n amrywio o ddiwrnodau agored cymunedol, ffeiriau swyddi, diwrnodau hyfforddi a digwyddiadau dathlu sy'n tynnu sylw at lwyddiant unigolion sy'n ymgysylltu â'r ddarpariaeth. Er mwyn cefnogi pobl ifanc yn dilyn canlyniadau Safon Uwch a diwrnodau canlyniadau TGAU, bydd Mentoriaid Ieuenctid wedi'u lleoli ar draws hybiau cymunedol.

Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor ar Waith drwycyngorimewniwaith@caerdydd.gov.ukneu drwy fyndiwww.imewniwaithcaerdydd.co.ukigael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol.

Mae Mentoriaid Ieuenctid o'r Gwasanaeth Ieuenctid ar gael i gefnogi pobl ifanc drwy gydol yr haf ac i dymor yr Hydref, gan eu helpu gyda'u camau nesaf yn dilyn arholiadau drwy archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol mewn addysg, cyflogaeth, hyfforddiant, gwirfoddoli. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch âEIPReferral@caerdydd.gov.uk