Back
Busnesau arloesol yn symud yn gynt at Gaerdydd carbon niwtral

13.6.23

Gyda 23% o'r 1.6 miliwn tunnell o allyriadau carbon a gynhyrchir bob blwyddyn yng Nghaerdydd yn cael eu cynhyrchu gan y sectorau masnachol a diwydiannol, daeth busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd heddiw (13 Mehefin) i ddysgu gan rai o'r busnesau lleol arloesol sydd eisoes yn lleihau eu hôl troed carbon yn sylweddol, i weld sut y gallant hwythau hefyd helpu i gyflymu Caerdydd tuag at ddyfodol carbon niwtral.

Wedi'i gynnal gan Gyngor Caerdydd yng nghanolfan ddarganfod gwyddoniaeth Techniquest ym Mae Caerdydd, daeth dros 100 o fusnesau a sefydliadau lleol o'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i'r Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned gyntaf.

Dwedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Mae ymateb i newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ein hagenda ac fel cyngor rydym yn gwneud cynnydd da o ran lleihau ein hallyriadau ein hunain, ond rydym bob amser wedi bod yn glir, os ydym am gyflawni ein gweledigaeth o Gaerdydd carbon niwtral, bod angen i'r ddinas gyfan fod gyda ni a gwneud newidiadau.

"Mae llawer o fusnesau, sefydliadau ac unigolion lleol eisoes yn gwneud gwaith gwych i leihau eu hallyriadau - ond ochr yn ochr â'r arbenigedd a'r wybodaeth honno mae llawer o egni a brwdfrydedd hefyd, felly bydd cael yr holl bobl hynny mewn un man heddiw yn helpu i ddatblygu partneriaethau a all fod yn gatalydd ar gyfer gweithredu ar hyd yn oed fwy o frys."

Un o'r busnesau sydd eisoes yn bwrw ymlaen â datgarboneiddio yw Euroclad Group, cyflenwr datrysiadau adeiladu metel pensaernïol yng Nghaerdydd i'r diwydiant adeiladu.  Trwy ei raglen gynaliadwyedd, Planet Passionate, ei nod yw creu effaith gadarnhaol ar dair her fawr fyd-eang: newid yn yr hinsawdd, cylchedd a gwarchod ein byd naturiol.

Mae Euroclad Group yn gosod paneli PV solar ar bob un o'i tairuned gynhyrchu, maent wedi uwchraddio eu holl oleuadau yn rhai LED ynni effeithlon, symud i ddeunydd pacio y gellir ei ailgylchu'n llawn gydag isafswm o 30% o'r cynnwys yn gynnwys y gellir ei ailgylchu, yn gweithio gyda chwmni cludo nwyddau lleol i sicrhau bod eu nwyddau yn cael eu cludo gan ddefnyddio tryciau trydan 100% neu rai biomethan  - rhywbeth a arbedodd dros 9 tunnell o CO2e rhwng Ionawr a Mai yn unig, acerbyn diwedd 2023 bydd pob un o'u cerbydau fflyd yn gerbydau EV.

Dwedodd Darren Stewart, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp Euroclad: "Mae cymryd camau ar newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i'n busnes gan ein bod yn ymwybodol o effaith sylweddol ein diwydiant ar yr amgylchedd, ac rydym yn cydnabod yr angen brys am gynaliadwyedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydym am gyrraedd targed Llywodraeth y DU ar gyfer allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.  Dyna pam rydym yn gweithio'n galed i gyflawni targedau uchelgeisiol a nodir yn ein RhaglenPlanet Passionate. Bydd cymryd y camau angenrheidiol i roi newidiadau ar waith ar draws ein cyfleusterau, a gydol ein gweithrediadau a'n prosesau, yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau lleihau carbon critigol, effeithlonrwydd ynni, cylchred a chadwraeth dŵr, sy'n cyd-fynd â'n gweledigaeth o greu dyfodol mwy cynaliadwy."

Busnes arall yng Nghaerdydd sy'n cymryd camau breision i leihau eu hallyriadau yw TB Davies Ltd, busnes teuluol dros bedair cenhedlaeth a sefydlwyd yn y 1940au ac sydd bellach yn gyflenwr offer mynediad blaenllaw yn y DU. Mae'r cwmni'n cynhyrchu ac yn dosbarthu ystod eang o gynhyrchion dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, tyrau a phodiymau ar gyfer y defnyddiwr proffesiynol, masnachol a domestig.

Dechreuodd y busnes ddatgarboneiddio yn ôl yn 2019 trwy ddisodli goleuadau warws halogen dwys o ran ynni gyda goleuadau LED mwy effeithlon. Ymhlith y mesurau eraill a gymerwyd ganddynt oedd gweithredu system fewnforio archebion cwsmeriaid EDI awtomataidd, helpu i leihau'r defnydd o bapur, gofynion argraffu a gwastraff trwy wall dynol.

Ers hynny, mae'r cwmni wedi gosod system panel solar 30kW (siâp ysgol), wedi newid cyflenwadau ynni i drydan cwbl wyrdd yn unig (pŵer solar, hydro a ffynhonnell gwynt), wedi bod yn cyflwyno unedau pŵer EV / hybrid i gerbydau a pheiriannau fforch godi'r cwmni, ac wedi cynnal archwiliad llawn i feintioli, lleihau a thynnu deunydd pacio plastig allan o'u cadwyn gyflenwi.

Mae gwaith mwy diweddar i leihau allyriadau a gynhyrchir yn anuniongyrchol drwy eu cadwyn gyflenwi wedi eu gweld yn ddiweddar yn ennill gwobr 'Cynllun Lleihau Carbon Gorau - Busnesau Bach' Busnes Cymru.

Dwedodd Cyfarwyddwr TB-Davies Cyf, Mat Gray: "Rydyn ni wedi trawsnewid y ffordd rydyn ni'n cynnal ein busnes dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r nod o sicrhau ein bod ni'n gwneud ein cyfran deg i amddiffyn ein hamgylchedd. Drwy ystyried cynaliadwyedd yn rhagweithiol gydag unrhyw brosiectau newydd i'r cwmni, rydym yn dod o hyd i ffyrdd gwell o weithio, ac mae'r rhain yn gynyddol yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon a gwella ein cyfleoedd masnachol mewn diwydiant.

"Fy nghyngor i unrhyw sefydliad sy'n dechrau ar eu taith yw dechrau edrych ar eu data.  Mae'n haws nag a feddyliwch i gyfrifo'ch Ôl-troed Carbon. Ar ôl ei wneud, byddwch yn gallu gweld lle gellir gwneud eich arbedion carbon mwyaf, a bydd hyn yn eich helpu i gynllunio eich llwybr at ddyfodol gwell i'ch cwmni a'r gymuned gyfan."