Back
Amlygu Ymrwymiad Caerdydd i Blant sy'n Derbyn Gofal mewn adroddiad blynyddol

 13/6/2023 

Amlygwyd ymrwymiad Caerdydd i ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau i blant y ddinas sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor.

Gan gydweithio ar draws y Cyngor, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg ac asiantaethau statudol eraill, mae'r Pwyllgor yn sicrhau'r cyfrifoldeb ar y cyd am les plant mewn gofal a'i nod yw diogelu a sicrhau'r cyfleoedd gorau i'r plant hyn lwyddo mewn bywyd.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o weithgareddau llwyddiannus ac allweddol a gynhaliwyd gan y pwyllgor ers mis Mawrth 2022 gan gynnwys sicrhau cyllid grant Llywodraeth Cymru i sefydlu Ysgol Rithwir a Phennaeth Ysgol Rhithwir (PYRh) i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill i gefnogi cynnydd addysgol plant yn eu hysgolion ond sy'n derbyn gofal gan ardaloedd eraill.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys, Seremoni Wobrwyo Bright Sparks a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas i ddathlu cyflawniadau plant sy'n derbyn gofal, darparu hyfforddiant a chymorth i aelodau ar gyfrifoldeb rhianta corfforaethol a chynnydd y Strategaeth Rhianta Corfforaethol ddiwygiedig, cynllun amlasiantaethol tair blynedd sy'n nodi'r hyn y mae angen i ni i gyd ei wneud fel rhieni corfforaethol i gefnogi ein Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal i'w galluogi i ffynnu.

Bu'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry yn myfyrio ar yr adroddiad; "Yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid 19, mae'r Pwyllgor wedi gallu ail-ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan roi cyfle i aelodau glywed barn, heriau a chyflawniadau'n uniongyrchol gan bobl ifanc â phrofiad o ofal yng Nghaerdydd. Un o uchafbwyntiau arbennig i mi yw mynychu gwobrau blynyddol Bright Sparks, mae'r seremoni hon wedi bod yn cael ei chynnal ers 17 mlynedd ac yn cydnabod cyflawniadau plant sy'n derbyn gofal, teuluoedd, gofalwyr a staff. Cefais y fraint o allu rhoi gwobr ar y noson, ac roedd yn wych gweld holl gyflawniadau ein pobl ifanc a dathlu eu llwyddiant, eu gwydnwch a'u penderfyniad.

"Gan edrych tua'r flwyddyn i ddod, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar adeiladu ar sesiynau ymgysylltu, yn ogystal â gwasanaethau ymweld, a sefydliadau sy'n rhoi cyfle i glywed gan staff, teuluoedd a phobl ifanc yn uniongyrchol, ar y gwasanaethau sy'n eu cefnogi."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant:  "Mae'r Pwyllgor yn ymroddedig i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal yng Nghaerdydd ac rwy'n arbennig o falch o'r gwaith a wnaed i sefydlu'r model Ysgol Rithwir, a fydd yn cael ei dreialu tan fis Awst 2024. Bydd y plant a phobl ifanc yn parhau i fynychu'r ysgolion y maent wedi'u cofrestru ynddynt, gyda'r Pennaeth Rhithwir yn olrhain eu cynnydd, gan helpu i ddatblygu cyrhaeddiad a chyflawniad a gwella deilliannau addysgol yr holl blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

"Trwy gydweithio, ymgysylltu a monitro, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob plentyn yn ein gofal yn cael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd."

Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar 15 Mai.  Gallwch ei ddarllen yn llawn ymaAgenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Llun, 15fed Mai, 2023, 5.45 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)