Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 02 Mehefin 2023


Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn dychwelyd i Roald Dahl Plass; cyngor traffig a theithio ar gyfer cyngerdd Colplay ar 6 a 7 Mehefin a chais i breswylwyr gadw parciau a mannau agored Caerdydd yn lân i bawb eu mwynhau.

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd 2023

Bydd piazza bwyd stryd, marchnad ffermwyr, a ffair gynhyrchwyr, gyda chrddoriaeth fyw, i gyd ar y fwydlen ym Mae Caerdydd yr haf hwn wrth i Ŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ddychwelyd.

Un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr digwyddiadau Caerdydd a'r ŵyl bwyd a diod fwyaf am ddim yng Nghymru, mae'r ŵyl yn agor am hanner dydd ddydd Gwener 7 Gorffennaf ac yn cael ei chynnal trwy gydol y penwythnos.

Bydd mwy na chant o stondinwyr yn cynnig ystod ysblennydd o fwydydd hyfryd, gan gynnwys: hufen iâ artisanaidd, cawsiau, cigoedd, diodydd wedi'u bragu a'u distyllu yn Ffair y Cynhyrchwyr; cyffeithiau, danteithion melys, a chynnyrch a dyfir yn lleol yn y Farchnad Ffermwyr; tra bod y masnachwyr yn y Piazza Bwyd Stryd yn coginio popeth o fyrgyrs i fyns bao, ac o fôr-lawes i souvlaki.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd bob amser yn ddiwrnod allan gwych. Cyfle i brofi bwyd a blasau o bob cwr o'r byd, yn ogystal â nwyddau o ansawdd uchel a chynnyrch gan fasnachwyr Cymreig annibynnol."

Darllenwch fwy yma

Cyngor traffig a theithio ar gyfer Coldplay yn Stadiwm Principality ar 6 a 7 Mehefin

ByddColdplay yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 6 a 7 Mehefin.

I sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 4pm tan hanner nos ar 6 a 7 Mehefin.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a'r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Stadiwm Lecwydd, neu'r cyfleuster parcio a cherdded yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd arWefan Traffig Cymru, neu @TraffigCymruD arTwittera @TrafficWalesS arFacebook.

I osgoi cael eich siomi, cynghorir y rhai sy'n mynd i weld y cyngerdd yn gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a mynd i Gaerdydd a'r stadiwm yn gynnar. Bydd gatiau Stadiwm Principality ar agor i'r cyhoedd am 5pm. Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales,yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

Mwynhewch barciau Caerdydd ond cofiwch lanhau ar ôl eich hun

Gyda'r pwysedd uchel parhaus dros y DU, mae Caerdydd yn mwynhau tywydd braf ar hyn o bryd ac mae parciau a mannau agored Caerdydd yn eu blodau llawn i drigolion eu mwynhau.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau mannau agored Caerdydd, mae'r cyngor yn gofyn i bawb beidio â gollwng sbwriel ar y llawr a defnyddio'r biniau sbwriel a ddarperir.  Os yw'r biniau sbwriel yn llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi.

Mae'r cyngor hefyd yn gofyn i breswylwyr beidio â defnyddio barbeciws untro ym mharciau a mannau agored Caerdydd chwaith, gan eu bod yn risg tân ac yn anodd eu gwaredu'n ddiogel ar ôl iddynt gael eu defnyddio.

Mae parciau Caerdydd yn cael eu glanhau a'u clirio gan staff y cyngor, ond os yw pawb yn chwarae eu rhan ac yn glanhau ar ôl eu hunain, yna bydd y parciau'n parhau i fod yn lân ac yn daclus i bawb eu mwynhau.