30/05/23 - Mae'n bryd enwebu i wobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant!
Bydd Gwobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cael eu cynnal fis Gorffennaf yma, yn dathlu ac yn cydnabod plant, pobl ifanc a sefydliadau sydd wedi hyrwyddo hawliau plant yn eu cymuned, eu bywyd bob dydd a'u gweithle.
27/05/23 - Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned i helpu Caerdydd i gyflymu'r daith i net-sero
Bydd busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o bob rhan o Gaerdydd yn ymgynnull ar gyfer 'Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned' i helpu i gyflymu taith y ddinas i ddyfodol sero-net.
25/05/23 - Canmoliaeth i Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ar ôl ymweliad gan Estyn
Mae un o ysgolion Catholig mwyaf Caerdydd wedi cael ei ganmol gan arolygwyr am ei "chymuned ofalgar a meithringar" ac am geisio "cyfoethogi bywydau disgyblion trwy ffydd a gofal, cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd uchel dros ben".
25/05/23 - Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau eu rolau
Mae cynghorydd Caerdydd, Bablin Molik, sydd wedi dod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd, wedi enwi UCAN Productions - elusen berfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant dall a rhannol ddall - fel ei helusen ddewis am ei chyfnod yn y swydd.
24/05/23 - Datgelu cynlluniau i adnewyddu Marchnad hanesyddol Caerdydd
Mae cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd wedi'u datgelu i adnewyddu Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd a fyddai'n gwarchod, cadw a diogelu'r adeilad rhestredig Gradd II* i'r dyfodol, gan adfer nodweddion dylunio gwreiddiol, a chyflwyno ardal newydd ar y llawr gwaelod ar gyfer bwyd.
23/05/23 - Y Cynghorydd Graham Hinchey - Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd - yn camu i lawr o'i ddyletswyddau swyddogol
Bydd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Arglwydd Faer ddydd Iau yn ogystal â'i Ddirprwy, y Cynghorydd Abdul Sattar yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn Neuadd y Ddinas.
22/05/23 - Gwirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn cael hwb ariannol gan y Loteri Genedlaethol
Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn grant o £95,000 gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi ei brosiect gwirfoddoli ffyniannus, sydd ar hyn o bryd â rhwng 30 a 40 o wirfoddolwyr newydd yn cael eu derbyn bob wythnos.
17/05/23 - Gerddi Cogan yn ailagor yn dilyn gwaith gwella
Mae Gerddi Cogan, man gwyrdd bach yng nghanol cymuned Cathays, wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwelliannau mawr.
15/05/23 - ‘Mental Elf' a straeon eraill yn cychwyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Cafodd ffilmiau byr animeiddiedig a grëwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl o Gaerdydd eu dangosiad cyntaf yn y ddinas heddiw (dydd Llun 15 Mai) mewn digwyddiad arbennig i gychwyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
15/05/23 - Gofyn i'r cyhoedd roi eu barn ar ffyrdd y cynigir eu cadw fel rhai 30mya
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus o Ddydd Llun nesaf (15 Mai) tan 7 Mehefin ar ffyrdd a allai gael eu cadw fel rhai 30mya pan ddaw'r cyfyngiad cyflymder diofyn 20mya newydd ar gyfer ardaloedd preswyl i rym ym mis Medi 2023.
15/05/23 - Pelydrau porffor ledled y ddinas wrth i Gaerdydd gael ei goleuo ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth 2023
I ddathlu gofalwyr maeth ymroddgar Caerdydd ac i nodi dechrau'r Pythefnos Gofal Maeth, bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas yn disgleirio ym mis Mai.