Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 19 Mai 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Gerddi Cogan yn ailagor yn dilyn gwelliannau; rhandiroedd Caerdydd yn ennill gwobr; parhau â dathliadau'r Mis Cerdded Cenedlaethol; a Pharti Palas i Food & Fun.

 

Gerddi Cogan yn ailagor yn dilyn gwaith gwella

Mae Gerddi Cogan, man gwyrdd bach yng nghanol cymuned Cathays, wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwelliannau mawr.

Ymunodd plant o Ysgol Gynradd Fwslimaidd Caerdydd â chynghorwyr ward lleol, a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke, ddydd Gwener diwethaf (12 Mai), i ddathlu cwblhau'r gwaith, sy'n rhan o raglen fuddsoddi sy'n parhau gwerth £3.2 miliwn mewn parciau ac ardaloedd chwarae ledled Caerdydd.

Mae'r gwelliannau i'r parc, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â'r gymuned leol, yn cynnwys:

 

  • ardal chwarae newydd.
  • offer ymarfer corff awyr agored.
  • bwrdd gwyddbwyll a chadeiriau.
  • biniau newydd a meinciau picnic.
  • lawnt, llwyni a dôl newydd.
  • llwybrau cerdded a llwybr cerdded cylchol.
  • amddiffyn a chadw pob pisgwydden aeddfen.
  • adnewyddu'r rheiliau ar hyd y ffiniau.

Dywedodd y Cynghorydd Burke:  "Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau hapus yn mwynhau'r gwelliannau i Erddi Cogan.  Mae parciau lleol ac ardaloedd chwarae yn hynod o bwysig, gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl, a dyna pam rydyn ni'n parhau i fuddsoddi ynddyn nhw mewn cymunedau ledled Caerdydd."

 

Rhandiroedd Caerdydd yn ennill gwobr 'Trawsnewid Cymuned'

Mae'r gwaith o drawsnewid safle rhandiroedd yng Nghaerdydd, a oedd wedi'i guddio bron yn llwyr y tu ôl i wal o fieri ddwy flynedd yn ôl ac sydd bellach yn gartref i erddi cychwyn newydd, lleiniau hygyrch, gardd gymunedol, perllan, a llecyn addysg, wedi ennill gwobr 'Trawsnewid Cymuned'.

Yn 2021, aeth deiliaid lleiniau yn rhandiroedd Pafiliwn Pengam ar Ffordd Rover ati eu hunain i glirio rhan o'r safle a oedd dan gymaint o fieri fel "nad oedd modd gweld bod coeden yno" yn ôl aelod o gymdeithas y rhandiroedd, John Cook, wrth iddo bwyntio at goeden dderw fawr sy'n sefyll yn dalsyth ymysg 21 o 'erddi cychwyn' newydd a gynlluniwyd i annog garddwyr a allai fod wedi cael trafferth gyda llain safonol mwy o faint oherwydd problemau iechyd neu symudedd.

"Roedd yn ddolur llygaid i'w weld o'r ffordd," cadarnhaodd ysgrifennydd y safle Tracey Woodberry, "ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gydag e, felly fe ddechreuon ni glirio gan bwyll."

Wedi cwblhau'r gwaith clirio, gwahoddodd y gymdeithas Gyngor Caerdydd i weld y gwaith roedden nhw wedi ei wneud a rhannu eu cynlluniau ar gyfer y safle, sydd yn un o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. "Cafodd gymaint o argraff arnyn nhw," meddai Tracey, "dwi ddim yn meddwl y gallen nhw gredu'r peth."

Bryd hynny, cyflwynodd y Cyngor gynlluniau'r gymdeithas i gael grant gan Gronfa Waddol Travis Perkins, a sefydlwyd fel rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol a sicrhawyd gan y Cyngor fel rhan o gontract a ddyfarnwyd i'r cwmni i gyflenwi a darparu deunyddiau adeiladu.

Dwedodd Martyn Piper, Rheolwr Cyfrif Travis Perkins: "Roedd y prosiect yn edrych yn wych ar bapur, ond wrth ddechrau siarad â phobl a theimlo'u hangerdd a'u brwdfrydedd, dyna pryd rydych chi'n cael dealltwriaeth wirioneddol o faint y gallai ei olygu i'r gymuned."

Y canlyniad terfynol oedd rhodd o £25,000 o ddeunyddiau adeiladu, offer a llafur a wnaeth helpu tuag at y gwaith o drawsnewid y llecyn a fu'n segur cyn hynny, ynghyd â gwaith caled y gwirfoddolwyr, a chefnogaeth gan y Cyngor.

"Mae'n hyfryd meddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth o fudd i'r gymuned," ychwanegodd Martyn, "a gwybod bod y daith yn parhau ac mae'r prosiect yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol fisoedd ar ôl i ni roi ein rhodd."

Daeth y gydnabyddiaeth honno ar ffurf enwebiad ar gyfer Gwobr Cymru Daclus ond, er gwaethaf ymdrechion cymdeithas y rhandiroedd, a oedd yn eistedd wrth fwrdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wrth i'r canlyniadau gael eu darllen, doedd ganddyn nhw ddim syniad o hyd eu bod ar fin bod yn 'Enillwyr Gwobr Trawsnewid Cymuned 2023.'

Darllenwch fwy yma

 

Daliwch ati i ddathlu'r Mis Cerdded Cenedlaethol yn ein digwyddiad am ddim

Dyma'r amser perffaith i archwilio'r awyr agored arbennig ar droed, gyda mannau gwyrdd hardd a llwybrau gwych i'w darganfod. Gyda'r gwanwyn wedi cyrraedd, does dim ffordd well o wneud y gorau o barciau a mannau gwyrdd y ddinas. Cymerwch olwg ar  wefan Awyr Agored Caerdydd   i ddod o hyd i lwybr cerdded yn eich ardal chi.

Dathlwch Mis Cerdded Cendlaethol gyda Thaith Peillwyr am ddim.

Ymunwch â Buglife Cymru ddydd Mercher 24 Mai am 10.30am-1pm ar gyfer taith gerdded drwy Fferm y Fforest. Dysgwch am yr amryw bryfed peillio yn y DU a sut i'w hadnabod. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymgysylltu â byd natur a dysgu am y pryfed pwysig yma.

I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau,  ewch yma.

 

Janet Dawe o Ysgol Gynradd Bryn Celyn yn cael cydnabyddiaeth frenhinol am lwyddiant Food & Fun

Mae Janet Dawe, aelod o staff Ysgol Gynradd Bryn Celyn ym Mhentwyn wedi mynychu garddwest ym Mhalas Buckingham i gydnabod ei gwaith caled yn cydlynu'r prosiect Bwyd a Hwyl yn yr ysgol.

Bwyd a Hwyl yw rhaglen gyfoethogi gwyliau arobryn Caerdyddsy'n cynnig addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach yn ystod gwyliau haf yr ysgol, i'r plant hynny sydd ei angen fwyaf.

Janet Dawe fu'r Cydlynydd Bwyd a Hwyl yn yr ysgol ers nifer o flynyddoedd.  Hoffai Cyngor Caerdydd a'r ysgol ddiolch yn fawr iawn i Jan a'i holl dîm o staff gweithgar am sicrhau bod y rhaglen yn gymaint o lwyddiant.  

Bydd rhaglen Bwyd a Hwyl Caerdydd yn cael ei chyflwyno i fwy na 30 o ysgolion ledled y ddinas yr haf hwn. 

Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun  yma.