Back
Gofyn i’r cyhoedd roi eu barn ar ffyrdd y cynigir eu cadw fel rhai 30mya

15/05/23


Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus o Ddydd Llun nesaf (15 Mai) tan 7 Mehefin ar ffyrdd a allai gael eu cadw fel rhai 30mya pan ddaw'r cyfyngiad cyflymder diofyn 20mya newydd ar gyfer ardaloedd preswyl i rym ym mis Medi 2023.

 

Bydd trigolion Caerdydd yn gallu gweldmap ar-leinsy'n dangos y ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnig fel eithriadau i'r ddeddfwriaeth 20mya genedlaethol.  Yn gyffredinol, mae'r rhain yn brif lwybrau i mewn i'r ddinas.

 

Gofynnir i drigolion ddychwelyd eu barn ar yr eithriadau 30mya arfaethedig a gynigir gan y cyngor erbyn 7 Mehefin drwy e-bostiogwrthwynebiadaugorchymyntraffigffyrdd@caerdydd.gov.uk. Bydd pob sylw ar yr eithriadau yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.  Ni fydd sylwadau ar y newid yn y gyfraith i symud i sefyllfa ddiofyn cenedlaethol o 20mya yn cael eu hystyried, gan fod y gyfraith eisoes wedi cael ei phasio gan y Senedd.

 

Cafodd y penderfyniad i wneud 20mya y 'sefyllfa genedlaethol ddiofyn mewn ardaloedd preswyl' yng Nghymru ei wneud ym mis Gorffennaf 2022 gan y Senedd a bydd y gyfraith yn dod i rym ar 17 Medi 2023. Rôl y cyngor, fel yr awdurdod priffyrdd, yw sicrhau bod y prosesau statudol gofynnol yn cael eu dilyn a bod unrhyw newidiadau cyfreithiol dilynol yn cael eu gwneud, a bod arwyddion stryd yn cael eu newid lle bo angen.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y bydd trosglwyddiad llyfn ar rwydwaith priffyrdd Caerdydd, fel ein bod yn barod erbyn mis Medi eleni. Nid ymagwedd cyffredinol yw'r newid, mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ardaloedd preswyl, gan wneud y strydoedd hyn yn fwy diogel i drigolion ac yn amgylchedd gwell i bobl gerdded neu feicio."

 

"Mae'r holl eithriadau arfaethedig ar brif lwybrau i mewn i'r ddinas, er mwyn sicrhau bod y traffig yn gallu llifo i mewn ac allan o'r ddinas mor effeithlon â phosib. Mae ymgynghoriad eisoes wedi cael ei gynnal gyda chynghorwyr lleol, felly rydyn ni nawr am i'r cyhoedd roi eu barn ar y strydoedd a fydd yn cael eu cadw fel rhai 30mya."

 

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:

 

"Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn - mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau.  Mae cyflymder arafach hefyd yn helpu i greu cymuned fwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl i gerdded a beicio mwy, gan wella eu hiechyd a'u lles a diogelu'r amgylchedd ar yr un pryd."