Back
Y newyddion gennym ni - 15/05/23

Image

12/05/23 - Y Cyngor yn arwain ar gynllun benthyciadau ar gyfer gwaith diogelwch tân hanfodol

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n datblygu cynllun benthyciadau i sicrhau bod datblygwyr blociau fflatiau uchel a chanolig ledled Cymru'n gwneud gwaith diogelwch tân hanfodol cyn gynted â phosibl, gan helpu i sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Darllenwch fwy yma

 

Image

12/05/23 - Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia i nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Fe fydd Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia yn cael ei chynnal yn Neuadd Llanofer yr wythnos nesaf, yn rhan o weithgareddau Wythnos Gweithredu Dementia y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

11/05/23 - Rhandiroedd Caerdydd yn ennill gwobr 'Trawsnewid Cymuned'

Mae'r gwaith o drawsnewid safle rhandiroedd yng Nghaerdydd, a oedd wedi'i guddio bron yn llwyr y tu ôl i wal o fieri ddwy flynedd yn ôl ac sydd bellach yn gartref i erddi cychwyn newydd, lleiniau hygyrch, gardd gymunedol, perllan, a llecyn addysg, wedi ennill gwobr 'Trawsnewid Cymuned'.

Darllenwch fwy yma

 

Image

10/05/23 - Cyngor traffig a theithio pan fydd Beyoncé yn Stadiwm Principality ar 17 Mai

Bydd Beyoncé yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 17 Mai, yn rhan o'r Daith Fyd-eang Renaissance.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/05/23 - Murlun enfawr o Betty Campbell MBE wedi ei ddadorchuddio'n swyddogol.

Mae murlun enfawr o brifathrawes ddu gyntaf Cymru wedi cael ei ddadorchuddio'n swyddogol heddiw, Ddydd Mawrth 9 Mai.

Darllenwch fwy yma

 

Image

09/05/23 - Lefelau gwirfoddoli ym Mharciau Caerdydd nôl at yr hyn oedden nhw cyn Covid ac yn 'help mawr'

Mae pobl ledled y DU wedi cael eu hannog i ymuno â'r 'Help Llaw Mawr' yr wythnos hon i nodi Coroni Ei Fawrhydi'r Brenin, ond ym mharciau Caerdydd mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cynnig 'help llaw mawr' drwy'r flwyddyn - gyda'r nifer o oriau y maen nhw'n eu treulio yn gweithio ym mannau gwyrdd y ddinas - yn ôl, am y tro cyntaf, i'r un lefel â chyn Covid.

Darllenwch fwy yma

 

Image

04/05/23 - Dweud eich dweud am gynigion i ailwampio ac adfywio darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynyd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor heddiw, sy'n rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

03/05/23 - Ysgol gynradd yn gwneud "cynnydd cryf iawn" yn ôl Estyn

Wyth mlynedd ar ôl i adroddiad gan Estyn ganfod bod angen gwelliant sylweddol ar ysgol gynradd yng Nghaerdydd a bod safonau addysgu'n annigonol, mae arolygwyr wedi barnu ei bod wedi gwneud cynnydd cryf iawn mewn sawl maes.

Darllenwch fwy yma