Back
Y Cyngor yn arwain ar gynllun benthyciadau ar gyfer gwaith diogelwch tân hanfodol

 12/5/23

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n datblygu cynllun benthyciadau i sicrhau bod datblygwyr blociau fflatiau uchel a chanolig ledled Cymru'n gwneud gwaith diogelwch tân hanfodol cyn gynted â phosibl, gan helpu i sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

 

Byddai'r Cyngor yn gweithredu Cynllun Benthyciadau Datblygwyr Diogelwch Adeiladau Cymru gwerth £20m, gan ddarparu benthyciadau di-log i ddatblygwyr cymwys yng Nghymru.  Y Cyngor sydd yn y sefyllfa orau i wneud y rôl hon gan fod nifer sylweddol o'r adeiladau sy'n debygol o fod o fewn cwmpas yng Nghaerdydd.

 

Bydd disgwyl i ddatblygwyr sy'n dymuno manteisio ar y cynnig dalu'n ôl bob ceiniog o gyllid i'r pwrs cyhoeddus o fewn pum mlynedd.

 

Yn dilyn y drasiedi yn Grenfell, mae Lywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol i nodi problemau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl canolig ac uchel yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar bob adeilad preswyl o 11 metr a throsodd o ran uchder.  Yn ogystal ag adfer adeiladau yn y sector cymdeithasol; mae'n mynd i'r afael ag adeiladau amddifad ac yn datblygu cynllun cymorth i lesddeiliaid, a ddyluniwyd i helpu pobl yng Nghymru sy'n dioddef neu'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i broblemau diogelwch tân.

 

Bydd y benthyciad newydd hwn yn adeiladu ar y gweithgaredd hwnnw a bydd ar gael i'r datblygwyr sy'n cymryd rhan sydd wedi ymrwymo i Gytundeb Llywodraeth Cymru, gan gytuno ar eu bwriad i ariannu ac ymgymryd â'r holl waith adfer angenrheidiol cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl i fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân sy'n peryglu bywyd yn yr adeiladau hyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod cyn lleied â phosib o resymau am oedi, a bod datblygwyr yn gallu gwneud gwaith mor gyflym â phosib.

 

Bydd y cynllun yn cael gwared ar unrhyw oedi posib y gallai datblygwyr ei wynebu tra bod cyllid yn cael ei drefnu i fynd i'r afael â materion fel adrannu, toriadau tân a drysau tân yn ogystal â risgiau cladin.

 

Dwedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: "Hoffwn ddiolch i Gyngor Caerdydd am gytuno i ddatblygu'r cynllun hwn fydd yn dileu unrhyw rwystrau allai atal datblygwyr rhag cwblhau gwaith.

 

"Rydym wedi darparu £20 miliwn o gyllid benthyciadau i anfon neges y byddwn ni, yng Nghymru, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl gan ddatblygwyr.

 

"Unwaith eto, hoffwn ganmol y datblygwyr hynny sydd wedi ymrwymo i ddogfennaeth gyfreithiol rwymol Llywodraeth Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at berthynas gynhyrchiol a datrysiad cyflym i broblemau diogelwch tân yn ein hadeiladau canolig ac uchel.

 

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Yn dilyn trychineb Grenfell, cymerodd y Cyngor gamau i gael gwared ar yr holl gladin nad oedd bellach yn cyrraedd safonau diogelwch tân cyfredol ar ei fflatiau uchel ei hun, er mwyn sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel.

 

"Nawr, rydym yn falch o fod yn chwarae rhan yn cefnogi trigolion preifat yn y ddinas ac ar draws Cymru drwy ddatblygu'r cynllun hwn.  Rydym yn deall pryderon trigolion sydd wedi'u heffeithio gan y mater hwn, a'r anawsterau y maent wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf felly mae ymrwymiad cyhoeddus datblygwyr cyfranogi i gywiro'r materion critigol hyn i'w groesawu'n fawr.

 

"Rhoi sicrwydd i drigolion ar eu diogelwch eu hunain yw ein prif nod yma, ac rydym yn falch o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwn, a fydd yn galluogi datblygwyr i ysgwyddo eu cyfrifoldeb cyn gynted â phosib."

 

O dan delerau'r trefniant gyda Llywodraeth Cymru, dim ond am weinyddu darpariaeth y gronfa fenthyg y byddai'r Cyngor yn gyfrifol ac ni fyddai ganddo rôl wrth benderfynu a yw gwaith wedi'i gwblhau i safonau gofynnol.

 

 

Yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau 18 Mai, bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad bod y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu, gweithredu a gweinyddu Cynllun Benthyciadau Datblygwyr Diogelwch Adeiladau Cymru.  Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma: 

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7961&LLL=1