Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 12 Mai 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Murlun enfawr o Betty Campbell MBE wedi ei ddadorchuddio'n swyddogol; Cyngor traffig a theithio pan fydd Beyoncé yn Stadiwm Principality ar 17 Mai; Lefelau gwirfoddoli ym Mharciau Caerdydd nôl at yr hyn oedden nhw cyn Covid ac yn 'help mawr'

 

Murlun enfawr o Betty Campbell MBE wedi ei ddadorchuddio'n swyddogol

Mae murlun enfawr o brifathrawes ddu gyntaf Cymru wedi cael ei ddadorchuddio'n swyddogol heddiw, Ddydd Mawrth 9 Mai.

Mae'r paentiad deg metr o daldra yn sefyll yn falch ar wal flaen Ysgol Gynradd Mount Stuart lle bu Mrs Campbell yn bennaeth o 1965 hyd 1999 gan roi addysgu hanes a diwylliant pobl dduon ar gwricwlwm yr ysgol.

Comisiynwyd y gwaith celf trawiadol gan Brifysgol Caerdydd ac mae'n dathlu'r cyfraniadau a wnaed gan Mrs Campbell i addysg yng Nghymru a'r byd ehangach, wrth iddi arloesi ym maes addysg ac amrywiaeth aml-ddiwylliannol a helpu i sefydlu Mis Hanes Pobl Dduon.

Datblygodd y prosiect wedi i blant yn yr ysgol ddysgu am waddol Mrs Campbell a dymuno gweld rhywbeth ar safle'r ysgol i'w chofio. Gyda chefnogaeth gan y Corff Llywodraethu a chyllid gan Brifysgol Caerdydd, cafodd yr artist Bradley Rmer a baentiodd y 'My City, My Shirt' eiconig, ei gomisiynu i baentio'r murlun.

Croesawyd aelodau o deulu Mrs Campbell, disgyblion a staff yr ysgol, llywodraethwyr yr ysgol a chynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd i'r dadorchuddiad. Ymunodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry â nhw a'r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb, Iechyd y Cyhoedd a Threchu Tlodi, y Cynghorydd Julie Sangani.

Dwedodd Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart:  "Mae'r murlun o Mrs Campbell yn gwenu wrth edrych dros y maes chwarae, gan wylio plant Butetown yn chwarae. Hoffwn feddwl y byddai Mrs Campbell yn cymeradwyo hynny.  Mae'n ein hatgoffa ni oll yn ddyddiol o'i gwaddol o waith caled a'i phenderfyniad i wneud y gorau dros y gymuned hon. "

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Urfan Khaliq: "Roedd Betty Campbell yn ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol yn ei chymuned ac mae'n ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae ei gweledigaeth a'i hangerdd dros gynhwysiant a dysgu yn oesol, i bawb ac yn arddel grym addysg i drawsnewid bywydau. Mae'r murlun hwn, sydd wedi cael ei greu yn yr ysgol lle bu'n gweithio'n mor ddiflino, yn atgof pwysig o'i chyflawniadau mawr niferus - sy'n berthnasol i bawb - yn ogystal â'i pherthynas agos a'i hymrwymiad i bobl Butetown."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Betty Campbell yn ffigwr eiconig yr oedd ei dull o ymdrin ag addysg ac amrywiaeth wedi cael effaith ragorol ar bobl Butetown, Caerdydd a thu hwnt.

"Rwy'n gwybod bod llawer o blant o'r ysgol wedi helpu yn y broses ddylunio cerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd ac, erbyn hyn, mae ganddyn nhw eu hunain rywbeth i'w hatgoffa o Betty, gan ymfalchïo yn yr ysgol. Mae'r paentiad gwych hwn yn atgoffa'r holl gymuned o'r dreftadaeth leol a'r rhan sylweddol chwaraeodd Betty ynddi."

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb, Iechyd y Cyhoedd a Threchu Tlodi:  "Fis Hydref diwethaf yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, roeddwn yn falch iawn o fod yn siaradwr gwadd yn y Ddarlith Goffa Betty Campbell Flynyddol gyntaf un, ychwanegiad newydd i ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghaerdydd.

"Yn angerddol dros ei chymuned, roedd Mrs Campbell eisiau dathlu cynhwysiant a chreu cymdeithas fwy cyfartal, gan sicrhau bod plant yn gallu gweld pobl oedd yn edrych ac yn swnio fel hi, yn meddiannu swyddi o amlygrwydd a dylanwad ar draws y ddinas.

"Gyda'n gilydd, rydym am sicrhau bod pob un plentyn yn tyfu i fyny yn ein dinas, waeth beth yw eu cefndir, yn cael cyfle, cefnogaeth ac arweiniad i wireddu eu breuddwydion a helpu i lywio dyfodol Caerdydd."

 

Cyngor traffig a theithio pan fydd Beyoncé yn Stadiwm Principality ar 17 Mai

Bydd Beyoncé yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd ar 17 Mai, yn rhan o'r Daith Fyd-eang Renaissance.

I sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 4pm tan hanner nos ar 17 Mai.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Stadiwm Lecwydd, neu'r cyfleuster parcio a cherdded yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd. Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar  Wefan Traffig Cymru,  neu @TrafficWalesS ar  Twitter  Facebook.

I osgoi cael eich siomi, cynghorir y rhai sy'n mynd i weld y gyngerdd yn gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a mynd i Gaerdydd a'r stadiwm yn gynnar. Bydd gatiau Stadiwm Principality ar agor i'r cyhoedd am 5pm. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig arprincipalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

 

Lefelau gwirfoddoli ym Mharciau Caerdydd nôl at yr hyn oedden nhw cyn Covid ac yn 'help mawr'

Mae pobl ledled y DU wedi cael eu hannog i ymuno â'r 'Help Llaw Mawr' yr wythnos hon i nodi Coroni Ei Fawrhydi'r Brenin, ond ym mharciau Caerdydd mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cynnig 'help llaw mawr' drwy'r flwyddyn - gyda'r nifer o oriau y maen nhw'n eu treulio yn gweithio ym mannau gwyrdd y ddinas - yn ôl, am y tro cyntaf, i'r un lefel â chyn Covid.

Mae Parc Grangemoor, hen safle tirlenwi yn Grangetown sy'n cynnig golygfeydd panoramig o'r ddinas, yn un o nifer o barciau sydd wedi elwa ar waith caled gwirfoddolwyr yn ddiweddar. Mae Jon Wallis, gwirfoddolwr cadwriaethol cyson gyda Chyngor Caerdydd, yn un o bum gwirfoddolwr sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â staff y cyngor i reoli'r cynefin.

"Heddiw rydyn ni'n tynnu'r ffensys gafodd eu codi i ddiogelu coed ifanc," esboniodd Jon yn ystod egwyl fer, "mae'r coed ifanc i gyd wedi tyfu felly does dim angen y ffensys bellach, mae'r pyst yn dechrau disgyn ar ôl ychydig, ac yn edrych braidd yn hyll felly rydyn ni'n eu tynnu.  Ond rydyn ni hefyd yn gwneud gwaith prysgoedio, yn gosod wynebau newydd ar lwybrau, beth bynnag sydd angen ei wneud, ac mae'n helpu'r Ceidwaid i gyflawni mwy nag y gallen nhw fel arall.

"Rwyf wrth fy modd, a byddwn i ar goll hebddo, fel roeddwn i adeg Covid.  Rydych chi'n gweld canlyniadau'r hyn rydych chi'n ei wneud, gynted ag mae'r ffens yn mynd, mae'n edrych yn fwy naturiol, neu rydych chi'n plannu rhywbeth a'i weld e'n tyfu'r flwyddyn nesaf."

"I fi mae'r teimlad o wneud rhywbeth cadarnhaol dros yr amgylchedd, waeth pa mor fach, yn bwysig. ‘Gwnewch y pethau bychain', dywedodd Dewi Sant, ac os oes digon o bobl yn gwneud,  mae'r pethau bach yn troi'n fawr.  Allwn ni ddim achub y byd ar ein pennau ein hunain, ond fe allwn ni i gyd gyfrannu."

Mae ffigyrau ar gyfer 2022/23 yn dangos bod gwirfoddolwyr wedi cyflawni 19,385 awr o wirfoddoli ym mannau gwyrdd y brifddinas - mae hynny 274 awr yn fwy nag yn ystod 2019/20, cyn y pandemig.

Yn ôl yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Pharciau, y Cynghorydd Jennifer Burke, mae pobl yn sylwi ar ymroddiad gwirfoddolwyr parciau'r ddinas.

"Mae cael ein gwirfoddolwyr yn ôl yn newyddion gwych i barciau a mannau gwyrdd Caerdydd," meddai'r Cynghorydd Burke. "Boed yn gweithio yn y tai gwydr ym Mharc Bute, yn helpu gyda phlannu coed, yn rheoli cynefinoedd a gwneud gwaith cadwraeth, neu'n rhoi o'u amser i weithio gyda Grwpiau Cyfeillion y parciau ledled y ddinas, mae pob awr wirfoddoli wir yn cyfrif, ac yn helpu ein timau gweithgar i gyflawni llawer mwy nag y gallen nhw ar eu pennau eu hunain.

"Gydag adroddiadau diweddar fod lefelau gwirfoddoli yn gostwng ledled y DU, mae'n glod i'n cymuned leol yma yng Nghaerdydd bod trigolion, hyd yn oed cyn 'Yr Help Llaw Mawr', yn mynd yn groes i'r duedd ac yn benthyg llaw hanfodol. Roedd ein mannau gwyrdd wir wedi gweld eisiau eu holl waith caled a'u brwdfrydedd yn ystod y pandemig, felly mae'n wych eu cael nhw'n ôl."

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ym mharciau Caerdydd, mae gwybodaeth yma.