Back
Murlun enfawr o Betty Campbell MBE wedi ei ddadorchuddio'n swyddogol.

 

9/5/2023

Mae murlun enfawr o brifathrawes ddu gyntaf Cymru wedi cael ei ddadorchuddio'n swyddogol heddiw, Ddydd Mawrth 9 Mai.

Mae'r paentiad deg metr o daldra yn sefyll yn falch ar wal flaen Ysgol Gynradd Mount Stuart lle bu Mrs Campbell yn bennaeth o 1965 hyd 1999 gan roi addysgu hanes a diwylliant pobl dduon ar gwricwlwm yr ysgol.

Comisiynwyd y gwaith celf trawiadol gan Brifysgol Caerdydd ac mae'n dathlu'r cyfraniadau a wnaed gan Mrs Campbell i addysg yng Nghymru a'r byd ehangach, wrth iddi arloesi ym maes addysg ac amrywiaeth aml-ddiwylliannol a helpu i sefydlu Mis Hanes Pobl Dduon.

Datblygodd y prosiect wedi i blant yn yr ysgol ddysgu am waddol Mrs Campbell a dymuno gweld rhywbeth ar safle'r ysgol i'w chofio. Gyda chefnogaeth gan y Corff Llywodraethu a chyllid gan Brifysgol Caerdydd, cafodd yr artist Bradley Rmer a baentiodd y 'My City, My Shirt' eiconig, ei gomisiynu i baentio'r murlun.

Croesawyd aelodau o deulu Mrs Campbell, disgyblion a staff yr ysgol, llywodraethwyr yr ysgol a chynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd i'r dadorchuddiad. Ymunodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry â nhw a'r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb, Iechyd y Cyhoedd a Threchu Tlodi, y Cynghorydd Julie Sangani.

Dwedodd Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart:  "Mae'r murlun o Mrs Campbell yn gwenu wrth edrych dros y maes chwarae, gan wylio plant Butetown yn chwarae. Hoffwn feddwl y byddai Mrs Campbell yn cymeradwyo hynny.  Mae'n ein hatgoffa ni oll yn ddyddiol o'i gwaddol o waith caled a'i phenderfyniad i wneud y gorau dros y gymuned hon. "

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Urfan Khaliq: "Roedd Betty Campbell yn ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol yn ei chymuned ac mae'n ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae ei gweledigaeth a'i hangerdd dros gynhwysiant a dysgu yn oesol, i bawb ac yn arddel grym addysg i drawsnewid bywydau. Mae'r murlun hwn, sydd wedi cael ei greu yn yr ysgol lle bu'n gweithio'n mor ddiflino, yn atgof pwysig o'i chyflawniadau mawr niferus - sy'n berthnasol i bawb - yn ogystal â'i pherthynas agos a'i hymrwymiad i bobl Butetown."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Betty Campbell yn ffigwr eiconig yr oedd ei dull o ymdrin ag addysg ac amrywiaeth wedi cael effaith ragorol ar bobl Butetown, Caerdydd a thu hwnt.

"Rwy'n gwybod bod llawer o blant o'r ysgol wedi helpu yn y broses ddylunio cerflun Betty Campbell yn Sgwâr Canolog Caerdydd ac, erbyn hyn, mae ganddyn nhw eu hunain rywbeth i'w hatgoffa o Betty, gan ymfalchïo yn yr ysgol. Mae'r paentiad gwych hwn yn atgoffa'r holl gymuned o'r dreftadaeth leol a'r rhan sylweddol chwaraeodd Betty ynddi."

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb, Iechyd y Cyhoedd a Threchu Tlodi:  "Fis Hydref diwethaf yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, roeddwn yn falch iawn o fod yn siaradwr gwadd yn y Ddarlith Goffa Betty Campbell Flynyddol gyntaf un, ychwanegiad newydd i ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghaerdydd. 

"Yn angerddol dros ei chymuned, roedd Mrs Campbell eisiau dathlu cynhwysiant a chreu cymdeithas fwy cyfartal, gan sicrhau bod plant yn gallu gweld pobl oedd yn edrych ac yn swnio fel hi, yn meddiannu swyddi o amlygrwydd a dylanwad ar draws y ddinas. 

"Gyda'n gilydd, rydym am sicrhau bod pob un plentyn yn tyfu i fyny yn ein dinas, waeth beth yw eu cefndir, yn cael cyfle, cefnogaeth ac arweiniad i wireddu eu breuddwydion a helpu i lywio dyfodol Caerdydd.