Back
Ysgol gynradd yn gwneud "cynnydd cryf iawn" yn ôl Estyn

3/5/2023

Wyth mlynedd ar ôl i adroddiad gan Estyn ganfod bod angen gwelliant sylweddol ar ysgol gynradd yng Nghaerdydd a bod safonau addysgu'n annigonol, mae arolygwyr wedi barnu ei bod wedi gwneud cynnydd cryf iawn mewn sawl maes.

Cafodd Ysgol Gatholig Crist y Brenin yn Llanisien ei monitro gan Estyn am flwyddyn ar ôl i'w adroddiad diwethaf gael ei gyhoeddi yn Ionawr 2015, ond yn ôl yr ymchwiliad diweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Chwefror eleni roedd gwelliannau wedi'u gwneud ymhob maes bron.

Mae'r ysgol, sydd â 222 o ddisgyblion, gyda 6.1% wedi nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol (ADY) - yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 16.1% - yn darparu amgylchedd dysgu cynnes, cynhwysol ar gyfer ei disgyblion, meddai'r adroddiad, yn unol â'i harwyddair - 'Dysgu caru, dwlu dysgu'.

Ychwanegodd bod yr ysgol yn gwneud defnydd helaeth o'i gofod awyr agored, gan gynnwys ardal ysgol goedwig, a bod gwelliannau diweddar i'r ddarpariaeth ddarllen, gan gynnwys llyfrgell newydd, yn galluogi disgyblion i ddarllen er pleser yn annibynnol. Dywedodd yr adroddiad blaenorol nad oedd safonau llythrennedd yn cyrraedd y safon.

Ond erbyn hyn, mae'r staff yn annog disgyblion i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, hyderus. Mae cyfleoedd arbennig o fuddiol i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau siarad a meddwl, ac mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn yn darllen er pleser ac mae disgyblion iau yn gwneud cynnydd cyflym gyda'u sgiliau ysgrifennu.

O ran rhifedd - maes arall gafodd ei feirniadu yn adroddiad 2015 - mae'r adroddiad bellach yn nodi bod y rhan fwyaf o'r disgyblion yn datblygu sgiliau rhifedd cryf yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Ychwanegodd, er nad oes yr un o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, bod "disgyblion iau yn dysgu defnyddio cyfarchion Cymraeg yn gyflym, adnabod lliwiau a chyfrif. Maen nhw'n canu caneuon ac yn dechrau dweud sut maen nhw'n teimlo... mae sgiliau Cymraeg y rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn yn datblygu'n llwyddiannus."

Ar gyfer disgyblion ag ADY, mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion yn ofalus ac maent yn gwneud y lefel ddisgwyliedig o gynnydd.

Mae'r pennaeth, Susan Miles, a gafodd ei phenodi ym mis Medi 2020, yn sicrhau bod gan bob aelod staff gyfleoedd buddiol ar gyfer datblygiad proffesiynol er mwyn iddyn nhw gyflawni eu swyddi ac mae'r staff i gyd yn gweithio'n dda iawn fel tîm. "Mae'r berthynas rhwng staff a disgyblion ledled yr ysgol yn hynod gefnogol. Mae bron pob disgybl yn mwynhau dod i'r ysgol ac maen nhw'n teimlo'n ddiogel," a dywedwyd, "mae ymddygiad y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dda iawn mewn gwersi ac ar y maes chwarae."

Nododd yr adroddiad ddim ond dau faes ar gyfer datblygu, yn gyntaf roedd cyfyngiadau ar y ffordd roedd yr ysgol yn sicrhau dilyniant ar draws pob maes dysgu a phrofiad, ac roedd hefyd yn argymell ei bod yn ymestyn cyfleoedd i ddisgyblion ddylanwadu ar sut, a beth, maen nhw'n dysgu mewn gwersi. "Nid yw'r ysgol wedi cynllunio'n fanwl eto ar gyfer dilyniant sgiliau creadigol disgyblion," meddai arolygwyr.

Gan groesawu'r adroddiad, dywedodd Mrs Miles: "Mae'r adroddiad yn adlewyrchu darlun cywir o'r amgylchedd meithringar lle mae'r plant yn ein hysgol yn dysgu bob dydd.

"Mae'r plant yn dangos balchder gwirioneddol yn eu gwaith ac yn awyddus iawn i fod y gorau y gallan nhw fod. Gellir gweld hyn yn y safonau uchel yn eu dysgu ac yn y parch maen sydd ganddyn nhw tuag at ei gilydd.

"Mae gan bob un ohonom ymdeimlad cryf iawn o berthyn i gymuned ysgol ffyniannus a chefnogol."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, ei bod wrth ei bodd gyda'r arolygiad. "Ar ôl y sylwadau a wnaed yn 2015, dyma adroddiad ardderchog sy'n adlewyrchiad gwych ar y gwaith mawr sydd wedi'i wneud gan y pennaeth a'r staff i wella'r ysgol.

"Mae hefyd yn pwysleisio mor dda a dygn mae plant yr ysgol yn gweithio, a chymaint y maen nhw'n mwynhau eu profiadau dysgu. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r ysgol wrth symud yn ei blaen a gweithredu argymhellion Estyn."

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.