Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 02 Mai 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys:Caerdydd yn nodi Coroni'r Brenin Charles III; Gosod o fesuryddion ansawdd aer amser go iawn newydd yng Nghaerdydd; a Garddwr Caerdydd yn ymddeol wedi 51 o flynyddoedd yn tendio mannau gwyrdd Caerdydd.

 

Caerdydd yn nodi Coroni'r Brenin Charles III

Bydd Caerdydd yn nodi coroni'r Brenin Charles III gyda chyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus swyddogol, gan gynnwys saliwt gynnau brenhinol, picnic ‘Brenhinol Go Iawn', partïon stryd, a dangosiadau o Wasanaeth y Coroni a Chyngerdd y Coroni.

Dwedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey:  "Mae coroni brenin newydd yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol mawr, ac yn un a fydd yn sicr o gael ei gofio'n hir i'r dyfodol. Fel prifddinas Cymru, gwlad sy'n agos at galon y Brenin Charles III, mae Caerdydd yn falch o gynnal y gyfres hon o ddigwyddiadau gwych i nodi'r achlysur.

"Law yn llaw â'r rheiny, mae hefyd yn wych gweld cymunedau ledled y ddinas yn trefnu eu dathliadau eu hunain, ac fel Arglwydd Faer Caerdydd, rwy'n dymuno penwythnos gŵyl banc y Coroni hapus a phleserus i chi."

Amserlen lawn digwyddiadau swyddogol y Coroni, sy'n cael eu cynnal dros y penwythnos, yw:

 

Y Gwasanaeth Coroni a'r  Salíwt Ynnau

9.30am - 2.30pm, Dydd Sadwrn 6 Mai, mynediad am ddim, dim angen tocyn

Bydd sgrin fawr yng ngerddi Castell Caerdydd i ymwelwyr wylio Gwasanaeth y Coroni - a'r orymdaith i Abaty Westminster ac oddi yno. Caiff ysalíwtynnau hefyd ei gynnal yn y Castell, yn rhan o rwydwaith o saliwtiau ledled y Deyrnas, wrth i'r Brenin gael ei goroni.

Bydd Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Masgots Catrodol o'r Cymry Brenhinol a Marchfilwyr 1af y Frenhines gyda Gwarchodlu o Bedwar, y Gwarchodlu Cymreig a Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o'r Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr.

Oherwydd trefniadau seremonïol sy'n digwydd yn fyw yn y Castell fel rhan o'r coroni mae'n bosib taw dim ond is-deitlau fydd ar rai elfennau o ddangosiad y prif ddigwyddiad coroni yn Llundain.

 

Picnic Brenhinol

12pm-4pm, Dydd Sul 7 Mai mynediad am ddim, dim angen tocynnau.

Casglwch eich teulu a ffrindiau ynghyd, paciwch eich picnic, ac ymunwch â phawb yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Picnic Brenhinol Go Iawn fel rhan o Ginio Mawr y Coroni ledled y Deyrnas.  Bydd y dathliadau'n cynnwys rhaglen o gerddoriaeth fyw gweithgareddau crefft i'r teulu, ac adloniant symudol ar thema, gan greu awyrgylch o ddathlu wrth i bobl rannu bwyd a hwyl gyda'i gilydd.

 

Cinio Mawr y Coroni

8am-8pm, Dydd Sul 7 Mai

Bydd y baneri allan wrth i gymunedau lleol gynnal partïon stryd ar draws y ddinas i ddathlu'r coroni. Mae'r Cyngor wedi hwyluso cau 44 o ffyrdd preswyl ar draws y ddinas, er mwyn galluogi cymdogion i ddod ynghyd i fwynhau'r achlysur mawr.

 

Cyngerdd y Coroni

7.30pm-11pm, Dydd Sul 7 Mai, Roald Dahl Plass

Ymunwch â ni ym Mae Caerdydd i wylio Cyngerdd y Coroni, a ddarlledir yn fyw o Gastell Windsor, ar sgrin fawr yn Roald Dahl Plass. Mwynhewch fwyd a diod o un o'r nifer o fariau, caffis a bwytai ar y glannau. Yna edrych i'r awyr ar gyfer uchafbwynt y noson, wrth i Gaerdydd ymuno â lleoliadau ar draws y Deyrnas i 'Oleuo'r Deyrnas' gyda sioe oleuadau drochi, fydd yn cynnwys  fflyd o 300 o ddronau yn hedfan yn uchel uwchben adeiladau eiconig Bae Caerdydd.

 

Gosod o fesuryddion ansawdd aer amser go iawn newydd yng Nghaerdydd

Bydd 47 o orsafoedd monitro ansawdd aer newydd yn cael eu gosod ar draws y ddinas er mwyn helpu i fesur y llygredd yn yr aer yr ydym yn ei anadlu.

Bydd y mesuryddion - a fydd yn nodi lefelau o Nitrogen Deuocsid a gronynnau bach iawn o lwch a elwir yn Ddeunydd Gronynnol (PM10a PM2.5) - yn gwella ymhellach sut mae Cyngor Caerdydd yn mesur llygredd aer a chanfod problemau'n well ac yn gynt a chymryd camau i leihau llygredd.

Byddan nhw'n cael eu rhoi ym mhedair Ardal Rheoli Ansawdd Aer y ddinas (ARhAAau) ac yn ehangach ar draws y ddinas gyfan ger ardaloedd sy'n peri pryder, fel ysgolion a chanolfannau iechyd yn dilyn gweithdrefn trefn asesu sydd wedi'i chynllunio i adnabod ardaloedd o risg uchel.

Bydd yr offer newydd yn monitro llygredd aer 24 awr y dydd a bydd y data'n cael ei gasglu a'i adrodd naill ai'n chwarterol neu'n fisol ar wefan y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir:
https://www.srs.wales/en/Home.aspx 

Mae ARhAAau yn cael eu gosod mewn wardiau lle mae'r cyfartaledd blynyddol o lygryddion hysbys yn peri pryder oherwydd bod lefelau hanesyddol wedi torri neu'n agos at y terfyn cyfreithiol. Ar hyn o bryd maent ar waith yng nghanol y ddinas, Stephenson Court (Heol Casnewydd), Pont Elái a Llandaf. Mae adroddiad diweddaraf y Cyngor ar fonitro ansawdd aer blynyddol yn dangos bod llygredd aer ym mhob un o'r ARhAAau yng Nghaerdydd yn gwella gyda chrynodiadau islaw'r gwerthoedd terfyn a ganiateir yn gyfreithiol ar gyferNO2.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd: "Ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae tystiolaeth glir i ddangos bod dod i gysylltiad â llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'n sylweddol y risg o farw o glefyd y galon, strôc, clefydau anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill.

"Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas gydol 2021 o gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019. Er bod y data hwn yn galonogol, mae mwy o waith i'w wneud.  Mae angen i ni barhau i leihau lefelau llygryddion.  Os ydyn ni am i bobl fod yn iachach, mae'n rhaid i ni annog pobl i fod yn llai dibynnol ar eu ceir, ac i wneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded.  Nid yn unig y bydd o fudd i iechyd pobl ond bydd yn helpu'r ddinas i leihau ein hôl troed carbon wrth i ni geisio brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

"Ynghyd ag allyriadau diwydiant, allyriadau cerbydau, yn enwedig o gerbydau disel, yw'r ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at ansawdd aer gwael mewn dinasoedd ledled y gwledydd hyn. Trwy wella ein rhwydwaith monitro gyda'r mesuryddion newydd hyn, byddwn yn deall ansawdd yr aer yng Nghaerdydd yn well a fydd yn caniatáu inni ymateb yn gyflym i unrhyw bryderon llygredd a sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i leihau llygredd aer a gwella'r aer y mae ein trigolion yn ei anadlu."

Darllenwch fwy yma

 

Garddwr Caerdydd yn ymddeol wedi 51 o flynyddoedd yn tendio mannau gwyrdd Caerdydd

Roedd adeg pan oeddem i gyd yn gobeithio bod mewn swydd am oes ond faint all honni heddiw eu bod wedi gweithio i'r un cyflogwr - gan wneud mwy neu lai yr un tasgau - am y 50 mlynedd diwethaf?

Yn camu ymlaen mae Mark West, neu 'Westy', sy'n ymddeol yr wythnos hon, 51 mlynedd ers iddo ddechrau gweithio fel garddwr dan hyfforddiant 15 oed diniwed yn adran Parciau Cyngor Caerdydd.

Dwedodd Mark: Rwy' wedi bod wrth fy modd gyda'r swydd hon o'r diwrnod y dechreuais hi ar £7 yr wythnos ac rwy'n dal i fod wrth fy modd yr un faint nawr." Hyd yn oed pan nad ydw i'n gweithio rwy'n gofalu am fy ngardd gartref yn Y Ddraenen felly pan fydda i'n gorffen am y tro olaf, fydda i ddim yn seguro ar y soffa."

Fodd bynnag, gallai pethau fod wedi bod mor wahanol.  Ar ôl gadael yr ysgol yng Nghaerffili, daeth ei dad o hyd i swydd iddo yn y Ffatri Ordnans Frenhinol yng Nghaerdydd lle roedd yntau'n gweithio, am £18 yr wythnos, ond roedd yn well gan y Mark ifanc flodau'r haul i'r powdr gwn a dewisodd yn lle hynny weithio ar safle'r adran Barciau yn Llanisien, ychydig i lawr y ffordd.

Darllenwch fwy yma