Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 28 Ebrill 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Twyllwr gafwyd yn euog wedi cael gorchymyn i dalu ychydig o dan £133,500 i'w ddioddefwyr neu wynebu tair blynedd arall yn y carchar; Ydych chi'n ailgylchu eich podiau coffi?; a llety cŵn newydd i Gartref Cŵn Caerdydd ar ôl i £500,000 gael ei godi mewn ymdrech codi arian.

 

Twyllwr gafwyd yn euog wedi cael gorchymyn i dalu ychydig o dan £133,500 i'w ddioddefwyr neu wynebu tair blynedd arall yn y carchar

Anfonwyd Alan Lee i'r carchar ym mis Rhagfyr 2021 am 6 blynedd a 10 mis am dwyllo dioddefwyr oedrannus a bregus allan o dros £500,000 ar gyfer gwaith adeiladu eilradd a oedd yn aml yn gadael adeiladau yn anniogel i fyw ynddo.

Roedd yr achos yn ymwneud â Mr Lee yn twyllo pobl oedrannus o'u harian drwy ddyfeisio problemau oedd ganddyn nhw gyda'u heiddo, cyn gwneud gwaith adeiladu diangen, cynyddu pris y gwaith yn barhaus a gwneud bygythiadau i'r rhai oedd yn ei gwestiynu.

Cynhaliwyd y gyfres o droseddau rhwng Medi 2018 a Rhagfyr 2020 - gan dargedu eiddo, yn aml gyda phobl oedrannus yn byw yno, yny Rhath, y Barri, Trelái, Draenen Pen-y-graig, Casnewydd a Llanisien.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddoe (26/04/23) clywodd Gwrandawiad Enillion Troseddau fod Mr Lee,49, o Heol Gwynllŵg yn Nhredelerch yn meddu ar ychydig o dan £133,500 mewn asedau, y cytunodd Alan Lee bod £100,000 wedi'i guddio.

Rhoddwyd gorchymyn atafaelu llawn gan Ei Anrhydedd y Barnwr Jeremy Jenkins a fydd yn rhoi cyfran o 35.74% i bob un o'r 24 o ddioddefwyr yn yr achos hwn am bob £1 a gollon nhw. Roedd rhaid talu'n llawn o fewn 3 mis neu bydd 3 blynedd arall o garchar yn cael ei ychwanegu at ei ddedfryd bresennol.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:  "Mae Alan Lee yn honni ei fod yn adeiladwr, ond mae'n ddyn twyllwr anonest oedd yn targedu pobl oedrannus, bregus ac anabl gan ddwyn llawer o arian. Bu'n troseddu am flynyddoedd ac yn aml yn gwawdio ein swyddogion safonau masnach a oedd yn ymchwilio iddo.

"Roedd yn meddwl ei fod uwchben y gyfraith, ond mae'n dal yn y carchar am y troseddau mae wedi'u cyflawni. Nawr, rydym wedi mynd ar ôl ei asedau, a dyw hi ddim yn syndod iddo geisio cuddio £100,000 oddi wrth yr awdurdodau. Felly, pan fydd yn mynd allan o'r carchar, ni fydd ganddo arian a byddwn yn monitro unrhyw waith y mae'n ei wneud, fel y gallwn gymryd camau priodol os yw'n ail-droseddu."

 

Ydych chi'n ailgylchu eich podiau coffi?

Mae gwasanaeth ailgylchu newydd i'r cyngor, sydd wedi'i ariannu gan Podback, wedi cael ei lansio yng Nghaerdydd sy'n rhoi cyfle i breswylwyr sy'n byw mewn tai ledled y ddinas, ailgylchu eu podiau coffi plastig neu alwminiwm sy'n cael eu defnyddio yn y rhan fwyaf o beiriannau coffi.

Mae'r system casglu ar alw newydd yn gofyn i drigolion gofrestru ar gyfer y cynllun trwy wefan Podback - https://www.podback.org/. Bydd rholyn o 13 o fagiau yn cael ei ddanfon i'r eiddo gan Podback gyda chyfarwyddiadau o sut i ddefnyddio'r cynllun.

Pan fo bag yn llawn, gofynnir i drigolion drefnu casgliad wrth ymyl y ffordd drwy fynd i:
www.caerdydd.gov.uk/podback 

Bydd casgliadau Ymyl y Ffordd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd o 2 Mai. 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Ers lansio'r cynllun yng Nghaerdydd ar 17 Ebrill, mae dros 1,000 o aelwydydd wedi ymuno â'r cynllun hyd yn hyn, sy'n galonogol iawn. Mae ailgylchu eitemau sy'n cael eu gwneud o ddeunyddiau lluosog yn aml yn anodd, felly mae'n wych gweld gweithgynhyrchwyr y cynhyrchion hyn yn mentro i roi prosesau ar waith fel y gellir eu hailgylchu. Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda 'chynhyrchwyr gwastraff' fel y gallwn barhau i ganfod ffyrdd newydd o ailgylchu mwy o wastraff Caerdydd."

Bydd podiau a gesglir drwy'r gwasanaeth newydd yn cael eu hailgylchu yn y DU, gyda phlastig ac alwminiwm yn cael eu defnyddio i wneud cynhyrchion newydd, gan gynnwys deunydd pecynnu a chydrannau ceir, a'r mâl coffi yn cael ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a gwella pridd.

Dywedodd Rick Hindley, Cyfarwyddwr Gweithredol Podback: "Rydym yn gyffrous i groesawu trigolion Caerdydd i Podback. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gennym doedd dros hanner yfwyr podiau coffi yng Nghymru ddim yn ymwybodol bod modd ailgylchu podiau, felly rydyn ni'n gobeithio newid hynny, a helpu Caerdydd i wella ei pherfformiad ailgylchu. Lle mae Podback yn gweithredu mewn awdurdodau lleol eraill mae wedi cael croeso gwresog gan drigolion, felly gobeithiwn y bydd Podback yn ennill ei blwyf yn gyflym fel rhan o drefn ailgylchu trigolion Caerdydd."

I gael gwybod mwy am gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback newydd a pha bodiau coffi y gellir eu hailgylchu, ewch i:
www.podback.org

 

Llety cŵn newydd i Gartref Cŵn Caerdydd ar ôl i £500,000 gael ei godi mewn ymdrech codi arian

Cyn bo hir bydd modd i gŵn coll a strae o bob cwr o Gaerdydd fyw mewn moethusrwydd wrth iddynt aros i gael eu haduno â'u perchnogion neu eu hailgartrefu'n barhaol, ar ôl i ymgyrch codi arian a arweiniwyd gan yr elusen leol, The Rescue Hotel, a Chennad Cartref Cŵn Caerdydd, Sam Warburton, godi dros £500,000 i adnewyddu llety cŵn Cartref Cŵn Caerdydd.

Daw llwyddiant yr ymgyrch, fydd yn gweld cytiau cŵn mwy o faint a mwy cyfforddus yn cael eu gosod yn y Cartref Cŵn a weithredir gan Gyngor Caerdydd, yn dilyn grant sylweddol gan y Sefydliad Pets at Home o £180,000.

Wrth siarad am yr ymgyrch codi arian, dywedodd cyn-gapten Rygbi Cymru, Sam Warburton: "Mae Cartref Cŵn Caerdydd a'i fraich elusennol 'The Rescue Hotel' yn agos iawn at fy nghalon. Fel rhywun sydd wedi mabwysiadu a byw gyda chŵn o oedran ifanc, mae gwaith y cartref cŵn a'u staff yn wirioneddol anhygoel. Bydd y grant a ddyfarnwyd gan y Sefydlaid Pets at Home gwerth £180,000 yn ein galluogi i greu cartref y mae'r cŵn a'r staff yn ei haeddu wrth chwilio am gartref am byth iddynt. Rydw i'n hynod ddiolchgar i'r Sefydliad Pets at Home, yn ogystal â'r holl gyfranwyr eraill a wnaeth wireddu'r freuddwyd hon."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd â chyfrifoldeb am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Nid dyma ddiwedd yr ymdrech i godi arian. Mae llawer mwy rydyn ni'n gobeithio gallu ei wneud i gŵn Caerdydd yn y dyfodol, ond mae cyrraedd y targed hwn yn newyddion gwych ac yn golygu y gallwn symud ymlaen gyda'r gwaith adnewyddu y mae mawr ei angen ar y llety cŵn.

"Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn edrych ar ôl y cŵn sydd dan eu gofal, ond bydd hyn wir yn gwneud gwahaniaeth. Diolch enfawr i bawb a roddodd, yn enwedig y Sefydliad Pets at Home, ac i'n partneriaid elusennol yn y Rescue Hotel am eu hymdrechion diflino."

Dywedodd Amy Angus, Rheolwr Elusennol y Sefydliad Pets at Home:  "Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn gweithio'n ddiflino i ofalu am anifeiliaid anwes mewn angen a'u hailgartrefu, ac roedd yn dderbynnydd hynod deilwng o'r grant i helpu gyda'i brosiect adeiladu helaeth. Rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r Cartref yn ei ymdrechion i wella ei gyfleusterau."

I wneud rhodd i Gartref Cŵn Caerdydd a The Rescue Hotel, ewch i:
www.therescuehotel.com