Back
Mae Ysgol Gynradd Coed Glas yn hynod o ofalgar a chynhwysol, meddai Estyn.


28/4/2023

Mae arolygwyr wedi disgrifio Ysgol Gynradd Coed Glas yn Llanisien fel ysgol hynod ofalgar a chynhwysol lle mae pob disgybl yn cael ei annog i lwyddo ym mhob agwedd ar ddysgu.

Yn ystod ei hymweliad yn gynharach eleni, canfu Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, fod disgyblion yn elwa ar gefnogaeth a sesiynau lles hynod effeithiol a meithringar sy'n eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol ac ennyn diddordeb mewn dysgu.

Mae 11.4% o'r disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol a nododd arolygwyr fod gan ddisgyblion sy'n mynd i'r Ganolfan Adnoddau ar gyfer Nam ar y Clyw (HIRB) a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, agweddau cadarnhaol at ddysgu ac yn elwa ar brofiadau gwerth chweil a ddarperir gan staff.

Mae'r adroddiad yn mynd yn ei flaen i ddweud bod staff yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm i ddarparu amgylchedd dysgu deniadol a hamddenol a darparu profiadau dilys a phwrpasol. Mae staff yn addasu darpariaeth yn gyson er mwyn diwallu cam datblygu pob plentyn orau ac yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau iaith a dysgu annibynnol yn effeithiol o fewn cyfnod byr.

Cydnabu'r tîm o Estyn fod gan arweinwyr weledigaeth glir a dealltwriaeth gref o gryfderau a meysydd ar gyfer datblygiad yr ysgol a bod arweinyddiaeth effeithiol a thosturiol y pennaeth dros dro yn arwain at ddyheadau uchel a chefnogaeth i ddisgyblion a'u teuluoedd. O ganlyniad, mae'r ysgol yn rhan annatod a phwysig o'i chymuned amrywiol.

Cydnabu'r arolygwyr fod athrawon yn cynllunio gweithgareddau llythrennedd, rhifedd a digidol drwy drefniadau a sesiynau strwythuredig sefydledig i gefnogi disgyblion i wneud cynnydd yn y sgiliau hyn.

Fodd bynnag, mae cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddefnyddio a chymhwyso'r sgiliau hyn mewn cyd-destunau dysgu diddorol wedi'u hysgogi gan y plant ar draws y cwricwlwm yn cael eu colli weithiau.

Gan fod yr ysgol wedi'i chanmol am y gwaith y mae'n ei wneud i ddarparu profiadau dilys a diddorol yn y ddarpariaeth feithrin sy'n ysbrydoli cariad plant at ddysgu a datblygu eu sgiliau annibynnol a hefyd y gefnogaeth a roddir i les disgyblion drwy hunan gyfeirio at ddarpariaeth 'Nyth' hynod effeithiol yr ysgol, mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos i'w chyhoeddi ar ei gwefan.

Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, ond mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn eu cynllun gweithredu gwella.

  • Gwella effeithiolrwydd yr addysgu i herio a diwallu anghenion pob disgybl yn gyson
  • Cynnig cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddefnyddio a chymhwyso eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ar draws y cwricwlwm
  • Gwella sgiliau llefaredd Cymraeg y disgyblion

Gan fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Sophie Notley:  Rwyf mor falch o'n hysgol.  Mae cael cais i ni ysgrifennu dwy astudiaeth achos i rannu ein harfer rhagorol yn y Meithrin a'n darpariaeth lles Nyth yn wych.

"Roeddwn i wrth fy modd gyda brawddeg gyntaf yr adroddiad, 'Mae Coed Glas yn ysgol gynradd hynod o ofalgar a chynhwysol lle mae pob disgybl yn cael ei annog i lwyddo ym mhob agwedd ar ddysgu'!  Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cefnogi ein plant, eu teuluoedd a'n staff.  Mae cael cydnabyddiaeth am hyn yn dilysu ein hymdrechion ac yn cadarnhau ein gweledigaeth a'n pwrpas fel ysgol."

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Meredith Gardiner; "Mae adroddiad Estyn yn gydnabyddiaeth hir-ddisgwyliedig o'r amser, yr ymdrech a'r gefnogaeth y mae ein hysgol yn eu rhoi i ddisgyblion a'r gymuned ehangach. Rwy'n gwybod y cafodd yr adborth hynod gadarnhaol y casglodd yr arolygwyr gan rieni a gofalwyr yn ystod eu hymweliad argraff arbennig arnyn nhw.

"Rwy'n hynod falch o'n staff rhagorol ac wrth fy modd bod eu hymdrechion wedi eu cydnabod mor ffafriol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu'r ddwy astudiaeth achos â chydweithwyr ehangach fel tystiolaeth o'r arfer da sydd wedi'i ddatblygu. Fel ysgol mae gennym ddisgwyliadau hynod uchel ar gyfer ein holl blant ac wedi cyffroi i ymgorffori canfyddiadau Estyn yn ystod cam nesaf ein cynlluniau datblygu."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Mae gwaith arbennig iawn yn cael ei wneud yn Ysgol Gynradd Coed Glas ac mae'n wych gweld bod Estyn wedi cydnabod hyn.

"Mae'r gwaith ar les a chymorth i ddisgyblion ddatblygu'r sgiliau dysgu a chymdeithasol yn wych ac mae'n braf clywed bod Estyn wedi gofyn am dynnu sylw at hyn fel enghraifft o arfer gorau i ddarparwyr eraill.

"Bydd y meysydd lle gellid gwneud gwelliannau yn flaenoriaeth i'r ysgol a bydd y Cyngor yn darparu'r gefnogaeth briodol i helpu'r arweinwyr i'w cyflawni."

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 529 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac roedd 28.7% o'r rhain yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 23.7% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.