25/4/2023
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd wedi cael ei chanmol gan Estyn, Arolygydd Ysgolion Cymru, am y gofal bugeiliol a'r cymorth mae'n eu darparu i'w disgyblion.
Ysgol Plasmawr oedd yr ail ysgol uwchradd Gymraeg i'w hagor yng Nghaerdydd yn 1996, ac mae wedi'i disgrifio fel "cymuned glos" yn adroddiad yr arolwg - y cyntaf i'w gynnal yno ers 2014.
Mae ei gofal bugeiliol a'i chefnogaeth, meddai, yn "gryfder nodedig" ac fe ddewisodd arolygwyr y chweched dosbarth am chwarae ei rhan wrth gefnogi disgyblion iau. "Maen nhw'n arwain clybiau ar gyfer disgyblion iau ac yn cynnal nifer o fforymau sy'n cefnogi disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o oddefgarwch, cydraddoldeb a thegwch," ychwanegwyd.
Gyda 1,155 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys dros 200 yn y chweched dosbarth, mae'r ysgol yn y Tyllgoed yn cymryd disgyblion o ardal eang o orllewin Caerdydd. Mae ychydig dros 12% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o fwy nag 20%, tra bod gan 4.5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY), o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o 17.8%.
Fe gymerodd y pennaeth, Dr Rhodri Thomas yr awenau ar 1 Ionawr eleni, fis cyn yr arolwg, ac adroddodd Estyn bod ganddo weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol ac "mewn cyfnod byr iawn mae wedi adnabod y prif gryfder a'r meysydd i'w gwella.
"Mae arweinwyr ar draws yr ysgol yn darparu lefelau uchel o gefnogaeth i staff ac arweinyddiaeth effeithiol o ran y ddarpariaeth ar gyfer llesiant ac ADY."
Yn y mwyafrif o'r gwersi, meddai'r adroddiad, mae disgyblion - gan gynnwys rhai ag ADY - yn gwneud cynnydd cadarn o ran eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o bynciau. "O fewn ychydig o wersi, mae disgyblion yn gwneud cynnydd cyflym a chryf... mae llawer yn cyfrannu'n synhwyrol at drafodaethau dosbarth neu grŵp ac mae'r mwyafrif yn frwdfrydig yn eu hymatebion. Mae llawer yn gwrando'n astud ac yn cyfrannu yn eu tro."
Yn ôl yr adroddiad, mae mwyafrif y disgyblion â sgiliau cymdeithasol aeddfed ac yn huawdl ac yn cyfleu eu syniadau'n glir, ac mae gan lawer eirfa "gadarn" yn Gymraeg a Saesneg, "ac mae gan ambell un eirfa gyfoethog, soffistigedig."
Roedd yr adroddiad hefyd yn canmol cwricwlwm "cytbwys" yr ysgol sy'n "cael ei gyfoethogi gan y bartneriaeth werthfawr gydag ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg eraill yng Nghaerdydd ac mae wedi creu "gweledigaeth glir wedi ei seilio ar sicrhau lles disgyblion, datblygu eu gwerthoedd a darparu profiadau dysgu sy'n adeiladu ar ddysgu blaenorol".
Ond nododd yr adroddiad feysydd i arweinwyr yr ysgol ganolbwyntio arnynt i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i wella. "Nid yw ansawdd yr addysgu na'r ddarpariaeth ar gyfer sgiliau yn cael ei werthuso'n ddigon treiddgar," meddai'r adroddiad, gan ychwanegu "bod y rhai sy'n arwain ddim yn cael eu dal yn ddigon atebol am eu gwaith... ac mewn lleiafrif o wersi dyw ansawdd yr addysgu ddim yn ddigon da."
Fe wnaeth arolygwyr hefyd ddarganfod bod lleiafrif o ddisgyblion yn ei chael hi'n anodd i fynegi eu hunain yn Gymraeg, gan ddefnyddio geiriau neu ymadroddion Saesneg yng nghanol brawddegau... yn gwneud camgymeriadau sillafu rheolaidd ac "mae ambell un yn gwneud gwallau ieithyddol elfennol a diofal". Ond mewn ysgol lle mae 46.5% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg adref, mae'r "rhan fwyaf o'r chweched dosbarth yn frwdfrydig dros eu hastudiaethau ac yn falch o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg."
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Dr Thomas: "Mae Plasmawr yn ymfalchïo yn y gofal bugeiliol a ddarperir i fyfyrwyr sydd wedi helpu ein myfyrwyr wrth iddynt wynebu heriau'r blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r ffocws hwn wedi helpu cynifer o'n disgyblion hŷn i ddod yn fodelau rôl i ddisgyblion iau ac rydym yn falch bod Estyn wedi gofyn i ni ddarparu astudiaeth achos o'n gwaith sy'n arwain y sector ar ddatblygu sgiliau arwain ein disgyblion, fel eu bod yn llwyddo i arwain newid y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol.
"Fel pennaeth newydd mae'r arolwg wedi fy helpu i adnabod y meysydd ffocws wrth i ni symud ymlaen i'n hail chwarter canrif fel ysgol."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Dwi'n falch o weld pa mor gyflym mae'r pennaeth newydd wedi cael effaith ar yr ysgol. Mae ef a'i dîm, a'r ysgol ehangach, yn amlwg yn ymwybodol o arwyddair yr ysgol -Parch, Parodrwydd, Perthyn- ac mae'r adroddiad yn manylu ar y llu o agweddau cadarnhaol o waith yr ysgol.
"Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r ysgol wrth iddi fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad ac ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth."
Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.