20/04/23
Bydd Dydd y Farn yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma ac i wneud yn siŵr y gall pob deiliad tocyn fynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel, bydd rhai ffyrdd ar gau rhwng 11am a 9pm yng nghanol y ddinas, ond bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i draffig.
Mae pobl sy'n mynd i'r gemau rygbi hyn yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl - Ffordd Porth y Gorllewin, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, y Gwter, y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Stryd Womanby, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
• Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
• Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
• Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair
• Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Drenau Ganolog.
• Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad at rannau o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Bydd mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer ymwelwyr â Neuadd y Ddinas, a llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Dyma'r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwaith uwchraddio seilwaith ar rwydwaith Craidd Rheilffyrdd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, felly bydd bysiau yn lle gwasanaethau rheilffordd ar rai llwybrau ddydd Sadwrn 22 Ebrill.
Bydd bysiau yn lle trenau rhwng:
• Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.
• Pontypridd ac Aberdâr.
Mae disgwyl i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar lwybrau i mewn / allan o Gaerdydd fod yn brysurach na'r arfer felly gadewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad am wasanaethau'r brif lein ar y Sgwâr Canolog a chiwiau am wasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf. Ewch i trc.cymru neu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Maes parcio Eversheds.)
Bydd cost o £12 yn daladwy ar y diwrnod.
Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.10am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 8.30pm gyda'r safle yn cau'n fuan wedi hynny.
Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Bysus)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 i geir a £30 i fysus - yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio- mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Tra bydd y ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau, bydd safleoedd bysiau dros dro yn Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd Churchill, ac Arglawdd Fitzhammon.
Bysiau lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11am ac yn ailagor am 9pm.