19.4.23
Mae trysor o'r 17eg ganrif i'w weld yn Amgueddfa Caerdydd ar ôl i chwilotwr metel lleol ei ddatguddio.
Y gred yw yr oedd y thimbl arian prin yn rhodd rhamantus oherwydd y neges ‘I AM YOVRS' (fi yw dy gariad) ar y gwaelod. Roedd wedi'i gladdu ym Mhentyrch 18cm o dan y ddaear.
Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Alison Tallontire: "Dyma'r darn cyntaf o drysor i gael ei arddangos yn yr Amgueddfa erioed, felly mae'n gyffrous iawn i ni.
"Ar un adeg roedd y thimbls hyn fel arfer yn eiddo i uchelwyr y dosbarth uchaf, ond erbyn hyn maen nhw'n brin iawn. Gwnaeth menywod cefnogol o'r Seneddwyr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr 1642 - 1652 eu rhoi at yr achos, a chafodd yr arian ei doddi a'i ailddefnyddio.
Ar ôl dod o hyd i'r trysor yn 2017, gwnaeth y chwilotwr metel Peter Morgan hysbysu'r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru, a gwnaeth Crwner cynorthwyol De Cymru, Mr Nadim Bashir, ddatgan ei fod yn drysor yn 2019.
Wedi hynny, daeth i law Amgueddfa Caerdydd drwy broject partneriaethArbed Trysorau; Adrodd Straeon(2015-2020) dan arweiniad Amgueddfa Cymru ac wedi'i ariannu gan raglenCasglu TreftadaethCronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae'r thimbl bellach yn rhan o arddangosfa 'Caerdydd Cynnar' yr amgueddfa, ochr yn ochr â darganfyddiadau archeolegol eraill o cyn 1794, gan gyfoethogi'r stori y mae'r amgueddfa'n gallu ei hadrodd am Gaerdydd gynnar.
Gellir gweld y thimbl yn yr adran Caerdydd Gynnar, sy'n rhan o Oriel Caerdydd mewn Cyd-destun. Mae ar agor bob dydd 10am - 4pm.