Dydd Llun 17 Ebrill 2023
Mae miloedd o rieni ar draws Caerdydd wedi derbyn lle sydd wedi'i gynnig i'w plentyn ddechrau yn yr ysgol gynradd o fis Medi 2023 ymlaen.
Bydd 3,847 o blant yn symud o'r ysgol feithrin i'r ysgol gynradd yn yr hydref, a hyd yma, mae 3,233 o geisiadau wedi'u gwneud i Gyngor Caerdydd.
Yn seiliedig ar ffigyrau cyfredol, mae 98.2% o'r rhai sydd wedi gwneud cais wedi cael cynnig lle yn eu hysgol gynradd gymunedol dewis cyntaf, gyda 99.6% yn cael cynnig lle yn un o'r tri ysgol a ddewiswyd ganddynt.
Eleni yw'r tro cyntaf i Gyngor Caerdydd allu defnyddio system dderbyn wedi'i chydlynu ar gyfer ceisiadau ysgolion cynradd, gyda cheisiadau i bob ysgol gymunedol a'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd ffydd yn cael eu gwneud drwy'r awdurdod lleol, gan ddefnyddio'r un ffurf a phroses. Mae'n system y dechreuodd yr awdurdod lleol ei defnyddio ar gyfer ceisiadau ysgolion uwchradd am y tro cyntaf yn 2018.
Pan ddaw hi'n fater o ystyried y ffigyrau cyfun ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol a ffydd dan y system wedi'i chydlynu, mae cyfran y rhai sy'n gwneud cais yn cael cynnig lle yn eu dewis cyntaf yn codi i 99.4%.
Mae gan rieni y mae lle wedi'i gynnig iddynt tan 2 Mai i dderbyn neu wrthod yn ffurfiol. Mae manylion sut i wneud hyn wedi'u cynnwys yn y llythyr neu'r e-bost cynnig a anfonwyd atynt gan Gyngor Caerdydd.
2 Mai hefyd yw'r dyddiad cau ar gyfer unrhyw geisiadau sydd eto i'w gwneud. Bydd y penderfyniadau ar y ceisiadau hynny yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod ysgolion cymunedol a'r mwyafrif llethol o ysgolion ffydd wedi dod at ei gilydd eleni i greu system dderbyn wedi'i chydlynu i'r teuluoedd sy'n pontio i'r ysgol gynradd o'r hydref nesaf.
"Er bod nifer uchel o geisiadau wedi'u gwneud ar amser eto eleni, byddwn yn annog unrhyw rieni sydd eto i wneud cais i wneud hynny erbyn y dyddiad cau ar 2 Mai fan bellaf, ac i wneud defnydd llawn o nifer y dewisiadau sydd ar gael iddynt. Mae hefyd yn bwysig iawn bod rhieni sydd wedi derbyn llythyr neu e-bost cynnig gan y Cyngor yn cysylltu i naill ai dderbyn neu wrthod y lle ysgol.
"Mae'r ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau hyd yma yn seiliedig ar gynigion dros dro, a byddwn yn dechrau gweld y darlun terfynol ar gyfer mis Medi ymlaen yn dod i'r amlwg wrth i ni symud i ail rownd y broses ymgeisio."
O'r 80 ysgol gynradd gymunedol yng Nghaerdydd, mae gan 68 ohonynt leoedd i'w cynnig. O'r 20 ysgol ffydd yn y system wedi'i chydlynu, mae gan 17 leoedd ar gael.
I gael manylion ynglŷn â gwneud cais am ysgol gynradd yng Nghaerdydd, ynghyd â'r rhestr lawn o ffigyrau ymgeisio ar gyfer pob ysgol gynradd yn y system dderbyn wedi'i chydlynu ewch iwww.caerdydd.gov.uk/ysgolion