Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Ebrill 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Disgwylir i Stryd y Castell barhau i fod ar agor i draffig cyffredinol; Gwella adeiladau cymunedol i hybu eu defnydd; a Noson i gydnabod a dathlu rhagoriaeth ac ymroddiad mewn gwaith gofal.

 

Disgwylir i Stryd y Castell barhau i fod ar agor i draffig cyffredinol

Mae'n edrych yn debyg y bydd Stryd y Castell Caerdydd yn parhau i fod ar agor i draffig cyffredinol gyda'r system ffordd dros dro bresennol wedi'i gwneud yn barhaol - gyda dwy lôn ar gyfer traffig cyffredinol, lôn fysus tua'r gorllewin a llwybr beicio dwyffordd yn parhau ar y stryd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod dau opsiwn yn ei gyfarfod ddydd Iau 27 Ebrill - gydag argymhelliad, yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, i ganiatáu i draffig cyffredinol barhau i ddefnyddio Stryd y Castell a galluogi cynllun parhaol i gael ei roi ar waith.

Opsiwn 1. Caniatáu i draffig cyffredinol barhau i ddefnyddio'r stryd;

Opsiwn 2. Caniatáu i fysus, tacsis a beicwyr yn unig ddefnyddio'r stryd.

Mae modelu ansawdd aer manwl bellach wedi digwydd ar gyfer Stryd y Castell a'r rhwydwaith amgylchynol ar gyfer y ddau opsiwn ac mae'r canlyniadau'n dangos bod cadw'r ffordd ar agor i draffig cyffredinol yn well o ran y buddion i'r economi a'r amgylchedd.

Mae'r modelu ansawdd aer wedi arwain at dri phrif gasgliad:

  1. Mae'r ddau opsiwn yn cyflawni'r ansawdd aer sy'n ofynnol yn gyfreithiol ar Stryd y Castell.
  2. Byddai gwahardd traffig cyffredinol ar Stryd y Castell yn cynyddu crynodiadau Nitrogen Deuocsid (NO2) ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach.
  3. Bydd caniatáu i draffig cyffredinol ddefnyddio Stryd y Castell yn gwella gwydnwch ar rwydwaith priffyrdd Caerdydd wrth i'r ddinas barhau i ddatblygu.

 

Mae'r ddau opsiwn yn bodloni gofynion Llywodraeth Cymru o ran sicrhau cydymffurfiaeth ansawdd aer - mae'r lefelau wedi'u mesur o Nitrogen Deuocsid (NO2) ar Stryd y Castell wedi cydymffurfio ers 2021 yn dilyn cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn gostwng lefelau NO2 ar y stryd yma.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r data wedi'i fodelu yn dangos bod caniatáu i bob math o draffig ddefnyddio Stryd y Castell yn gwella ansawdd aer cyffredinol canol y ddinas a'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos ychydig. Wrth gynllunio trafnidiaeth, rhaid i ni sicrhau bod llwybrau digonol o ddwyrain y ddinas i'r gorllewin ac i'r gwrthwyneb, nid yn unig ar gyfer modurwyr, ond i feicwyr a cherddwyr hefyd.

"Hefyd, bydd cadw Stryd y Castell ar agor i draffig cyffredinol yn helpu'r traffig barhau i lifo i mewn ac allan o ganol y ddinas yn y dyfodol pan ystyriwn fesurau arafu traffig eraill. Er enghraifft, rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni edrych ar gyfyngu'r llwybr dwyreiniol i'r gorllewin drwy Sgwâr Callaghan lle bydd angen tynnu lonydd traffig i ganiatáu adeiladu'r lein tram-drenau newydd ar y stryd ar gyfer cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd. Prosiect cyffrous yw hwn a fydd wir yn dechrau newid y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y ddinas. Bydd parhau i ganiatáu i'r holl draffig ddefnyddio Stryd y Castell yn helpu traffig i lifo'n well i ganol y ddinas ac allan ohono tra bod ein hopsiynau tram-drenau'n symud ymlaen.

"Rhaid asesu gofynion eraill hefyd heblaw ansawdd aer. Mae angen i ni ystyried effaith unrhyw newid ar gynllun unrhyw ffyrdd ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach. Rhaid i ni amddiffyn ardaloedd preswyl rhag llygredd aer, cefnogi beicio a cherdded, a gosod cynllun parhaol ar Stryd y Castell sy'n addas i brifddinas. Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni wella'r amgylchedd lleol i bawb.

"Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo, bydd y cynllun dros dro sydd ar waith ar hyn o bryd yn cael ei wneud yn barhaol gyda dwy lôn ar gyfer traffig cyffredinol, lôn fysus tua'r gorllewin, llwybr beicio dwyffordd ar wahân a phalmentydd ehangach. Yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru ac yn dilyn y prosesau tendro angenrheidiol, gallai'r gwaith ddechrau ar y stryd yn gynnar yn 2024."

Darllenwch fwy yma

 

Gwella adeiladau cymunedol i hybu eu defnydd

Gwahoddir sefydliadau cymunedol yn y sector gwirfoddol yn y ddinas i wneud cais am grantiau ar gyfer prosiectau sy'n gwella'u hadeiladau cymunedol ac yn helpu i sicrhau neu gynyddu eu defnydd gan y gymuned leol. 

Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i ariannu gwelliannau mewnol ac allanol i adeiladau fel canolfannau cymunedol neu neuaddau cymunedol, gan gynnwys gwella mesurau hygyrchedd a diogelwch, adnewyddu cegin, ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni.

Mae'n ofynnol i grwpiau a sefydliadau sy'n ymgeisio am arian grant gyfrannu o leiaf 15% o gostau cyffredinol y prosiect o ffynonellau eraill.

Rhaid i grwpiau cymwys fod â chyfansoddiad neu fod â datganiad o nodau ar gyfer eu sefydliad a bod â chyfrif banc.  Mae adeiladau cymunedol cymwys ar gyfer defnydd gan y gymuned gyfan, nid dim ond un neu nifer cyfyngedig o grwpiau.

Bydd ceisiadau sydd wedi dod i law am adeiladau o fewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu sgorio fel blaenoriaeth uwch o'i gymharu â cheisiadau eraill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Nod y rhaglen Grantiau Adeiladau Cymunedol hon yw cefnogi grwpiau a sefydliadau i ddarparu cyfleusterau lleol, hygyrch ger y man lle mae pobl yn byw. Rydym am helpu grwpiau i wella ac uwchraddio eu hadeiladau i'w gwneud yn fwy cynaliadwy, ac yn cael eu defnyddio'n well gan y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu."

Mae mwy o fanylion a ffurflen gais ar  gael yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am gyllid yw 9 Mai 2023.

 

Noson i gydnabod a dathlu rhagoriaeth ac ymroddiad mewn gwaith gofal

Mae gweithwyr gofal o bob rhan o Gaerdydd a Bro Morgannwg wedi'u cydnabod am eu hymroddiad a'u safonau gwaith rhagorol yn Nathliad Rhagoriaeth mewn Gofal Partneriaeth Gweithlu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro

Yn y digwyddiad blynyddol, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gelf y Memo yn y Barri ac a gyflwynwyd gan gyflwynydd Newyddion y BBC, Sian Lloyd, rhoddwyd gwobrau i weithwyr gofal o dimau'r cyngor a phartneriaid darparu yn y rhanbarth am ennill eu cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y digwyddiad, ymunodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AoS, ac uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru a Chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg ag Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey, Aelodau Cabinet Cyngor Caerdydd dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Norma Mackie (Oedolion) a'r Cynghorydd Ash Lister (Plant) yn y digwyddiad.

Cafodd gweithwyr o sefydliadau sy'n gweithio ym Mhartneriaeth Gweithlu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro ac sydd wedi ennill eu cymhwyster a dangos ymroddiad a safonau gwaith rhagorol eu dathlu, a chyflwynwyd tystysgrif a bag o nwyddau iddynt.

Dwedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Graham Hinchey:  "Rwyf am roi teyrnged i ymroddiad, amynedd, a phroffesiynoldeb yr holl weithwyr gofal a ddathlwyd gennym yn y noson gyflwyno gwobrau. Nid yw gwaith gofal yn waith hawdd i unrhyw un ymgymryd ag ef, ond mae'n un hanfodol. Mae'n ganolog i les miloedd o bobl yn ein dinas, felly mae fy niolch personol yn fawr i bob un gweithiwr gofal sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd."

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie: "Mae ein gweithwyr gofal gwych yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn gwneud gwaith anhygoel. Maen nhw'n gweithio'n ddiflino, yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn, felly mae dathliadau fel hyn yn hynod bwysig i ddangos  iddyn nhw cymaint rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi eu hymdrechion a'u cyflawniadau."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister: "Roedd yn anrhydedd dathlu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ledled Caerdydd a'r Fro drwy ofal cymdeithasol.  O ddydd i ddydd mae'r gweithwyr gofal roedden ni'n eu dathlu yn dylanwadu ar fywydau pobl, ac yn eu newid er gwell.

"Mae fy mam yn weithiwr gofal cartref felly rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon y gofal, yr angerdd a'r ymroddiad sy'n rhan o'r gwaith  mae gweithwyr gofal yn ei wneud i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau."