Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: Y Cyngor yn ymuno â chynllun Cyflogwr sy'n Sy'n Dda i Bobl Hŷn;Arolygwyr Estyn yn canmol Ysgol Uwchradd y Dwyrain; a Cogydd ysgol yn ymddeol ar ôl gweini bron 1 miliwn o brydau bwyd!
Y Cyngor yn ymuno â chynllun Cyflogwr sy'n Sy'n Dda i Bobl Hŷn
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod fel Cyflogwr Sy'n Dda i Bobl Hŷn fel rhan o waith yr awdurdod i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn.
Mae'r Cyngor wedi cael ei dderbyn ar gynllun Addewid Cyflogwr y Ganolfan Heneiddio'n Well, rhaglen drwy Brydain i gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i wella gwaith i bobl yn eu 50au a'u 60au.
Mae'r Ganolfan Heneiddio'n Well yn sefydliad ledled y DU sydd ar flaen y gad o ran yr uchelgais i sicrhau bod pawb yn heneiddio'n dda. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwerth pobl hŷn yn y gweithle yn cael ei gydnabod gan gyflogwyr a bod sefydliadau'n adeiladu timau aml-genhedlaeth.
Drwy lofnodi'r addewid, mae'r Cyngor yn dangos ei ymrwymiad i weithwyr hŷn a gwneud ein gweithleoedd gystal â phosib i bobl hŷn.
Croesawyd y gydnabyddiaeth hyn gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion) a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Cyngor, y Cynghorydd Norma Mackie, a dywedodd: "Mae Caerdydd ar daith i fod yn well i bobl hŷn ac mae ymuno â'r cynllun hwn yn llwyddiant sylweddol arall ar hyd y ffordd.
"Mae dod yn Gyflogwr Sy'n Dda i Bobl Hŷn yn anfon neges gref i'n gweithlu ein hunain a'n darpar weithwyr ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff hŷn a'r profiad a'r wybodaeth y maent yn ei chyflwyno i'w swyddi.
"Mae ein hymrwymiad i wella cyfleoedd gyrfa i bobl hŷn yng Nghaerdydd yn cael ei danlinellu yn y Cynllun Corfforaethol newydd 2023-26. Rydyn ni eisiau gosod y safon i gyflogwyr eraill yn y ddinas ei dilyn a gallu cynnig gwybodaeth a chyngor ar ffyrdd y gallant wella eu busnes neu sefydliad o ran pobl hŷn, gyda'r bwriad o ymuno â'r cynllun addewid hefyd."
Arolygwyr Estyn yn canmol Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Mae un o ysgolion uwchradd mwyaf Caerdydd wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan arolygwyr Estyn a ganmolodd y flaenoriaeth uchel mae'n ei rhoi i les disgyblion.
Cafodd Ysgol Uwchradd y Dwyrain, a symudodd i safle arloesol newydd gwerth £26m yn Nhredelerch ym mis Ionawr 2018, ei graddio'n 'anfoddhaol' yn adroddiad diwethaf Estyn yn 2014 a'i rhoi mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd yn 2015.
Ond mae'r adroddiad diweddaraf yn pwysleisio gwaith da'r ysgol yn rhoi "lefel uchel o ofal, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion".
Ychwanegodd: "Mae athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda, ac mae llawer yn cynllunio'u gwersi'n ofalus i gipio dychymyg disgyblion a sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd da yn eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pwnc.
"Mae'r staff yn ddigynnwrf ac yn meithrin perthynas waith gadarnhaol gyda disgyblion. O ganlyniad, mae llawer yn ymateb yn bositif i'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig iddyn nhw ac ymddwyn yn dda mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol."
Cafodd Ysgol Uwchradd y Dwyrain, sydd â 1,162 o ddisgyblion, gyda bron un o bob pump (19.4%) wedi'u nodi'n rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) - o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o 17.8% - glod arbennig am ei gwaith yn y maes hwn. "Mae'r ddarpariaeth ADY yn cael ei chydlynu'n arbennig o dda ac effeithiol," meddai arolygwyr, gan nodi bod disgyblion, a'u rhieni neu ofalwyr, yn cael cefnogaeth o ansawdd uchel.
"Mae disgyblion ag ADY yn ymateb yn dda i'r ddarpariaeth sydd wedi'i theilwra'n ofalus ac mae llawer yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau," ychwanegodd.
Roedd canmoliaeth, hefyd, i waith creadigol disgyblion, a'u gwaith perfformio a sgiliau corfforol ac, ar y cyfan, dywedwyd eu bod yn gwneud cynnydd addas yn eu gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.
Cogydd ysgol yn ymddeol ar ôl gweini bron 1 miliwn o brydau bwyd!
Mae'r cogydd ysgol Pat Morgan wedi ymddeol ar ôl mwy na thri degawd yn gweithio i Bryn Celyn ym Mhentwyn ac yn fwy diweddar yn Ysgol Pen y Groes.
Yn ystod ei gyrfa mae Pat wedi gweini bron 1 miliwn o giniawau ac wedi gweld cenedlaethau o deuluoedd yn mynd drwy'r ysgol.
Mae Pat wedi bod yn rhan enfawr o'r gymuned leol ac mae ei gwên a'i o hwyl wrth fwydo cannoedd o blant llwglyd bob dydd wedi bod yn heintus.
Mae Pat yn edrych ymlaen at ei hymddeoliad ac mae ei gŵr yn gobeithio ei pherswadio i ymuno ag e ar ei randir!
Diolch o galon wrth holl staff y ddwy ysgol a Chyngor Caerdydd am ei gwasanaeth. Dymunwn ymddeoliad hir a hapus iddi. Cadwch mewn cysylltiad, Mrs Morgan!