24/03/23
Mae tad a merch wedi eu gorchymyn i dalu £10,000 am gyfres o droseddau iechyd a diogelwch - gan gynnwys pla o lygod mawr - ym mwyty Lilo Grill ar Heol y Plwca, Caerdydd.
Cafodd y troseddau eu disgrifio fel 'yr achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty ry'n ni wedi dod ar ei draws mewn 15 mlynedd' gan arolygwyr iechyd a diogelwch.
Roedd Mr Sabz Ali Khan, 77, a Miss Sabrina Khan, 41, yn cynrychioli eu hunain yn y llys. Cawsanteu canfod yn euog ar 21 Chwefror,2023,o 18 trosedd wedi achos yn Llys y Goron Casnewydd. Cafodd y ddau ddiffynnydd eu dedfrydu heddiw am y troseddau hyn (23 Mawrth 2023).
Gweithredwr Busnes Bwyd cyfreithiol Lilo Grill yw 'Nightcover Limited' a Sabrina Khan yw unig gyfarwyddwr y busnes. Gorchymynwyd Nightcover Ltd hefyd i dalu £18,500. Roedd ei thad Sabz Khan yn rheoli gweithrediadau'r bwyty o ddydd i ddydd.
Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Rwy' wedi cael gwybod gan y swyddog achos mai dyma'r achos gwaethaf o esgeulustod mewn bwyty yr ydym wedi dod ar ei draws yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Nid yn unig roedd cyflwr yr eiddo yn warth llwyr a beryglodd eu cwsmeriaid, ond roedd y rheolwr hefyd yn hynod gyndyn ei gymwynas ac yn llesteiriol iawn gydol yr ymchwiliad. I goroni'r cyfan, mae'r ddadl a ddefnyddiodd yn ei amddiffyniad fod y llygod mawr yn y bwyty yno oherwydd agosatrwydd myfyrwyr oedd yn byw yn yr ardal, yn gwbl chwerthinllyd.
"Os ydych yn berchen ar neu'n rhedeg busnes bwyd, mae gennych gyfrifoldebau a nodir yn y gyfraith. Os nad ydych yn dilyn yr arferion cywir ac yn caniatáu i'ch busnes fynd i adfeiliad, rydych yn rhoi eich cwsmeriaid mewn perygl o ddioddef afiechyd a haint."
Daeth yr achos i'r amlwg drwy nifer o archwiliadau diogelwch hylendid bwyd rhwngAwst 2019 ac Ionawr 2020.
Canfu'r swyddog achos fod gan y bwyty bla eang ac afreolus o lygod mawr gyda draeniau agored yn caniatáu i lygod mawr ddod i mewn o'r carthffosydd. Roedd baw llygod mawr drwy'r safle; tyllau yn y waliau a'r nenfwd; wrin llygod mawr yn rhedeg i lawr y waliau yn y storfa sych; llygod mawr o dan y cyfarpar coginio a thu ôl i'r griliau a'r dystiolaeth bod llygod mawr yn llusgo cig amrwd i ffwrdda oedd wedi'i adael allan i ddadrewi,gan adael rhimynnau o waed ar arwynebau, yn ogystal â bwyta saim o ddraeniau wedi'u blocio a braster yn diferu o'r ffan echdynnu aer.
Roedd y cnofilod wedi achosi difrod sylweddol i'r eiddo, gan gynnwys:
Pan ymchwiliodd y swyddog i'r arogl yn y bwyty, daeth yn amlwg bod y llygod mawr yn byw o dan y llawr lle'r oedd cwsmeriaid yn bwyta eu bwyd, ond nid y pla llygod mawr oedd yr unig broblem yn y bwyty.
Canfuwyd bod gan y staff arferion hylendid gwael iawn hefyd ac ni chawsant eu hyfforddi na'u goruchwylio'n gywir a nodwyd sawl nam arall hefyd:
Ar Awst 152019, cytunodd Mr Khan i gau'r busnes o'i wirfodd nes bod y gwaith gofynnol wedi ei wneud a chafodd ganiatâd i ailagor ddiwedd Awst pan oedd y gwaith wedi ei wneud.
Cyhoeddwyd nifer o Rybuddion Gwella ar gyfer troseddau hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch ac ni chydymffurfiwyd â nifer o'r rhain, felly cafodd yr achos ei brosesu ar gyfer camau cyfreithiol.
Cafodd Nightcover Ltd ddirwy o £12,000 a gorchymyn i dalu £6,500 o gostau; cafodd Sabrina Khan ddirwy o £1,500 a gorchymyn i dalu £1,500 o gostau a chafodd Sabz Ali Khan ddirwy o £5,000 a gorchymyn i dalu £2,500 o gostau.
Mae'r cyngor yn deall fod Mr Sabaz Ali Khan yn apelio yn erbyn ei ddyfarniad.