Back
Datgelu Cynlluniau ar gyfer Ardal Chwarae Drovers Way

Bydd ardal chwarae Drovers Way yn Radur yn cael ei hadnewyddu gyda thema dŵr sy'n addas i blant bach, plant iau, a chwarae hygyrch.

Bydd yr ardal chwarae ar ffurf 'crychdonnau a phyllau dŵr' ac yn cynnwys cynllun newydd gydag arwyneb diogelwch rwber, cerrig palmant, a seddi newydd. Bydd offer chwarae newydd hefyd yn cael eu gosod, gan gynnwys siglenni, mat bownsio, carwsél hygyrch, troellwyr, aml-uned gyda sleid, teganau sbring, ac elfennau chwarae dychmygus.

Mae contractwr wedi'i benodi a bydd y gwaith gwella, sy'n rhan o raglen fuddsoddi barhaus mewn parciau a mannau chwarae ar draws Caerdydd, yn dechrau unwaith y bydd gwaith draenio yn y parc wedi ei gwblhau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae angen i blant chwarae, mae'n hanfodol i'w datblygiad, ac mae cael mynediad i ardal chwarae leol o ansawdd da yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i deuluoedd. Mae'r buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud yn ardaloedd chwarae Caerdydd mor bwysig ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu datgelu ein cynlluniau i roi ail fywyd i ardal chwarae Drovers Way."