23/03/23
Mae adroddiad newydd mawr yn amlinellu sut mae Caerdydd yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymdeithas, gan ddatgelu mwy o gydweithio a gwaith tîm gan gyrff cyhoeddus ar draws y ddinas, wedi cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o Gabinet yr awdurdod lleol.
Mae Cynllun Lles Lleol Caerdydd 2023-28 wedi'i lunio gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Caerdydd, sy'n dwyn ynghyd arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau gan grwpiau megis Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Llywodraeth Cymru, elusennau, a'r gwasanaethau tân, heddlu a phrawf.
Ei nod yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Caerdydd trwy gryfhau gweithio ar y cyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus y ddinas.
Mae'r cynllun newydd yn nodi blaenoriaethau'r Gwasanaeth Cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf ac yn cynnwys 'Amcanion Lles' a'r camau y bydd y gwasanaethau cyhoeddus yn eu cymryd i wella Caerdydd i'w holl breswylwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a chadeirydd y BGC: "Mae elfen allweddol o'r adroddiad yn arfarniad o'r ffordd mae'r holl grwpiau gwahanol wedi gweithio gyda'i gilydd. Yn ystod y pandemig, bu lefelau digynsail o weithio mewn partneriaeth ac erbyn hyn mae'r adferiad yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni gydweithio gyda'n gilydd hyd yn oed yn fwy i leihau annhegwch, gwella iechyd y boblogaeth ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd - sy'n allweddol i'n huchelgais i greu prifddinas gryfach, decach, wyrddach.
"Mae'r adroddiad newydd yn cydnabod bod pob grŵp ar draws Caerdydd wedi ymateb i'r her yma ac yn gweithio hyd yn oed yn agosach nag erioed."
Cynhyrchwyd y Cynllun Lles fel dogfen i gyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n ymgorffori'r un saith amcan:
Mae ei strwythur yn cynnwys amlinelliad o sut mae'r saith amcan hyn yn cael eu hadlewyrchu yng Nghaerdydd heddiw ond hefyd yn cyflwyno gweledigaeth y BGC o sut bydd y ddinas yn datblygu, gobeithio, dros y pum mlynedd nesaf ac mae'n archwilio nifer o fentrau Gwaith Partneriaeth gan gynnwys:
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Rydym wedi gosod nodau heriol i ni ein hunain am y pum mlynedd nesaf a'r tu hwnt ond rwy'n hyderus y bydd y gweithlu anhygoel sydd gennym - athrawon a gweithwyr ysgol, gweithwyr casglu sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr, y timau rheng flaen a staff yr ystafell gefn - yn parhau i helpu preswylwyr i wella eu bywydau yn yr holl ffyrdd yr ydym wedi'u hamlinellu.
"Yn union fel yr oeddem trwy'r pandemig, mae'r sector gyhoeddus a'r trydydd sector yn parhau i fod yma i chi."
Aeth yr adroddiad i'r Cabinet i'w gymeradwyo Ddydd Iau, 23 Mawrth. Mae'r adroddiad a recordiad o we-ddarllediad y cyfarfod ar gael yma. Bydd yr adroddiad nawr yn mynd gerbron y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod am 4.30pm Ddydd Iau 30 Mawrth. Bydd ffrwd fideo byw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w weld yma.