23/03/23
Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar Strategaeth y Gweithlu yr awdurdod lleol ar gyfer y pum mlynedd nesaf sy'n manylu ar ei ymrwymiad i gyflogi 'y bobl gywir, gyda'r sgiliau cywir, yn y man cywir, ar yr adeg gywir ac ar y gost gywir'.
Mae'r strategaeth, sydd â chyswllt agos ag ymagwedd 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' y Cyngor o ran sut mae'n darparu gwasanaethau i'w breswylwyr a'i gymunedau, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2023-2027 ac yn cynnwys llu o fentrau gyda'r bwriad i:
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithwyr fel eu bod am weithio i ni ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion," meddai'r Cynghorydd Chris Weaver, yr aelod Cabinet dros gyllid, moderneiddio a pherfformiad.
"Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi creu strategaeth gweithlu newydd wedi'i hadeiladu o amgylch ein blaenoriaethau 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' - creu economi gref sy'n cynnal swyddi sy'n talu'n dda, gyda system addysg sy'n helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial, gan greu cyfleoedd y gellir eu mwynhau gan bawb, beth bynnag fo'u cefndir, mewn dinas sy'n canolbwyntio ar ddyfodol gwyrddach."
Mae'r strategaeth newydd yn nodi saith maes blaenoriaeth allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw os yw'r cyngor am ddatgloi potensial llawn ei staff:
Mae'r adroddiad, sydd i fynd gerbron y Cabinet Ddydd Iau nesaf (23 Mawrth), yn amlygu meysydd lle mae'r Cyngor eisoes wedi cael llwyddiannau, gan gynnwys ennill nifer o wobrau am ei agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth - gan gynnwys gwobr aur Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, lle cafodd ei restru fel y cyngor ar y brig yng Nghymru - yn darparu cyrsiau i gefnogi rheolwyr ar bolisïau a gweithdrefnau, gan gynnwys y menopos a niwroamrywiaeth, a datblygu rhaglen ymgysylltu â gweithwyr ledled y cyngor.
Mae sicrhau bod y gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yng Nghaerdydd yn allweddol i'r strategaeth a sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin gydag urddas a pharch. Er mwyn sicrhau hyn, mae'r strategaeth yn amlinellu nifer o flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys:
Mae'r Cyngor hefyd yn ymrwymedig i archwilio ffyrdd newydd o recriwtio staff, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, ac adolygu teitlau swyddi, hysbysebion, disgrifiadau swydd fel y gall ymgeiswyr adnabod y rolau y dymunant wneud cais amdanynt yn hawdd.
Mae hefyd yn parhau i fod yn gyflogwr 'gwaith teg', gan leihau ei ddefnydd o staff asiantaeth a'u trosglwyddo i gontractau parhaol lle bo'n bosib, ac annog staff i ddatblygu eu sgiliau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gofynion newidiol y cyngor.
Mae'r adroddiad Strategaeth y Gweithlu llawn ar gael i'w ddarllen yma. Cafodd ei drafod gan y Cabinet Ddydd Iau, 23 Mawrth. Gweld recordiad o'r ffrwd fideo yma.