Back
Diwrnod hwyl i'r gymuned yn Hyb Lles newydd

22/03/23 

Cynhelir diwrnod hwyl i'r gymuned i ddathlu agoriad Hyb Lles Rhiwbeina newydd yn ddiweddarach yr wythnos hon. 

A picture containing text, sky, outdoor, groundDescription automatically generated

I nodi ei agoriad swyddogol, bydd llawer yn digwydd yn yr hyb lles newydd ddydd Gwener, 24 Mawrth, rhwng 2 a 5pm gan gynnwys celf a chrefft, gweithdy syrcas ac adloniant, pitsa wedi'i bobi ar dân, stondinau cymunedol a mwy.

Bydd cyfle hefyd i ddarganfod mwy am wasanaethau sydd ar gael yn yr hyb, sydd wedi cael ei ailwampio a'i ailfodelu'n sylweddol er mwyn galluogi'r gwaith o gyflawni gwasanaethau ychwanegol a gwell gyda ffocws cryf ar iechyd a lles.

Agorodd yr hyb ei ddrysau i'r cyhoedd ym mis Ionawr ac mae bellach yn gartref i ystafell gyfrifiadurol newydd, ystafelloedd aml-ddefnydd cymunedol newydd, ardal ddisglair a chroesawgar i blant, silffoedd llyfrgell newydd a thoiledau newydd gan gynnwys toiled hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod. Y tu allan, mae ardal yr ardd gefn wedi'i thirlunio i gynnig man deniadol gydag ardal eistedd.

Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi dod gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chyngor Caerdydd.

Bydd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, yn agor yr hyb lles newydd yn swyddogol ar y diwrnod i'r gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Rydyn ni wedi cael adborth gwych am yr hyb lles newydd ers dechrau'r flwyddyn pan agorodd. Mae'r gymuned leol eisoes yn elwa o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau ychwanegol sydd ar gael erbyn hyn.

"Os oes unrhyw un yn yr ardal heb ymweld eto, mae ein diwrnod hwyl i'r gymuned yn gyfle perffaith i ddod draw. Bydd llawer yn digwydd."