Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd wedi seibiant o ddwy flynedd, gydag amrywiaeth o gyflwyniadau gan rai o awduron plant mwyaf poblogaidd y DU.
Bydd awdurThe Beast and the Bethany -Jack Meggitt-Phillips, darlunydd a chrëwr arobryn y gyfresMini Rabbit -John Bond, hanesion môr-ladron y ddeunawfed ganrif gan Iszi Lawrence, a dathliad o 30 mlynedd oHorrible Historiesi gydyn rhan o'r ŵyl.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd wedi bod yn helpu i ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith plant lleol ers blynyddoedd bellach ac mae'n wych ei chael yn ôl. Mae yna awduron gwych wedi'u trefnu ar gyfer eleni, yn barod i greu cenhedlaeth hollol newydd o ddarllenwyr gydol oes."
Ymhlith y digwyddiadau eraill sydd wedi'u cadarnhau ar hyn o bryd ar gyfer yr ŵyl mae:
Bydd y rhaglen lawn ar gyfer yr ŵyl, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ac yn yr Is-grofft yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn Ebrill 22 a dydd Sul Ebrill 23, yn cael ei datgelu pan fydd tocynnau ar werth.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru i dderbyn diweddariadau'r ŵyl, ewch i: https://www.cardiffkidslitfest.com/