Back
Caerdydd yn rhoi teyrnged i Weithwyr Cymdeithasol y ddinas: Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2023

20/03/23 Mawrth 2023

Gyda'r nod o ddod â phobl at ei gilydd i ddysgu, cysylltu, a dylanwadu ar newid, mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2023 yn digwydd o Ddydd Llun 20 i ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 ac i gyd-fynd â'r achlysur, mae aelodau Cabinet Cyngor Caerdydd wedi talu teyrnged i weithwyr cymdeithasol a'r holl staff sy'n cefnogi gwaith cymdeithasol ar draws y ddinas.

Mae'r Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion a'r Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant, wedi ymuno i ddathlu cyflawniadau gweithwyr cymdeithasol Caerdydd a rhannu canmoliaeth o'r gweithlu.

"Hoffwn gymryd y cyfle hwn yn ystodWythnos Gwaith Cymdeithasoli amlygu'r gwaith gwych a wneir gan weithwyr cymdeithasol Caerdydd a'r holl staff sy'n cefnogi'r gwasanaeth. Maen nhw'n gweithio'n anhygoel o galed, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas. Rwyf wedi gweld eu brwdfrydedd a'u hangerdd dros gefnogi cleientiaid agored i niwed ac rwyf am ddiolch iddynt am eu gwaith caled.

"Mae eu hymroddiad, eu hamynedd a'u proffesiynoldeb parhaus yn cyfrannu'n fawr at sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sydd angen ein help fwyaf," meddai'r Cynghorydd Mackie.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ash Lister: "Mae staff ar draws y Gwasanaethau Plant yn gwneud gwaith mor bwysig, sy'n aml yn heriol iawn - bob dydd. 

 

"Ar ôl gweithio gyda phlant a phobl ifanc fy hun, rwyf wedi gweld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud i gadw cenedlaethau'r dyfodol yn ddiogelyn erbyn pwysau mawr, tra'nparhau i helpu i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant.

 

"Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol yn gyfle gwych i ddweud diolch yn fawr, ond i mi mae'n hollbwysig bod staff yn gwybod fod y gwaith maen nhw'n ei wneud yn cael ei werthfawrogi bob dydd o'r flwyddyn."

 

Ym mis Hydref 2022,cyhoeddwyd Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol Caerdydd 2021/22 yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, er gwaethaf cynnydd parhaus yn nifer y bobl sydd angen cymorth yn y ddinas a chymhlethdod y materion sy'n eu hwynebu.

Roedd y canlynol ymysg yr uchafbwyntiau:Caerdydd yn dod yn aelod o Rwydwaith Dinasoedd sy'n Deall Pobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd - y ddinas gyntaf yng Nghymru - diolch i waith caled rhagweithiol ac arloesol staff y Gwasanaethau Cymdeithasol,cyflwyno'r Strategaeth Heneiddio'n Dda a chyfradd ateb o 96% o'r 39,786 o gysylltiadau a reolir gan dîm Pwynt Cyswllt Cyntaf y Gwasanaethau Oedolion.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfleu'r gwelliannau a wnaed i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac yn tynnu sylw hefydat bron i 47,500 o gysylltiadau newydd yr ymatebwyd iddynt gan y Gwasanaethau Plant.

Mae ystod o weithgareddau ar y gweill drwy gydol Wythnos Gwaith Cymdeithasol i ddathlu'r holl staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasolac sy'n chwarae rhan annatod wrth ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol iGaerdydd, tra'n codi ymwybyddiaeth o'r rolau yn y sector ac yn anrhydeddu unigolion a'u llwyddiannau.

Mae 21 Mawrth yn nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd a'r thema eleni yw 'Parchu amrywiaeth drwy weithredu cymdeithasol ar y cyd', gan gydnabod bod newid yn digwydd yn lleol trwy ein cymunedau amrywiol. Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar-lein i staff a gweithwyr cymdeithasol a fydd yn adlewyrchu ar hanes gwaith cymdeithasol,yr hyn sy'n ysgogi pobl i fynd i mewn i'r proffesiwn ac achosion o arfer gorau.

 

Bydd y Gwasanaethau Oedolion hefyd yn dathlu arferion da mewn digwyddiad ddydd Mercher 22 Mawrth, pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn rhannu eu profiadau.

 

Ychwanegodd y Cyng Mackie a'r Cyng Lister:  "Mae'r wythnos hon yn rhoi cyfle i arddangos y cyfraniad gwerthfawr y mae ein gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud i'r ddinas ac i fyfyrio ar y pethau cadarnhaol.  Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrio, rhannu adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a diolch i'r rheiny yn y sector."