23/3/23
Mae graddfa ac uchelgais
rhaglen datblygu tai cyngor Caerdydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Busnes
blynyddol Cyfrif Refeniw Tai yr awdurdod.
Dyma un o'r prosiectau tai
cyngor mwyaf yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad o £800m gan y Cyngor i adeiladu
mwy o gartrefi carbon isel, ansawdd uchel, a fforddiadwy yn hanfodol i ddiwallu’r
angen am dai yn y ddinas, ac mae'n flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Busnes
2023/24.
Mae targed i adeiladu o
leiaf 4,000 o gartrefi newydd gan gynnwys 2,800 o gartrefi cyngor a 1,200 o
gartrefi i’w gwerthu. Yn barod, mae mwy na 1,000 o gartrefi newydd, gan gynnwys
822 o dai cyngor, wedi cael eu hadeiladu. Mae 60 o safleoedd yn rhan o’r
rhaglen hyd yn hyn sy’n ddigon ar gyfer
3,500 neu fwy o gartrefi newydd, ac mae gwaith yn digwydd i adnabod mwy o
safleoedd i gyrraedd y targed o 4,000 o gartrefi.
Yn rhan o’r rhaglen mae
dros £150m wedi’i glustnodi ar gyfer 10 cynllun Byw yn y Gymuned newydd i bobl
hŷn. Bydd y 600 o fflatiau newydd drwy hyn yn bodloni dyheadau pobl hŷn wrth
iddyn nhw heneiddio.
Mae cynaliadwyedd ac
arloesedd wrth wraidd datblygiadau. Enghraifft o hynny yw’r cartrefi modiwlaidd
ynni-effeithlon ar Crofts Street, Plasnewydd, a safle Aspen Grove yn
Nhredelerch sy’n barod i fod yn sero net. Mae’r rhain yn gosod y safon ac yn
cael cydnabyddiaeth genedlaethol mewn cynlluniau gwobrau mawr.
Mae’r buddsoddiad yn y
rhaglen dai newydd yn rhan o tua £111m ar gyfer tai a chymunedau yn y ddinas
dros y 12 mis nesaf, gan gynnwys gwelliannau i gartrefi presennol, addasiadau i
bobl anabl a chynlluniau adfywio.
Mae symud tuag at gartrefi
sero carbon yn flaenoriaeth nid yn unig mewn datblygiadau newydd ond mewn stoc
bresennol, yn unol â Strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor. Bydd bron i £16m yn cael ei wario ar stoc
bresennol, gan gynnwys £3.1m ar gynlluniau effeithlonrwydd ynni i'w gwneud yn
fwy cyfforddus i fyw ynddo ac yn fwy fforddiadwy i’w cynnal ar gyfer
tenantiaid.
Mae blaenoriaethau eraill
yn cynnwys parhau i sicrhau cymorth costau byw, atal a lleddfu digartrefedd a
moderneiddio a gwella gwasanaethau i denantiaid.
Dywedodd yr Aelod Cabinet
dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Ar hyn o bryd, mae pob rhan o’n
gwasanaethau’n profi pwysau - Mae’r galw’n fawr am dai fforddiadwy o ansawdd da
gyda thua 8,000 o bobl ar restrau aros y ddinas, niferoedd digynsail o bobl yn
defnyddio’n gwasanaethau digartrefedd ac wrth gwrs, mwy o drigolion yn ei chael
hi'n anodd delio â chostau cynyddol ynni, bwyd ac yn y blaen.
"Rwyf wedi ymrwymo i
fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ac mae'n bwysicach nag erioed ein
bod yn gallu darparu tai fforddiadwy o ansawdd da i'r sawl sydd ei angen fwyaf,
a chyngor a chymorth effeithiol i'n tenantiaid.
"Yn ogystal â goresgyn
yr heriau hyn, mae llawer i edrych ymlaen ato eleni - ein cynllun datblygu sy’n
mynd o nerth i nerth, ein cynllun cyntaf ar gyfer tai i bobl hŷn yn Addison
House yn Nhredelerch yn agor yn yr hydref, gwaith i ehangu safle Gasworks i
helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, a cham cyntaf y gwaith i weddnewid
ystâd Trem y Môr ag enwi ond ychydig."
Fel un o ddim ond 11
awdurdod lleol sy'n cadw stoc yng Nghymru, rhaid i'r cyngor gyflwyno Cynllun
Busnes derbyniol i’r Cyfrif Refeniw Tai i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Yn ei gyfarfod ddydd Iau, 23 Mawrth, cymeradwyodd y Cabinet i gyflwyno
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 i Lywodraeth Cymru. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma:
https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7960&Ver=4
Cyn y Cabinet, trafodwyd y cynllun
busnes gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymuned ac Oedolion mewn cyfarfod
cyhoeddus.
(diwedd)