Back
Adroddiad newydd yn dangos cysylltiadau agosach rhwng grwpiau allweddol Caerdydd

17/03/23 

Mae adroddiad newydd helaeth sy'n amlinellu sut mae Caerdydd yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r gymdeithas wedi datgelu mwy o gydweithio a gwaith tîm gan gyrff cyhoeddus yn yr ardal. 

Mae Cynllun Lles Lleol Caerdydd 2023-28 wedi'i lunio gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Caerdydd, sy'n dwyn ynghyd arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau gan grwpiau megis Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Llywodraeth Cymru, elusennau, a'r gwasanaethau tân, heddlu a phrawf. 

Ei nod yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Caerdydd trwy gryfhau gweithio ar y cyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus y ddinas. 

Mae'r cynllun newydd yn nodi blaenoriaethau'r Gwasanaeth Cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf ac yn cynnwys 'Amcanion Lles' a'r camau y bydd y gwasanaethau cyhoeddus yn eu cymryd i wella Caerdydd i'w holl breswylwyr. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a chadeirydd y BGC: "Mae elfen allweddol o'r adroddiad yn arfarniad o'r ffordd mae'r holl grwpiau gwahanol wedi gweithio gyda'i gilydd. Yn ystod y pandemig, bu lefelau digynsail o weithio mewn partneriaeth ac erbyn hyn mae'r adferiad yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ni gydweithio gyda'n gilydd hyd yn oed yn fwy i leihau annhegwch, gwella iechyd y boblogaeth ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd - sy'n allweddol i'n huchelgais i greu prifddinas gryfach, decach, wyrddach. 

"Mae'r adroddiad newydd yn cydnabod bod pob grŵp ar draws Caerdydd wedi ymateb i'r her yma ac yn gweithio hyd yn oed yn agosach nag erioed." 

Cynhyrchwyd y Cynllun Lles fel dogfen i gyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n ymgorffori'r un saith amcan: 

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu
  • Mae Caerdydd yn lle gwych i fynd yn hyn
  • Cynorthwyo pobl i ddianc rhag tlodi
  • Cymunedau Diogel, Hyderus ac wedi'u Grymuso
  • Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru
  • Caerdydd Un Blaned
  • Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus

 

Mae ei strwythur yn cynnwys amlinelliad o sut mae'r saith amcan hyn yn cael eu hadlewyrchu yng Nghaerdydd heddiw ond hefyd yn cyflwyno gweledigaeth y BGC o sut bydd y ddinas yn datblygu, gobeithio, dros y pum mlynedd nesaf ac mae'n archwilio nifer o fentrau Gwaith Partneriaeth gan gynnwys: 

  • Ennill statws Dinas Sy'n Dda i Blant UNICEF
  • Cynyddu nifer y plant sy'n cael eu brechu/himiwneiddio
  • Lleihau ac, yn y pen draw, atal pobl rhag ysmygu ymhlith plant a phobl ifanc
  • Sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal integredig yn yr ardal leol
  • Rydyn ni'n gweithio i ddod yn Brifddinas sy'n Deall Dementia.
  • Gweithredu'r Cyflog Byw gwirioneddol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynyddu nifer y cyflogwyr Cyflog Byw achrededig i 300 o'r lefel bresennol, sef 197, erbyn mis Tachwedd 2025
  • Cynyddu canran y bobl sydd â phwysau iach a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, yn enwedig yn y cymunedau mwy difreintiedig
  • Mynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Rhwystro cyflenwad anghyfreithlon cyffuriau
  • Sefydlu dull partneriaeth o leihau nifer y bobl hŷn sy'n dioddef twyll
  • Croesawu a chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Darparu cyfleoedd prentisiaethau a hyfforddeiaethau newydd
  • Dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2050.
  • Creu newid ymddygiad, gan ganolbwyntio ar deithio, defnyddio ynni a bwyd
  • Gwella ansawdd dŵr trwy ddatrysiadau dalgylch cyfan sy'n seiliedig ar natur, i reoli adnoddau dŵr
  • Pontio i fflyd o gerbydau allyriadau isel yn y sector cyhoeddus
  • Cynyddu rhannu data ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gan ddatblygu'r dull llwyddiannus a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig
  • Cynyddu lefelau cyfranogiad dinasyddion yn y broses gwneud penderfyniadau

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Rydym wedi gosod nodau heriol i ni ein hunain am y pum mlynedd nesaf a'r tu hwnt ond rwy'n hyderus y bydd y gweithlu anhygoel sydd gennym - athrawon a gweithwyr ysgol, gweithwyr casglu sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr, y timau rheng flaen a staff yr ystafell gefn - yn parhau i helpu preswylwyr i wella eu bywydau yn yr holl ffyrdd yr ydym wedi'u hamlinellu. 

"Yn union fel yr oeddem trwy'r pandemig, mae'r sector gyhoeddus a'r trydydd sector yn parhau i fod yma i chi." 

Bydd yr adroddiad wedyn yn mynd gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo am 2pm ddydd Iau, 23 Mawrth. Byddwch yn gallu gweld ffrwd fideo fyw o hynny  yma, cyn iddo gael ei glywed gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod o 4.30pm ddydd Iau 30 Mawrth. Byddwch yn gallu gweld ffrwd fideo fyw o'r cyfarfod hwnnw  yma.