Back
Hwb i weithwyr benywaidd yng nghyfarfod adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau Cyngor Caerdydd

17/03/23 

Mae adroddiad newydd ar bolisi tâl Cyngor Caerdydd yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei weithlu yn parhau i agosáu. 

Mae ffigyrau a ryddhawyd ym Mholisi Cyflog diweddaraf yr awdurdod, adroddiad eang sy'n amlinellu cyflog a thâl i'w holl weithwyr, yn dangos bod gan fenywod gyfradd cyfartalog uwch bob awr na dynion, tuedd a ddechreuodd y llynedd. 

Mae'r adroddiad, a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau, 23 Mawrth, yn nodi bod y gyfradd fesul awr ar gyfartaledd a dalwyd i fenywod yn £15.83 (£15.33 i ddynion) yn 2021. Yn 2022, fe aeth cyfradd merched i fyny i £16.22, o'i gymharu â £15.37 ar gyfer dynion. 

Ond mae'r gyfradd ganolrifol - y gyfradd fesul awr sy'n cael ei dalu i ddynion a menywod yng nghanol strwythur cyflogau'r cyngor - wedi codi o £13.21 i £13.44 i fenywod. Ar gyfer dynion mae wedi gostwng o £14.11 i £13.71. 

Mae dynion a menywod sy'n cael eu cyflogi yn yr un swyddi yn cael eu talu'r un fath yng Nghyngor Caerdydd. Ar ben hynny, mae gan y Cyngor broses sefydledig o werthuso swyddi sy'n sicrhau bod gwahanol swyddi sydd o werth cydradd hefyd yn cael eu talu'r un fath. 

Mae'r newid yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, medd yr adroddiad, yn rhannol oherwydd ffactorau fel newidiadau yn nifer y gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, a gostyngiad yn nifer y merched sy'n talu i gynlluniau aberthu cyflog (e.e. absenoldeb di-dâl, seiclo i'r gwaith a thalebau gofal plant). 

Mae atodiad hefyd wedi'i dalu i staff gweithwyr cymdeithasol, sy'n fenywod yn bennaf, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y maes hwn. 

Ar draws y bwrdd, mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu rhoi hwb i gannoedd o weithwyr ar ei radd cyflog isaf i'w cyflogau o fis Ebrill ymlaen. 

Mae'r adroddiad yn cynnig rhoi cynnydd i'w holl weithwyr Gradd 1 yn unol â'r cynnydd yn y 'Cyflog Byw Gwirioneddol'. Byddai hyn, ynghyd â chytundeb tâl cenedlaethol sy'n effeithio ar bob awdurdod lleol, yn golygu bod gweithwyr yn cael £10.50 yr awr ar hyn o bryd yn symud hyd at £10.90 yr awr. 

Mae'r Cyngor wedi bod yn gefnogwr o'r Cyflog Byw Gwirioneddol ers amser maith ac wedi ymrwymo i'w weithredu drwy'r sectorau cyhoeddus a phreifat lleol.  Ei nod yw cynyddu nifer y cyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd i 300, o'r 197 sydd ar hyn o bryd, erbyn mis Tachwedd 2025 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad y Cyngor: "Mae sawl agwedd gadarnhaol i'r cyngor yn yr adroddiad hwn ac mae'n dangos faint rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein gweithlu. "Rydym yn credu'n gryf y dylai ein holl weithwyr gael eu gwobrwyo'n deg a heb wahaniaethu am y gwaith y maent yn ei wneud".