Back
Cymuned leol yn ennill cae pêl-droed pob tywydd newydd


 

17/3/23

Mae pêl-droedwyr yn Sblot wedi rhoi eu sêl bendith i gae pêl-droed 3G newydd yn yr ardal.

 

Ymunodd chwaraewyr o dîm merched dan 10 oed Clwb Pêl-droed Splott Albion ddoe â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke ac aelodau ward lleol yn ystod lansiad swyddogol y cyfleuster newydd, sydd wedi cael ei ddarparu fel rhan o Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaeth y Cyngor.

 "Mae'n anhygoel!" oedd rheithfarn y chwaraewyr ifanc sy'n edrych ymlaen at chwarae eu gêm gyntaf ar y cae yn fuan iawn.

 

Mae'r rhaglen Cynlluniau Adfywio Cymdogaethau yn darparu projectau adfywio ar hyd a lled y ddinas, yn barciau newydd, gwelliannau i strydoedd ac i ddiogelwch cymunedol.

 

Cafodd y cynllun i gyflwyno'r cae ei gynnig gan aelodau lleol i ddarparu cyfleuster gydol y flwyddyn i'w ddefnyddio gan y gymuned leol. Bydd Splott Albion FC nawr yn rheoli'r arwyneb pob tywydd synthetig newydd sydd hefyd â ffensys 5m o uchder rownd y perimedr, llifoleuadau a mynediad diogel. Bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio heb unrhyw gost i glybiau pêl-droed iau lleol, yn ogystal ag i'w logi'n breifat gan dimau chwaraeon eraill.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae'r darn hwn o dir wedi'i drawsnewid o ardal chwarae pêl-fasged braidd yn segur i fod yn gae pob tywydd gwych, addas at y diben a fydd yn gaffaeliad gwirioneddol i glybiau lleol yn y gymuned.

"Mae wedi bod yn wych gweld y bobl ifanc o Splott Albion FC yn defnyddio'r cae heddiw."

 

A picture containing grass, fence, soccer, outdoorDescription automatically generated

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Rydym am weld cymaint o bobl yng Nghaerdydd â phosibl yn mwynhau manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac un ffordd y gallwn wneud hynny yw trwy gefnogi clybiau lleol, blaenoriaethu gofod cyhoeddus iddyn nhw, a darparu mwy o gyfleusterau o ansawdd uchel iddyn nhw eu defnyddio, fel y cae 3G newydd yma."

 

 

Datblygwyd caeau 3G maint llawn newydd hefyd gyda phartneriaid yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Stadiwm Lecwydd ac ar safle Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni. Mae yna hefyd gaeau yn Ysgol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain gyda chaeau wedi'u cynllunio ar y gweill yn Ysgol Uwchradd Teilo Sant, yn ogystal â'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Willows, ac Ysgolion Uwchradd Cathays. Mae pob llain ar gael i'r gymuned i archebu.