Back
Trefniadau Derbyn Ysgolion Caerdydd 2024/25

23/3/2023

Ymgynghorwyd yn ddiweddar ar Drefniadau Derbyn Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer 2024/25, ac mae’r canfyddiadau wedi’u cyflwyno i'r Cabinet yn  y cyfarfod ddydd Iau 23 Mawrth.  

Mae gofyn i Awdurdodau Lleol adolygu eu Trefniadau Derbyn i Ysgolion yn flynyddol.  Mae'r newidiadau arfaethedig i drefniadau 2024/25 yn cynnwys addasiadau i broses dderbyn gydlynol ysgolion Caerdydd, sef y drefn sy’n galluogi rhieni i wneud cais am le mewn ysgol gan ddefnyddio un ffurflen yn unig ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ffydd) ac ysgolion sefydledig.

Wedi'i reoli'n llwyddiannus ers blwyddyn dderbyn 2018/2019, ehangwyd proses dderbyn gydlynol ysgolion Caerdydd ac erbyn hyn mae'n cynnwys pob un o'r deuddeg ysgol Uwchradd Gymunedol, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (ysgol sefydledig) ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir/ffydd). Yn ogystal, mae 20 o ysgolion ffydd cynradd wedi ymuno â 75 o ysgolion cynradd cymunedol.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog wedi cytuno i ymgynghori ar ei threfniadau derbyn ar gyfer 2024/2025, a fyddai'n cynnwys cydlynu ei derbyniadau gyda'r Cyngor.

Roedd y farn a gyflwynwyd yn ystod ymgynghoriad y Cyngor yn fras yn cefnogi'r cynllun hwn ac roedd ymatebion yn awgrymu y byddai hyn yn gwneud cais am le mewn ysgol yn decach, yn fwy syml a bod teuluoedd yn fwy tebygol o gael un o'r ysgolion y maen nhw'n eu ffafrio. Nodwyd hefyd bod ysgolion sy’n parhau y tu allan i'r cynllun derbyn wedi'i gydlynu, ar eu colled pan fydd rhieni'n sicrhau llefydd dewis cyntaf mewn mannau eraill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae proses dderbyn gydlynol Caerdydd yn annog trefn fwy cydradd o ddyrannu lleoedd mewn ysgolion ac yn gwneud y broses o wneud cais mor deg a syml â phosibl i deuluoedd.

"Mae'n galonogol bod yr ymatebion o blaid ehangu’r broses dderbyn gydlynol a fydd nid yn unig yn symleiddio'r broses ond hefyd yn atal rhieni rhag derbyn nifer o gynigion sy'n atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn.

“Gall rhieni nodi ysgolion yn nhrefn eu dewis wrth wneud cais sy'n rhoi gwell cyfle i sicrhau ysgol a ffefrir yn y rownd gyntaf o dderbyniadau ac sy’n osgoi straen diangen i'r teuluoedd na fyddent fel arall yn cael lle.  Mae hyn wedi'i gadarnhau yn y ganran uwch o blant y dyrannwyd llefydd mewn ysgolion uwchradd a ffefrid ganddynt eleni."

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys trefniadau mynediad ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ac Ysgol Gynradd Groes-wen yn natblygiad newydd Plasdŵr.

Mae newidiadau arfaethedig eraill i Drefniadau Derbyn Ysgolion Caerdydd ar gyfer 2024/25 yn cynnwys manylion ynghylch eglurhad ar Blant ag ADY sydd â CDU (Cynllun Datblygu Unigol) ac eglurhad am yr amserlen ar gyfer gwneud cais ymlaen llaw cyn dechrau ar le mewn ysgol ar gyfer ceisiadau 'yn ystod y flwyddyn'. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllenyma.