23/3/2023
Bydd cynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus y gwanwyn hwn, ar ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn cytuno arnynt.
Mae’r cynigion
- sy’n anelu at sicrhau’r cydbwysedd cywir o ran darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg
a chyfrwng Saesneg sy'n gallu bodloni'r galw presennol ac yn y dyfodol yn yr
ardal - wedi eu datblygu er mwyn ymgynghori arnynt gydag ysgolion,
llywodraethwyr, rhieni a phlant.
Mae tri opsiwn posib yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau sydd wedi'u llunio
i wella cyfleoedd dysgu ac er mwyn helpu i leddfu unrhyw bwysau ariannol sy'n
cael ei brofi gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd.
Y dewisiadau yw:
Opsiwn 1
·
Sefydlu Ysgol Gynradd Saesneg
newydd â 420 o leoedd (2DM) drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Gladstone ac
Allensbank, gyda meithrinfa ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone
/ Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica
·
Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys
yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd
Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
·
Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn
trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o
leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.
Opsiwn 2
·
Byddai Ysgol Gynradd Allensbank
yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone/Ysgol Gynradd yr
Eglwys yng Nghymru Santes Monica, a byddai'r ysgol yn lleihau ei chapasiti o
315 o leoedd i 210 o leoedd, gyda'r ystod oedran yn lleihau o 3-11 i 4-11 drwy derfynu
darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
·
Byddai nifer y lleoedd meithrin
yn Ysgol Gynradd Gladstone yn cynyddu o 64 i 96
·
Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys
yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd
Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
Opsiwn 3
·
Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn
trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan ac yn lleihau ei chapasiti o
315 i 192 o leoedd.
·
Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo
i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd,
gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd
Sarah Merry: "Ar ddechrau 2021, ymgynghorwyd ar gynnig dros dro ar gyfer
Ysgol Mynydd Bychan ac Ysgol Gynradd Allensbank ac ar ôl gwrando ar yr adborth,
cytunwyd bod angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â lleoedd ysgol yn yr
ardal.
"Mae pob un o'r opsiynau newydd wedi'u dyfeisio'n ofalus i sicrhau bod
y nifer iawn o lefydd cyfrwng Saesneg yn parhau i gael eu cynnig mewn cyfleusterau
gwell yn wardiau Cathays a Gabalfa, a bod y rhain yn cael eu trefnu mewn ffordd
sy'n cefnogi'r ysgolion i ddod yn fwy cynaliadwy wrth roi sylw i'r galw am leoedd
cyfrwng Cymraeg.
"Pe bai'r cynigion yn symud ymlaen, byddai'r cynigion yn helpu i ail-gydbwyso
nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg sy'n golygu y bydd nifer mwy o
blant yn cael mynediad i'w hysgol leol. Yn ogystal, drwy ailddefnyddio asedau presennol
yn fwy effeithlon a thrwy weithio ar y cyd, byddai'r ysgolion dan sylw yn mwynhau
nifer o fanteision gan gynnwys gwell adnoddau a chyfleoedd dysgu ar gyfer
disgyblion a staff. Mae'r cynigion yn cadw'r holl adeiladau presennol fel y
gall cymuned yr ysgol fod â sicrwydd y bydd digon o lefydd i ymateb i unrhyw
newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."
Byddai'r cynlluniau hefyd yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i
ddatblygu addysg Gymraeg a chyflawni targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn
'Cymraeg 2050'.
Bydd y newidiadau
arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025. Byddai Opsiwn 1 a 2 yn
destun arweiniad a chytundeb gyda Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf fel Perchennog
cofrestredig safle Santes Monica.
Byddai opsiwn 2 a 3 yn galluogi rhoi mwy o ystyriaeth i
gydweithredu/ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol
Gynradd Gladstone.
Mae manteision amlwg i gydweithredu/ffedereiddio ar gyfer ysgolion sydd
wedi'u lleoli naill ai ar yr un safle neu yn yr un gymuned gan ei fod yn eu
galluogi i gydweithio ar flaenoriaethau a rennir, cronni arbenigedd, gwneud
gwell defnydd o adnoddau ac archwilio ffyrdd o wneud pethau'n fwy effeithiol er
budd eu dysgwyr a’r gweithlu.
Aeth
yr adroddiad gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ddydd Iau 23 Mawrth
2023. Mae’r adroddiad i’w weld yma.