Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Mawrth 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: helpu i fynd i'r afael â phwysau tai'r dinas;campfeydd y ddinas am helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig; a yr Arglwydd Faer yn cynnal Seremoni Gŵyl y Gymanwlad.

 

Helpu i fynd i'r afael â phwysau tai'r dinas

Mae perchnogion eiddo gwag hirdymor yng Nghaerdydd wynebu cynnydd pellach yn eu taliadau treth gyngor o dan gynlluniau newydd i helpu i leddfu'r pwysau ar argaeledd tai yn y ddinas.

O fis Ebrill ymlaen, bydd premiwm treth gyngor o 50% yn codi i 100% ar gyfer cartrefi sy'n wag a heb eu dodrefnu am fwy na blwyddyn mewn ymgais i annog perchnogion i ddod â'r eiddo hyn yn ôl i ddefnydd.

Bydd ail gartrefi yn y ddinas ac anheddau wedi'u dodrefnu nad ydynt yn brif gartref i unrhyw un hefyd wynebu premiwm o 100% o fis Ebrill 2024 ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo gan y Cabinet yn gynharach fis yma, a'r Cyngor Llawn.

Rhoddodd Deddf Tai (Cymru) 2014 y disgresiwn i gynghorau gymhwyso premiwm o hyd at 100% ar ben y gyfradd treth gyngor safonol ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac ers Ebrill 2019, mae premiwm o 50% wedi'i gymhwyso i'r eiddo yma yng Nghaerdydd. Roedd y Ddeddf hefyd yn galluogi cynghorau i godi premiwm o hyd at 100% ar eiddo sydd ond yn cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd.

Mae'r rheoliadau wedi newid yn ddiweddar ac erbyn hyn mae gan Awdurdodau Lleol y pŵer i godi premiymau o hyd at 300% o'r tâl Treth Gyngor blynyddol.

Darllenwch fwy yma

 

Campfeydd y Ddinas am helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig

Gofynnir i gampfeydd a chlybiau ffitrwydd ar draws y ddinas ymuno â'r ymgyrch er mwyn helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Bydd tua 200 o fusnesau gan gynnwys clybiau celfyddyd ymladd, campfeydd bocsio a stiwdios pilates a ioga ar draw Caerdydd a'r Fro cyn hir yn derbyn gwybodaeth ac adnoddau er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y mater a'u galluogi i gyfeirio unrhyw gleientiaid sydd angen cymorth at ddarparwyr cymorth arbenigol lleol a chenedlaethol.

Yn dilyn llwyddiant y rhannu gwybodaeth a chyngor a wnaed gyda sefydliadau gwallt a harddwch ar draws y rhanbarth y llynedd, y gobaith yw y bydd ymestyn y fenter i leoliadau ffitrwydd yn codi ymwybyddiaeth ymhellach am gam-drin domestig a thrais rhywiol a'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

Darllenwch fwy yma

 

Yr Arglwydd Faer yn cynnal Seremoni Gŵyl y Gymanwlad

Cynhaliodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey, seremoni codi baner Diwrnod y Gymanwlad,  gan ymuno â mwy na 1000 o faneri'r Gymanwlad o amgylch y byd a godwyd ar yr un pryd i ddathlu'r teulu o genhedloedd gwych sy'n cwmpasu'r ddaear.

Mae Gŵyl y Gymanwlad eleni yn nodi deng mlynedd ers arwyddo Siarter y Gymanwlad.

Darllenwch fwy yma