Back
Campfeydd y Ddinas am helpu i fynd i'r afael â cham-drin domestig


10/3/23

Gofynnir i gampfeydd a chlybiau ffitrwydd ar draws y ddinas ymuno â'r ymgyrch er mwyn helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Bydd tua 200 o fusnesau gan gynnwys clybiau celfyddyd ymladd, campfeydd bocsio a stiwdios pilates a ioga ar draw Caerdydd a'r Fro cyn hir yn derbyn gwybodaeth ac adnoddau er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y mater a'u galluogi i gyfeirio unrhyw gleientiaid sydd angen cymorth at ddarparwyr cymorth arbenigol lleol a chenedlaethol.

Yn dilyn llwyddiant y rhannu gwybodaeth a chyngor a wnaed gyda sefydliadau gwallt a harddwch ar draws y rhanbarth y llynedd, y gobaith yw y bydd ymestyn y fenter i leoliadau ffitrwydd yn codi ymwybyddiaeth ymhellach am gam-drin domestig a thrais rhywiol a'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Roeddem yn falch iawn o lwyddiant yr ymgyrch wybodaeth a gyflwynwyd gennym i fusnesau gwallt a harddwch y llynedd, ar ôl cydnabod y rôl allweddol y gall gweithwyr proffesiynol yn y sector hwnnw ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r broblem - o sylwi ar arwyddion cam-drin, bod yn glust ddibynadwy i gleient a chael y wybodaeth gywir i allu cyfeirio unrhyw un y maen nhw'n poeni amdanynt tuag at gymorth priodol.

"Rydym yn teimlo y gall campfeydd a chlybiau ffitrwydd ar draws y rhanbarth helpu yn yr un ffordd a thrwy ddarparu adnoddau, rydym yn rhoi i'r bobl sy'n gweithio yn y lleoliadau hyn yr hyn sydd ei angen arnynt i gyfarwyddo ac annog cleientiaid i gael cymorth a chefnogaeth.

"Ry'n ni'n awyddus i gael cymaint o lefydd â phosib yn rhan o'r ymgyrch."

Mae'r pecyn adnoddau sy'n cael ei yrru allan i fusnesau yn eu cyfeirio at gynlluniau fel cynllun 'Cenhadon Hola Fi' Cymorth i Fenywod yng Nghymru, cynllun 'Mannau Diogel' Caerdydd AM BYTH a hyfforddiant am ddim gan Lywodraeth Cymru ar-lein a all helpu pobl i sylwi ar arwyddion cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae ymarferwyr gwallt a harddwch hefyd yn cael eu hannog i ddod yn Hyrwyddwyr neu Genhadon Rhuban Gwyn i gefnogi'r mudiad byd-eang a ddechreuwyd gan ddynion sydd wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod.

Mae'r cynllun gwybodaeth yn rhan o ymgyrch ehangach yn y ddinas i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol a'r gefnogaeth sydd ar gael.  Mae tocynnau bws ar gyfer cwmnïau sy'n gweithredu ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg ar hyn o bryd yn cario hysbysebion ar gyfer Byw Heb Ofn, y llinell gymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol genedlaethol. Bydd 1.4 miliwn o docynnau yn cael eu rhoi ar draws y rhanbarth dros gyfnod yr ymgyrch.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol gallwch ofyn am help a chefnogaeth gan y gwasanaeth Byw Heb Ofn.
@BywHebOfn #BywHebOfn Rhadffôn 0808 80 10 800 Neges Destun 0786 007 7333
E-bost gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Sgwrs fyw llyw.cymru/byw-heb-ofn

 Os ydych yn fusnes lleol a hoffai dderbyn pecyn gwybodaeth, anfonwch e-bost at:Nicola.jones2@caerdydd.gov.uk

 Dilynwch y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #rhubangwyncaerdyddarfro