10 Mawrth 2023
Neithiwr pleidleisiodd Aelodau Etholedig Cyngor Caerdydd dros gyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, sy'n helpu i greu swyddi newydd, codi cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, ac a luniwyd i helpu Caerdydd ddod yn ddinas Gryfach, Gwyrddach a Thecach.
Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth y cyngor ymgynghori ledled y ddinas ar sut y gallai bontio diffyg ariannol o £24m yn ei gyllideb. Gofynnwyd i'r trigolion am eu barn ar sawl cynnig arbed costau a syniadau cynhyrchu arian a allai helpu diogelu'r gwasanaethau yr oeddent yn teimlo oedd bwysicaf iddyn nhw.
Fe wnaeth bron i 6,000 o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad chwe wythnos a ofynnodd ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys:
Nawr, yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, pleidleisiodd y Cyngor Llawn dros gynigion a fydd yn pontio'r diffyg ariannol o £24m yng nghyllideb y cyngor tra'n canolbwyntio ar yr hyn mae trigolion yn ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw.
Mae'r cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad Treth Gyngor ar 3.95% - llawer yn is na'r gyfradd chwyddiant a thua £1 yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Byddai'r cynnydd hwn gyda'r cynnydd treth gyngor isaf yng Nghymru eleni.
Bydd ysgolion yn cael £25m y flwyddyn yn ychwanegol er mwyn helpu i ddelio â chostau cynyddol, a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant yn cael £23m yn ychwanegol. Bydd Amgueddfa Caerdydd yn parhau ar agor yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais am y tro a bydd oriau agor yr Hybiau a'r Llyfrgelloedd hefyd yn aros yr un fath. Dan y gyllideb fe fydd cynlluniau i ymchwilio i gynnig gan Academy Music Group i gymryd yr awennau dros Neuadd Dewi Sant, a fyddai'n diogelu'r calendr digwyddiadau clasurol a chymunedol wrth uwchraddio'r neuadd hefyd, yn cael eu hymchwilio'n llawn. Roedd 59% o'r rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad o blaid yr opsiwn hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Bu bron i ddwbl nifer y bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad eleni. Does gen i fawr o amheuaeth eu bod wedi'u hysgogi gan yr argyfwng costau byw a'r effaith y mae'n ei chael ar draws y genedl. Roedden nhw eisiau i'r cyngor hwn wybod y gwasanaethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw a'r rhai maen nhw am i ni eu diogelu. Y gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau, bywydau eu plant, a bywydau eu teuluoedd ehangach. Roedd yn amlwg bod addysg a help i'r bobl fwyaf bregus, ac i'r rhai oedd yn byw yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn uchel ar eu rhestr.
"Rydym wedi gwrando ar farn ein trigolion ac wedi dileu rhai o'r opsiynau arbedion y buom yn ymgynghori arnynt. O ran Hybiau a Llyfrgelloedd, nid yw cynigion i leihau oriau agor a/neu gau ar benwythnosau wedi eu symud ymlaen. Mae unrhyw newidiadau'n cael eu cyfyngu i gael gwared ar nifer fach o swyddi gwag hirdymor yn y gwasanaeth.
"O ran prydau ysgol, mae'r Cabinet wedi lleihau cynnydd arfaethedig mewn prisiau i 5% (roedd ymgynghoriad wedi ei seilio ar gynnydd o 10% yn sgil costau bwyd cynyddol). Bellach wedi'i gytuno gan y Cyngor Llawn, mae hyn yn golygu y byddwn yn parhau i ddarparu cymhorthdal sylweddol i'r gwasanaeth hwn ar draws ein hysgolion.
"Ac yn olaf, mae'r cynnig i leihau'r cynnig yn Amgueddfa Caerdydd a/neu newid i wasanaeth symudol wedi cael ei dynnu allan gan y Cabinet. Yn hytrach, byddwn yn gweithio gydag ymddiriedolwyr yr amgueddfa i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r amgueddfa, gan gynnwys edrych ar opsiynau ar gyfer lleoliad arall."
Daw'r rhan fwyaf o gyllideb y cyngor (74%) o grant Llywodraeth Cymru. Daw'r 26% sy'n weddill o'r Dreth Gyngor. Mae'r rhan fwyaf o gyllideb y cyngor - tua dwy ran o dair (66%) - yn cael ei gwario ar gynnal ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Heb gynnydd yn y dreth gyngor gallai nifer o'r gwasanaethau pwysig eraill y mae'r cyngor yn eu darparu, fel llyfrgelloedd a hybiau, gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol.
Yn union fel y mae cyllidebau cartrefi wedi cael eu gwasgu gan gostau cynyddol a chwyddiant felly hefyd cyllideb y cyngor. Bydd yn costio £76m yn fwy i'r cyngor ddarparu'r gwasanaethau y daeth preswylwyr i'w disgwyl yn 2023/24, ond hyd yn oed gyda chynnydd o 9% gan Lywodraeth Cymru, £52m yw'r cyllid ychwanegol sydd ar gael i helpu i dalu am y costau hyn - sy'n golygu bod angen ateb diffyg ariannol o £24m.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydym yn ymwybodol iawn o'r argyfwng costau byw, sy'n cael ei deimlo gan bobl ar draws y ddinas, ond heb godi'r dreth gyngor ni fyddem yn gallu diogelu'r gwasanaethau sy'n bwysig i'n trigolion. Bydd hyn ymhlith y cynnydd isaf mewn Treth Gyngor yng Nghymru, sydd ymhell yn is na chwyddiant, ond bydd yn dod â £6.5m yn ychwanegol. Yn allweddol, bydd y cynnydd hwn yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion wedi dod i ddibynnu arnynt. Yr un mor bwysig, bydd unrhyw un sy'n cael trafferth talu ac yn gymwys yn gallu cael cymorth trwy'r cynllun gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
"Wrth gwrs, nid yw'r cynnydd yma yn y dreth gyngor yn golygu na fydd yn rhaid i ni wneud arbedion. Byddwn yn parhau i symleiddio ein prosesau a'r flwyddyn nesaf byddwn yn gwneud £10.1m mewn arbedion effeithlonrwydd a £4.8m pellach mewn arbedion corfforaethol a 2.8mchynigion i newid gwasanaethau. Daw'r arbedion hyn ar ben dros £200m rydym wedi torri o'n cyllideb dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn anffodus, bydd tua 173 o swyddi'n cael eu colli ar draws y cyngor, bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu gwneud drwy ddiswyddo gwirfoddol a chael gwared ar rolau gwag, ond mae'n amlwg iawn i mi fod llymder yn ôl - er mewn gwirionedd mae'n teimlo fel na aeth i ffwrdd erioed."
Mae Cyllideb 2023/24 hefyd yn cynnwys £2.8m mewn cynigion i newid gwasanaethau. Mae'r rhain yn wahanol i arbedion effeithlonrwydd gan eu bod yn cael effaith ar lefelau presennol o wasanaeth. Ymgynghorwyd ar gynigion newid gwasanaethau. Ar gyfer rhai cynigion mae'r ymgynghoriad yn cynnwys sefydliad neu grŵp penodol o ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n cael eu heffeithio'n benodol gan gynnig. Mae cynigion eraill wedi bod yn destun ymgynghoriad ar draws y ddinas.
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Rydw i am i drigolion wybod ein bod wedi gwrando ar eu barn, a'n bod yn dwyn cyllideb ger bron a fydd yn diogelu'r gwasanaethau sy'n golygu y mwyaf iddyn nhw - addysg, diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, a gofal cymdeithasol. Ac rydym yn gwneud hyn i gyd wrth gyflawni ein rhaglen gyfalaf pum mlynedd sy'n canolbwyntio ar ddod â swyddi newydd i'r ddinas, gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, codi cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, a gwneud Caerdydd yn ddinas gryfach, gwyrddach a thecach."
Bydd y gyllideb yn golygu:
Dangosodd yr ymgynghoriad ar y gyllideb fod:
Mae'r set lawn o gynigion cyllideb a ddaeth ger bron y Cyngor Llawn ddoe ar gael i'w gweld yma
Cyn hynny, cymeradwywyd y cynigion gan y Cabinet , ac fe gawson nhw eu harchwilio gan Bwyllgorau Craffu'r cyngor. Bydd modd gwylio recordiad o'r holl gyfarfodydd Craffu ar gynigion y Gyllideb drwy'r calendr cyfarfodydd sydd ar gael i'w weld yma
. Cliciwch ar y calendr, yna ar gyfarfod y pwyllgor unigol, yna'r agenda lle byddwch chi'n dod o hyd i'r ddolen we ar gyfer y ffrwd fideo.
Mae recordiad o gyfarfod y Cyngor Llawn ddoe ar gael i'w wylio yma
Fel rhan o'r Gyllideb, fe wnaeth y Cyngor ailddatgan ei ymrwymiad i'r buddsoddiad sydd wedi ei gynnwys yn ei Raglen Gyfalaf 5 mlynedd 2023/24 -2027/28. Bwriad y rhaglen yw creu swyddi, adeiladu mwy o gartrefi cyngor a gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â llu o fesurau eraill i wella'r ddinas.
Mae'n cynnwys y canlynol:
Gallwch ddarllen mwy yma am sut mae cyllideb y Cyngor yn gweithio a pham bod diffyg yn y gyllideb yma