Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Melyn o eira a rhew; angen cau ffyrdd gyda'r nos ar ran o Heol Caerffili; a mae menter newydd i wella gallu gwasanaeth cymorth gofal cartref.
Rhybudd Melyn y Swyddfa Dywydd - Eira A Rhew
Cyhoeddwyd ddydd Mawrth, 7 Mawrth 2023
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Melyn o eira a rhew o hanner nos heno tan 9am ddydd Iau, Mawrth 9, ar gyfer ardal sy'n cynnwys Caerdydd.
Mae'r arwyddion presennol a rennir â'r Cyngor yn dangos y gallai'r rhan fwyaf o'r ddinas ar adegau weld rhywfaint o eirlaw ac ychydig o eira a'r cyngor yw cymryd gofal ychwanegol wrth deithio. Fe allai ardaloedd uchel Caerdydd gael ychydig mwy o eira yn ystod y cyfnod rhybudd.
Caiff y llwybrau blaenoriaeth eu graeanu, ond dylid cymryd gofal ychwanegol o hyd, yn enwedig ar ffyrdd a phalmentydd heb eu trin.
Gall rhai ardaloedd ar draws y rhanbarth brofi llawer mwy o eira, a allai amharu ar deithio i Gaerdydd am gyfnod.
Am ragor o fanylion ewch i dudalen Rhybuddion Tywydd Swyddfa Dywydd y DU yma
Angen cau ffyrdd gyda'r nos ar ran o Heol Caerffili, Caerdydd er mwyn cryfhau pont reilffordd
Bydd y gwaith o gryfhau Pont Reilffordd Heol Caerffili yn dechrau ddiwedd mis Mawrth, gyda gwyriad ar waith i yrwyr tra bydd y gwaith yn digwydd.
Mae angen gwneud gwaith adferol ar y bont, sy'n eiddo i Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod y strwythur yn ddiogel.
Yn ystod y gwaith, bydd ffyrdd yn cael eu cau yn ystod y nos ar Heol Caerffili (A469) rhwng Tŷ-Wern a Waun-y-Groes Avenue ar yr amserau a'r dyddiadau canlynol:
O 8pm ar 25 Mawrth tan 5am ar 26 Mawrth
O 8pm ar 1 Ebrill tan 5am ar 2 Ebrill
O 8pm ar 15 Ebrill tan 5am ar 16 Ebrill
O 8pm ar 22 Ebrill tan 5am ar 23 Ebrill
O 8pm ar 29 Ebrill tan 5am ar 30 Ebrill
O 8pm ar 6 Mai tan 5am ar 7 Mai
O 8pm ar 13 Mai tan 5am ar 14 Mai
O 8pm ar 20 Mai tan 5am ar 21 Mai
O 8pm ar 27 Mai tan 5am ar 28 Mai
Ar gyfer pob cerbyd modur sydd o dan 14.9 troedfedd o uchder, bydd gwyriad ar waith ar hyd Heol Heathwood, Heol y Fid-las, Rhodfa Tŷ-Glas a Heol Tŷ Glas.
Ar gyfer unrhyw gerbydau sy'n uwch na'r cyfyngiad uchder hwn, bydd gwyriad ag arwyddion ar waith ar hyd Heol Tŷ Wern, Heol Pant-bach, Heol Beulah ac yn ôl i Heol Caerffili.
Rydym ar ddeall y bydd y gwaith ar y bont reilffordd yn cael ei gwblhau ddechrau Mehefin.
Ar dy feic - mae gweithwyr gofal hapusach a mwy heini yn cynnig gwasanaethau gwell
Mae menter newydd i wella gallu gwasanaeth cymorth gofal cartref y ddinas yn hybu iechyd a lles rhai o weithwyr mwyaf hanfodol y ddinas, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae cynllun ariannu grant beiciau trydan y Cyngor i weithwyr gofal wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda'r rhai a gymerodd ran yn teimlo'n hapusach ac yn fwy heini, yn ogystal ag yn well eu byd yn ariannol drwy orfod gwario llai ar danwydd.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, gwahoddodd y Cyngor ddarparwyr gofal ar draws y ddinas i wneud cais am grantiau i brynu beiciau trydan i staff deithio rhwng cartrefi cleientiaid. Cafodd cyfanswm o £41,000 ei ddyfarnu i 14 o ddarparwyr gofal cartref yn y ddinas i brynu 41 beic i'w staff.
Dywedodd darparwyr gofal a gymerodd ran yn y cynllun y bu'n bosibl iddynt gynyddu nifer y galwadau gofal maen nhw'n eu gwneud yn sgil amseroedd teithio llai rhwng cleientiaid, a bod mwy o wasanaethau'n cael eu darparu ar amser, gydag effaith gadarnhaol ar yr unigolion hynny sy'n derbyn gofal a chymorth. Dywedodd rhai darparwyr hefyd fod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol o ran cadw staff.
Mae'r Cyngor ar fin lansio trydydd cynllun ariannu grant beiciau trydan oherwydd llwyddiant y ddau gyntaf ac, yn ogystal, mae'n datblygu cynllun gwersi gyrru, a fydd yn darparu cymorth ariannol i dalu i weithwyr gofal ddysgu gyrru, gan dalu am gost gwersi, trwydded yrru dros dro a'r profion theori ac ymarferol, gwerth hyd at £570.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion), y Cynghorydd Norma Mackie: "Mae gweithwyr gofal yn darparu rhai o'n gwasanaethau mwyaf hanfodol o ddydd i ddydd, gan gadw pobl fregus yn ein cymunedau yn ddiogel. Fodd bynnag, gyda'r pwysau costau byw rydym yn eu profi, fe wnaethon ni gydnabod bod costau tanwydd yn her sylweddol i ddarparwyr gofal cartref, gan effeithio ar gyfraddau recriwtio a chadw gweithwyr gofal."