7/3/23
Mae menter newydd i wella gallu gwasanaeth cymorth gofal cartref y ddinas yn hybu iechyd a lles rhai o weithwyr mwyaf hanfodol y ddinas, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae cynllun ariannu grant beiciau trydan y Cyngor i weithwyr gofal wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda'r rhai a gymerodd ran yn teimlo'n hapusach ac yn fwy heini, yn ogystal ag yn well eu byd yn ariannol drwy orfod gwario llai ar danwydd.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, gwahoddodd y Cyngor ddarparwyr gofal ar draws y ddinas i wneud cais am grantiau i brynu beiciau trydan i staff deithio rhwng cartrefi cleientiaid. Cafodd cyfanswm o £41,000 ei ddyfarnu i 14 o ddarparwyr gofal cartref yn y ddinas i brynu 41 beic i'w staff.
Dywedodd darparwyr gofal a gymerodd ran yn y cynllun y bu'n bosibl iddynt gynyddu nifer y galwadau gofal maen nhw'n eu gwneud yn sgil amseroedd teithio llai rhwng cleientiaid, a bod mwy o wasanaethau'n cael eu darparu ar amser, gydag effaith gadarnhaol ar yr unigolion hynny sy'n derbyn gofal a chymorth. Dywedodd rhai darparwyr hefyd fod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol o ran cadw staff.
Mae'r Cyngor ar fin lansio trydydd cynllun ariannu grant beiciau trydan oherwydd llwyddiant y ddau gyntaf ac, yn ogystal, mae'n datblygu cynllun gwersi gyrru, a fydd yn darparu cymorth ariannol i dalu i weithwyr gofal ddysgu gyrru, gan dalu am gost gwersi, trwydded yrru dros dro a'r profion theori ac ymarferol, gwerth hyd at £570.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion), y Cynghorydd Norma Mackie: "Mae gweithwyr gofal yn darparu rhai o'n gwasanaethau mwyaf hanfodol o ddydd i ddydd, gan gadw pobl fregus yn ein cymunedau yn ddiogel. Fodd bynnag, gyda'r pwysau costau byw rydym yn eu profi, fe wnaethon ni gydnabod bod costau tanwydd yn her sylweddol i ddarparwyr gofal cartref, gan effeithio ar gyfraddau recriwtio a chadw gweithwyr gofal.
"Pan ddaeth cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru, fe wnaethom ddyfeisio'r cynlluniau hyn mewn ymgynghoriad â'n darparwyr partner er mwyn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn, ac rydym wrth ein bodd gyda pha mor llwyddiannus mae'r cynlluniau wedi bod.
"Yn gyffredinol, dywedodd darparwyr eu bod wedi gweld effaith gadarnhaol ar les gweithwyr a'u bod yn teimlo y byddai e-feiciau ychwanegol a gwersi gyrru yn cefnogi'r gwasanaeth cartref ymhellach."
Dywedodd James Dwyer, Rheolwr Gyfarwyddwr Pineshield Health and Social Care Services: "Gwnaethom sefydlu cynllun beics ychydig fisoedd cyn i'r grant beiciau trydan gan y Cyngor gael ei gyhoeddi. Roedd hyn i gefnogi ein gweithwyr gofal gyda ffordd economaidd ac ymarferol o fynd o alwad i alwad.
"Rydym hefyd yn cydnabod yr agweddau amgylcheddol a llesol arddefnyddio beiciau yn lle ceir. Gwnaeth grant e-feiciau Cyngor Caerdydd wir roi hwb i'n cynllun. Roedd ein gweithwyr gofal a gafodd grant yn falch iawn, ac rwy'n credu iddo eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy.
"Fel darparwr gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd rydym wir yn gwerthfawrogi gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor i wneud gwelliant positif i'r ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu acigefnogi'r rhai sy'n gweithio'n galed i ddarparu'r gofal hwnnw."
Dywedodd gweithiwr gofal Pineshield, Thuchira: "Dwi wir yn gwerthfawrogi'r grant yma gan Gyngor Caerdydd i gael e-feic, ac i Pineshield am gael y weledigaeth i sefydlu cynllun beics. Fyddwn i ddim wedi gallu ei fforddio fel arall.
"Dwi'n ei ddefnyddio nawr i fynd o alwad i alwad a dwi'n teimlo'n fwy heini a hapus. Er mawr syndod i fi, mae'n gyflymach na gyrru mewn llawer o amgylchiadau."
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau gorau posib i bawb sy'n derbyn gofal yn y ddinas, a datblygodd Academi Gofalwyr Caerdydd i ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a mentora i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn weithiwr gofal neu ddychwelyd i'r maes ddysgu mwy am yr Academi ynwww.intoworkcardiff.co.uk/cy/ceiswyr-gwaith/academi-gofalwyr-caerdydd/