Byddai cyfnewid tir arfaethedig ym Mharc Maendy er budd gorau Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn ôl penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan Gabinet Cyngor Caerdydd, gan weithredu yn ei rôl fel Ymddiriedolwr yr elusen. Mae'r cyfnewid yn dal i fod yn amodol ar gydsyniad y Comisiwn Elusennau.
Nawr bod y cyfnewid wedi ei gymeradwyo gan Ymddiriedolaeth Parc Maendy, bydd cais yn cael ei wneud i'r Comisiwn Elusennau i gael eu cydsyniad i dir ym Mharc Cae Delyn ddisodli rhan o'r tir ym Mharc Maendy, sydd ar hyn o bryd yn dir a ddelir mewn ymddiried gan yr elusen.
Dim ond Aelodau Cabinet na fu ag unrhyw ran flaenorol yng nghynigion datblygu'r Cyngor ar gyfer tir Parc Maendy, ac heb unrhyw fuddiant personol nac unrhyw fuddiant arall sy'n rhagfarnu, a gymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Gadawodd pob Aelod Cabinet arall y cyfarfod.
Roedd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy annibynnol,yn cynnwys tri aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg, a sefydlwyd i reoli'r gwrthdaro buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau, eisoes wedi penderfynu bod y cyfnewid tir arfaethedig er budd gorau'r elusen ac wedi argymell cymeradwyo'r cyfnewid tir arfaethedig, yn amodol ar y chwe amod canlynol, y cytunwyd ar bob un ohonynt erbyn hyn:
Bydd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn cynnal cyfarfod arall (o fewn 90 diwrnod i ddyddiad ei gyfarfod diwethaf ar 23 Ionawr 2023) i gytuno ar y gwelliannau arfaethedig a argymhellir (a amlinellir yn amod 3), a allai fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach. Cytunodd y Pwyllgor, fodd bynnag, y gallai'r argymhellion a wnaed yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2023 gael eu hadrodd i'r Cabinet cyn dyddiad cyfarfod pellach y Pwyllgor er mwyn ystyried y gwaith gwella.