23/02/23
Mae penderfyniad ynghylch a yw cyfnewidiad tir arfaethedig ym Mharc Maendy er budd gorau Ymddiriedolaeth Parc Maendy i'w wneud gan Gyngor Caerdydd ar 2 Mawrth, gan weithredu yn ei rôl fel Ymddiriedolwr yr elusen.
Os caiff y cyfnewid tir ei gymeradwyo, bydd cais yn cael ei wneud i'r Comisiwn Elusennau am ei ganiatâd i dir ym Mharc Cae Delyn ddisodli rhan o'r tir ym Mharc Maendy, a ddelir dan ymddiried gan yr elusen ar hyn o bryd.
Yn ddiweddar penderfynodd Pwyllgor Cynghori Ymddiriedolaeth Parc Maendy,yn cynnwys tri aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg, a sefydlwyd i reoli'r gwrthdaro buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau, fod y cyfnewid tir arfaethedig er budd gorau'r elusen ac argymhellodd bod y Cabinet, fel Ymddiriedolwr, yn cymeradwyo'r cyfnewid tir arfaethedig, yn amodol ar chwe amod:
Os yw'r Ymddiriedolaeth yn cytuno gyda'r argymhelliad, a chyda pob un o'r chwe amod, caiff cais ei wneud i'r Comisiwn Elusennau i ofyn am eu caniatâd ar gyfer y cyfnewid tir.
Os bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnig unrhyw newidiadau i'r amodau a nodir gan y pwyllgor cynghori annibynnol, byddai'r addasiadau hyn yn cael eu cyfeirio'n ôl at y pwyllgor cynghori iddynt ystyried a fyddai'r addasiadau arfaethedig er budd gorau'r ymddiriedolaeth.
Dim ond Aelodau Cabinet sydd heb ymwneud yn flaenorol â chynigion datblygu'r Cyngor ar gyfer tir Parc Maendy, ac nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb personol neu ragfarn arall, fydd yn cymryd rhan yn y broses benderfynu. Bydd pob Aelod Cabinet arall yn tynnu'n ôl o'r cyfarfod.
Bydd Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy yn cynnal cyfarfod arall (o fewn 90 diwrnod i ddyddiad ei gyfarfod diwethaf ar 23 Ionawr 2023) i gytuno ar y gwelliannau arfaethedig a argymhellir (a amlinellir yn amod 3), a allai fod yn destun ymgynghori cyhoeddus pellach. Cytunodd y Pwyllgor, fodd bynnag, y gallai'r argymhellion a wnaed yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2023 gael eu hadrodd i'r Cabinet cyn dyddiad cyfarfod pellach y Pwyllgor er mwyn ystyried y gwaith gwella.
Cyn y penderfyniad gan Ymddiriedolaeth Parc Maendy, bydd y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad yn ystyried argymhellion y Panel Cynghori Annibynnol am hanner dydd Ddydd Mercher 1 Mawrth. Gellir gweld papurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod craffu cyhoeddus hwn yma a bydd ffrwd fyw o gyfarfod y pwyllgor ar gael yma.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd, gan weithredu fel ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Parc Maendy, yn derbyn yr adroddiad ar Barc Maendy yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir am 2pm Ddydd Iau, 2 Mawrth. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael i'w gweld yn nes at y dyddiad yma lle byddwch chi hefyd yn gallu gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod ar y diwrnod.