21/02/23
Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: erlyniad diweddar am dipio anghyfreithlon a chau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn nesaf (25 Chwefror).
Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £1,500 yn Llys Ynadon Caerdydd
Cafodd Nazir Ahmed, o Heol Albany, Caerdydd orchymyn i dalu ychydig dros £1,500 yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher diwethaf (15 Chwefror) am dipio anghyfreithlon yn East Bay Close yn Butetown.
Ar 19 Ionawr 19 y llynedd, ymwelodd swyddog gorfodi gwastraff ag East Bay Close, yn dilyn adroddiadau bod pum bag du, dau gês a gwastraff cyffredinol wedi'u gadael ar dir gwastraff.
Yn dilyn archwiliad pellach, gwnaeth nodiadau dosbarthu, llythyrau personol a hyd yn oed tag cyfeiriad ar un o'r cesys ddangos yn glir fod yr holl wastraff yn perthyn i Mr Ahmed.
Cafodd llythyr ei anfon at gyfeiriad Mr Ahmed i'w wahodd i gyfweliad dan rybudd er mwyn iddo allu egluro sut cafodd gwastraff o'i aelwyd ei dipio'n anghyfreithlon mewn ward nad yw'n byw ynddi. Ni chafwyd ymateb ar ddau achlysur, ac roedd yr Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £400 yn parhau heb ei dalu, felly cafodd yr achos ei ffeilio ar gyfer achos llys.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30806.html
Cyngor teithio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 25 Chwefror yng Nghaerdydd
Bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 4.45pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 12.45pm tan 8.45pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm a'i gadael yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Bydd y gatiau'n agor am 2.15pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30808.html