Back
Y newyddion gennym ni - 20/02/23

Image

16/02/23 - Llwyddiant triphlyg i Gyngor Caerdydd yn y Mynegai Stonewall diweddaraf

Mae Mynegai Stonewall 2023, a gyhoeddwyd heddiw, wedi dangos y cynnydd uchaf erioed yn sgôr gyffredinol Cyngor Caerdydd, gan ei wneud yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru ac yn y DU.

Darllenwch fwy yma

 

Image

14/02/23 - Lluniau o'r gwaith ar y gweill ar furlun newydd Betty Cambell MBE

Mae'r gwaith ar furlun enfawr o Betty Campbell MBE yn mynd rhagddo yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, ar ôl i blant o'r ysgol fynegi dymuniad i anrhydeddu pennaeth du cyntaf Cymru.

Darllenwch fwy yma:

 

Image

14/02/23 - Gwobr iechyd a lles bwysig i dair ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd

Mae tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o'r safon uchaf i hyrwyddo iechyd a lles ym mhob rhan o'u hysgolion.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/02/23 - Cyfle i chwaraeon a grwpiau cymunedol ym Mharc Hailey

Mae chwaraeon a grwpiau cymunedol yn cael cynnig cyfle i brydlesu'r ystafelloedd newid ym Mharc Hailey wrth i Gyngor Caerdydd geisio sicrhau buddsoddiad yn y cyfleusterau presennol a gwella cyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/02/23 - Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol

Mae strategaeth newydd sy'n nodi sut bydd y Cyngor yn defnyddio ei bŵer prynu i gefnogi ymrwymiad yr awdurdod at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn y ddinas wedi cael ei lansio.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/02/23 - Presenoldeb nôl ar y trywydd - Cyngor Caerdydd yn lansio ymgyrch newydd ar bresenoldeb ysgol

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ymgyrch i wella safonau presenoldeb ysgolion gyda'r nod bod pob plentyn a pherson ifanc ar draws y ddinas yn cael y cyfle gorau i gyflawni, er gwaethaf y tarfu ar addysg a achoswyd gan y pandemig.

Darllenwch fwy yma