Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Chwefror 2023

Dyma'ch diweddariad Ddydd Gwener, yn cynnwys:llwyddiant triphlyg i Gyngor Caerdydd yn y Mynegai Stonewall diweddaraf; Manylion y gwaith i greu murlun newydd o Betty Campbell; Diwrnod Cymunedol Trelái a Chaerau.

 

Llwyddiant triphlyg i Gyngor Caerdydd yn y Mynegai Stonewall diweddaraf

Mae Mynegai Stonewall 2023, a gyhoeddwyd heddiw, wedi dangos y cynnydd uchaf erioed yn sgôr gyffredinol Cyngor Caerdydd, gan ei wneud yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru ac yn y DU.

Mae'r perfformiad trawiadol hwn wedi golygu bod Caerdydd wedi ennill tair gwobr gan yr elusen: Cyflogwr Gwobr Aur Stonewall; 100 uchaf Cyflogwr Stonewall; a Grŵp Rhwydwaith Clod Uchel Stonewall, i gydnabod gwaith Rhwydwaith Cydraddoldeb Gweithwyr LHDT+ yr awdurdod lleol.

Yn dilyn asesiad helaeth o waith y cyngor dros y 12 mis diwethaf, mae Stonewall wedi dyfarnu sgôr o 109 pwynt, i fyny o 82.5 pwynt yn 2022. Mae bod yn safle rhif 35 yn gynnydd o 78 ar y flwyddyn flaenorol, pan osodwyd yr awdurdod lleol yn safle rhif 113. Mae Cyngor Caerdydd bellach yn 2ilyn y sector Llywodraeth a Rheoleiddio, a 10fedyn y Sector Cyhoeddus yn gyffredinol.

Mae rhestr 100 Cyflogwyr Gorau Stonewall ar gyfer 2023yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu staff a'u cwsmeriaid LHDTC+. Cafodd Cyngor Caerdydd ei ganmol am ei waith yn creu gweithle lle gall gweithwyr LHDTC+ fod yn nhw eu hunain yn llawn yn y gwaith.  Mae'r awdurdod lleol yn ymuno â nifer o gwmnïau adeiladu, cyfreithiol, iechyd, cyllid ac addysg a gyrhaeddodd y rhestr 100 Uchaf flynyddol o gyflogwyr LHDTC+ gynhwysol.

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb:  "Mae perfformiad gwych Cyngor Caerdydd ym Mynegai Stonewall eleni yn dyst gwirioneddol i ymdrechion aruthrol staff o bob rhan o'r sefydliad a rôl yr uwch arweinyddiaeth.

"Gwnaeth ein gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach ar gyfer Caerdydd a gyhoeddwyd y llynedd ymrwymiad clir ar ein rhan i adeiladu ar ein Statws Aur Stonewall fel rhan o'nhymrwymiad at gynwysoldeb LHDTC+, gyda'r nod o ddod ymhlith 100 cyflogwr gorau Stonewall a'r awdurdod lleol uchaf yng Nghymru ym Mynegai Stonewall.

"Rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod wedi cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, a mwy.  Fel Cyngor, yn ogystal â chael statws Aur wedi'i ddyfarnu i ni unwaith eto, cael ein henwi yn y 100 uchaf a bod yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru, ni hefyd yw'r awdurdod lleol gorau yn y DU. Hefyd, mae Stonewall wedi cydnabod y gwaith ar y cyd ar draws yr awdurdod lleol gyda Chlod Uchel i'r Grŵp Rhwydwaith, cymeradwyaeth haeddiannol i'n Rhwydwaith Cydraddoldeb Gweithwyr LHDT+, sy'n cynnwys gweithwyr o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor. Mae'r rhain i gyd yn gyflawniadau gwych, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn lle cynhwysol i weithio am flynyddoedd i ddod."

Darllenwch fwyyma

 

Manylion y gwaith i greu murlun newydd o Betty Campbell

Mae'r gwaith ar furlun enfawr o Betty Campbell MBE yn mynd rhagddo ynYsgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, ar ôl i blant o'r ysgol fynegi dymuniad i anrhydeddu pennaeth du cyntaf Cymru.

Daeth Betty yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Mount Stuart yn y 1970au ac arloesodd wrth ddysgu hanes a diwylliant pobl ddu yn ei hysgol, a roddodd ar gwricwlwm yr ysgol ddegawdau cyn y byddhanes pobl ddu yn cael ei ddysgu ymhob ysgol yng Nghymru.

Mae'r murlun newydd yn talu teyrnged i'w bywyd ac mae'n ein hatgoffa o'i hetifeddiaeth.

Meddai Ms Shubnam Aziz, athrawes yn yr ysgol: "Mae'r disgyblion yn falch iawn o Betty Campbell, Roedd hi'n arloeswraig ym maes addysg aml-ddiwylliannol ac amrywiaeth ac roedd yn un o sylfaenwyr Mis Hanes Pobl Dduon.

"Mae'r plant wedi dysgu am ei hetifeddiaeth ac am fod yn bobl fydd yn creu newid. Nhw ofynnodd am hyn.

"Mae ei hetifeddiaeth yn fyw ac yn iach ym Mount Stuart ac rydym yn falch ohoni a sut y cysegrodd ei bywyd i'r ysgol."

Dywedodd Ms Aziz iddi gwrdd â Betty Campbell ei hun pan oedd yn hyfforddi i fod yn athrawes, a nawr mae wyres Mrs Campbell, Rachel Clarke, yn cynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn yr ysgol gynradd, gan dynnu sylw at effaith barhaus y Pennaeth.

Yr arlunydd Bradley Rmer a beintiodd y gwaith eiconig 'My City, My Shirt' sydd wedi cael ei gomisiynu gan Brifysgol Caerdydd i baentio'r murlun.

Gallwch weld lluniau o sut mae'r murlun yn dod ymlaenyma

 

Diwrnod Cymunedol Trelái a Chaerau

Dydd Mawrth 21 Chwefror, yn ystod gwyliau'r hanner tymor bydd Diwrnod Cymunedol yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin ar Lôn Caerau rhwng 1pm a 4pm.

Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at bobl ifanc 11-20 oed all gymryd rhan yn y canlynol:

  • Pêl-droed
  • Gweithgareddau'r gampfa
  • Beic Smwddis
  • Ysgrifennu CV
  • Setiau pen Realiti Rhithwir
  • Troelli a cherddoriaeth
  • Maeth a gwneud tortilas ... a llawer mwy!

 

A bydd llu o sefydliadau yno yn cynnig gwasanaethau a chefnogaeth gan gynnwys:

  • Timau Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd:  Digidol, Ôl-16, a TCA!
  • Academi Pêl-droed Dinas Caerdydd
  • Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
  • Yr Hyb
  • Ymddiriedolaeth y Tywysog
  • Y Gwasanaeth Tân
  • Canolfan Hamdden y Gorllewin Better

 

Does dim angen archebu - dewch draw!  Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno!