Back
Llwyddiant triphlyg i Gyngor Caerdydd yn y Mynegai Stonewall diweddaraf

16/02/23 

Mae Mynegai Stonewall 2023, a gyhoeddwyd heddiw, wedi dangos y cynnydd uchaf erioed yn sgôr gyffredinol Cyngor Caerdydd, gan ei wneud yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru ac yn y DU.

 

TextDescription automatically generated

TextDescription automatically generated

TextDescription automatically generated

 

Mae'r perfformiad trawiadol hwn wedi golygu bod Caerdydd wedi ennill tair gwobr gan yr elusen: Cyflogwr Gwobr Aur Stonewall; 100 uchaf Cyflogwr Stonewall; a Grŵp Rhwydwaith Clod Uchel Stonewall, i gydnabod gwaith Rhwydwaith Cydraddoldeb Gweithwyr LHDT+ yr awdurdod lleol. 

Yn dilyn asesiad helaeth o waith y cyngor dros y 12 mis diwethaf, mae Stonewall wedi dyfarnu sgôr o 109 pwynt, i fyny o 82.5 pwynt yn 2022. Mae bod yn safle rhif 35 yn gynnydd o 78 ar y flwyddyn flaenorol, pan osodwyd yr awdurdod lleol yn safle rhif 113. Mae Cyngor Caerdydd bellach yn 2ilyn y sector Llywodraeth a Rheoleiddio, a 10fedyn y Sector Cyhoeddus yn gyffredinol. 

Mae rhestr 100 Cyflogwyr Gorau Stonewall ar gyfer 2023  yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu staff a'u cwsmeriaid LHDTC+. Cafodd Cyngor Caerdydd ei ganmol am ei waith yn creu gweithle lle gall gweithwyr LHDTC+ fod yn nhw eu hunain yn llawn yn y gwaith.  Mae'r awdurdod lleol yn ymuno â nifer o gwmnïau adeiladu, cyfreithiol, iechyd, cyllid ac addysg a gyrhaeddodd y rhestr 100 Uchaf flynyddol o gyflogwyr LHDTC+ gynhwysol. 

Dwedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb:  "Mae perfformiad gwych Cyngor Caerdydd ym Mynegai Stonewall eleni yn dyst gwirioneddol i ymdrechion aruthrol staff o bob rhan o'r sefydliad a rôl yr uwch arweinyddiaeth. 

"Gwnaeth ein gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach ar gyfer Caerdydd a gyhoeddwyd y llynedd ymrwymiad clir ar ein rhan i adeiladu ar ein Statws Aur Stonewall fel rhan o'nhymrwymiad at gynwysoldeb LHDTC+, gyda'r nod o ddod ymhlith 100 cyflogwr gorau Stonewall a'r awdurdod lleol uchaf yng Nghymru ym Mynegai Stonewall. 

"Rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod wedi cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, a mwy.  Fel Cyngor, yn ogystal â chael statws Aur wedi'i ddyfarnu i ni unwaith eto, cael ein henwi yn y 100 uchaf a bod yr awdurdod lleol gorau yng Nghymru, ni hefyd yw'r awdurdod lleol gorau yn y DU. Hefyd, mae Stonewall wedi cydnabod y gwaith ar y cyd ar draws yr awdurdod lleol gyda Chlod Uchel i'r Grŵp Rhwydwaith, cymeradwyaeth haeddiannol i'n Rhwydwaith Cydraddoldeb Gweithwyr LHDT+, sy'n cynnwys gweithwyr o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor. Mae'r rhain i gyd yn gyflawniadau gwych, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn lle cynhwysol i weithio am flynyddoedd i ddod." 

Stonewall yw prif elusen y DU ar gyfer cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, yn gweithio i greu byd lle mae pob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a chwiar yn rhydd i fod yn nhw eu hunain - lle bynnag y maen nhw. Fe'i sefydlwyd ym 1989 gan grŵp bach o bobl a oedd eisiau chwalu rhwystrau i gydraddoldeb. Mae Stonewall yn parhau i ymgyrchu ar Gydraddoldeb LHDT, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr ac ysgolion i greu amgylcheddau sy'n caniatáu i bobl LHDTC+ ffynnu. 

Dywedodd Nancy Kelley, Prif Weithredwr Stonewall (hi): "Mae wedi bod yn wych gweld yr holl waith a wnaed gan Gyngor Caerdydd dros y flwyddyn ddiwethaf i greu gweithle lle mae staff LHDTC+ yn teimlo'n rhydd i ffynnu fel nhw eu hunain. 

"I lawer ohonom, mae'r rhan fwyaf o'n hamser yn cael ei dreulio yn y gwaith, felly os oes rhaid i ni guddio pwy ydyn ni gall fod yn fwrn mawr arnon ni'n bersonol a'n rhwystro rhag cyflawni ein gwir botensial. Mae creu amgylcheddau lle gallwn ni i gyd deimlo'n gyfforddus yn gwneud ein gweithleoedd yn fannau mwy diogel, gwell a chyfeillgar i bawb ac yn helpu staff i fod yn falch o'r bobl ydyn nhw. 

"Rydym yn hynod falch o weld cymaint o newydd-ddyfodiaid o ystod o sectorau ar y rhestr eleni, sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl LHDTC+."