Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Chwefror 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys:Gwobr iechyd a lles bwysig i dair ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd; Be sy' mlaen yn Ystod Hanner Tymor mis Chwefror?; Galwad am wirfoddolwyr Caerdydd sy'n Deall Dementia; Ffair Swyddi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ddydd Iau yma.

 

Gwobr iechyd a lles bwysig i dair ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd

Mae tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o'r safon uchaf i hyrwyddo iechyd a lles ym mhob rhan o'u hysgolion.

Mae aseswyr Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru wedi rhoi'r Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach i Ysgol Gynradd Mynydd Bychan, Cathays, i Ysgol Tŷ Gwyn, Trelái ac i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Gabalfa am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gamp sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfranogiad disgyblion mewn meysydd craidd bywyd ysgol, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

"Mae'n gyflawniad rhagorol sy'n gofyn i ysgolion fynd drwy broses drwyadl dros naw mlynedd o leiaf, ac rwyf wrth fy modd bod tair ysgol arall yng Nghaerdydd wedi llwyddo i ennill y wobr, gan gydnabod gwaith caled y staff, y disgyblion a chymunedau ehangach yr ysgolion.

"Mae iechyd a lles yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd ysgol ac mae'r tair ysgol gynradd wedi dangos ystod eang o fentrau a gweithgareddau unigryw ac arloesol sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ddisgyblion a'u teuluoedd, gan helpu i hyrwyddo dyfodol hapus ac iach.

"Hoffwn longyfarch yr ysgolion yn bersonol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn ysbrydoli eraill i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau newydd a chyffrous ar gyfer eu hysgolion eu hunain"

Darllenwch fwy yma

 

Be sy' mlaen yn Ystod Hanner Tymor mis Chwefror?

Mae Caerdydd yn gyrchfan arbennig i blant ac oedolion fel ei gilydd. P'un a ydych chi'n chwilio am rywbeth i'r rhai bach, neu blant ifanc a'r rhai yn eu harddegau, mae ein prifddinas yn barod i greu atgofion hanner tymor cyffrous!

Edrychwch ar ein detholiad o'r awgrymiadau gorau isod. Hwyl ac am ddim, gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd, danteithion blasus, aros am gyfnod, symud o le i le.

Darllenwch fwy yma

 

Galwad am wirfoddolwyr Caerdydd sy'n Deall Dementia

Amser sbar i helpu Caerdydd ar ei thaith i ddod yn ddinas sy'n deall dementia?

Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i gefnogi siopau, busnesau a sefydliadau lleol ledled y ddinas i godi ymwybyddiaeth o sut y gallant ddeall dementia yn well er mwyn gwella profiad pobl sy'n byw gyda dementia sy'n defnyddio'u gwasanaethau.

Darllenwch fwy yma

 

Ffair Swyddi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ddydd Iau yma

Cynhelir Ffair Swyddi Cyflog Byw Gwirioneddol ddydd Iau 16 Chwefror, 11.30am - 2pm yn Hyb Grangetown, Plas Havelock, CF11 6PA.

Dysgwch am swyddi gwag gyda Chyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, IKEA, a llawer mwy. Cymerwch ran mewn cyfweliadau swydd anffurfiol, sesiynau un i un, hyfforddiant am ddim a chanllawiau swyddi gan gynnwys ysgrifennu CV a llythyr eglurhaol.

Gallwch fanteisio ar gymorth a chyngor ar gyfleoedd gwaith sy'n talu isafswm o £9.90ya sy'n cynyddu i £10.90ya ym mis Ebrill.

www.caerdyddarwaith.co.uk