14/2/2022
Mae tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o'r safon uchaf i hyrwyddo iechyd a lles ym mhob rhan o'u hysgolion.
Mae aseswyr Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru wedi rhoi'r Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach i Ysgol Gynradd Mynydd Bychan, Cathays, i Ysgol Tŷ Gwyn, Trelái ac i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Gabalfa am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gamp sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfranogiad disgyblion mewn meysydd craidd bywyd ysgol, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.
"Mae'n gyflawniad rhagorol sy'n gofyn i ysgolion fynd drwy broses drwyadl dros naw mlynedd o leiaf, ac rwyf wrth fy modd bod tair ysgol arall yng Nghaerdydd wedi llwyddo i ennill y wobr, gan gydnabod gwaith caled y staff, y disgyblion a chymunedau ehangach yr ysgolion.
"Mae iechyd a lles yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd ysgol ac mae'r tair ysgol gynradd wedi dangos ystod eang o fentrau a gweithgareddau unigryw ac arloesol sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ddisgyblion a'u teuluoedd, gan helpu i hyrwyddo dyfodol hapus ac iach.
"Hoffwn longyfarch yr ysgolion yn bersonol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn ysbrydoli eraill i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau newydd a chyffrous ar gyfer eu hysgolion eu hunain"
Mae uchafbwyntiau adroddiad Ysgol Mynydd Bychan yn cynnwys:
Wrth fyfyrio ar y newyddion da, dywedodd Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan, Siân Evans: "Rwy'n falch iawn o gymuned gyfan Ysgol Mynydd Bychan, yn enwedig y disgyblion a'r staff. Mae ein hysgol wastad wedi sicrhau bod iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol yn flaenoriaeth. Rydym yn falch iawn bod aseswyr y GAG wedi cadarnhau bod egwyddorion y cynllun ysgolion iach wedi'u hymwreiddio yn Ysgol Mynydd Bychan."
Uchafbwyntiau'r ymweliad ag Ysgol Tŷ Gwyn:
Dywedodd Jamie Brotherton, Pennaeth Ysgol Tŷ Gwyn: "Mae ennill y wobr yn gamp ardderchog i'r disgyblion, y staff, y llywodraethwyr, y teuluoedd a'r tîm o amgylch yr ysgol. Mae'r ysgol wedi gweithio fel rhan o'r Rhwydwaith Ysgolion Iach ers blynyddoedd lawer. Mae hyn wedi rhoi cyfarwyddyd a sicrwydd ansawdd i ni wrth ddatblygu arferion yn Ysgol Tŷ Gwyn sy'n cyd-fynd ag ethos ein hysgol.
"Drwy ennill y wobr mae'r disgyblion wedi dangos lefelau uchel o benderfyniad ac mae staff dan arweiniad y Cydlynydd Ysgolion Iach wedi bod yn hynod frwdfrydig ac ymroddedig. Bydd yr ysgol fel rhan o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn parhau i ddatblygu ei harferion ar draws iechyd a lles: maes sydd o bwys mawr i'n disgyblion."
Uchafbwyntiau'r ymweliad ag Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff
Wrth ymateb i'r wobr, dywedodd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Helen Wheeler: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y Wobr Ysgolion Iach Genedlaethol, gan gyflawni'r safonau uchaf ymhob un o'r saith agwedd iechyd a lles. Mae'n dangos yn glir ymrwymiad ac ymroddiad yr ysgol gyfan i gydweithio i hyrwyddo ac annog dewisiadau iach yn ein bywydau bob dydd.
"Rydym yn arbennig o falch o'n disgyblion gwych, sydd wedi gwneud gwaith gwych i hyrwyddo eu cenhadaeth i greu cymuned iach."
Dywedodd Gemma Cox, Prif Arweinydd Lleoliadau Addysg Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn falch iawn bod Ysgol Mynydd Bychan, Ysgol Tŷ Gwyn ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff wedi derbyn ein Gwobr Ansawdd Genedlaethol. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymgorffori iechyd a lles yn niwylliant eu hysgolion.
"Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach."